Agenda item

Ystyried adroddiad sydd yn rho i amlinelliad i aelodau ynghlyn a pharatoadau

Cofnod:

a)         Ar gais aelodau’r  Pwyllgor Craffu Cymunedau, cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, yn amlinellu trefniadau’r Cyngor i ymateb i argyfwng  Ffoaduriaid o Syria. Nodwyd yn gryno bod gofyn i Wynedd dderbyn hyd at 40 o bobl dros gyfnod o 4 mlynedd a hanner gyda’r bwriad o dderbyn 10 yn y lle cyntaf er mwyn dysgu o’r broses.

 

Amlygwyd bod Gwynedd wedi cynnig cefnogaeth ers y dechrau ac erbyn hyn yn rhan o Wedd2. Gyda niferoedd rhestrau aros am dai cymdeithasol yn uchel, byddai’r ffoaduriaid yn derbyn eiddo o fewn y sector breifat ac yn derbyn gwarchodaeth ddyngarol llawn am 5 mlynedd gyda hawl  i waith a budd daliadau. Derbyniwyd cadarnhad gan y Swyddfa Gartref bod pecyn ariannol ar gael i estyn cymorth ac i hwyluso integreiddio o fewn y gymuned a bod yr ymrwymiad ariannol yma (gan Lywodraeth San Steffan)  am gyfnod o 5 mlynedd.

 

O ran amserlen, adroddwyd bod chwe awdurdod yn ystyried y posibilrwydd o gytuno ar un dyddiad  ar gyfer derbyn ffoaduriaid ac yn y broses o gyflwyno amlinelliad i’r Swyddfa Gartref o’r llety sydd ar gael. Yn y cyfamser, bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’r ceisiadau ac yn gwneud asesiadau trylwyr er mwyn ymateb i’r hyn sydd ar gael.

 

Talwyd teyrnged i drigolion a mudiadau gwirfoddol Gwynedd yn eu hymgyrchoedd arbennig i gefnogi ffoaduriaid a nodwyd bod bwriad cynnal trafodaethau gyda mudiadau gwirfoddol er mwyn cydweithio i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau ac arbenigedd. Bydd bwriad hefyd cysylltu gyda 4 awdurdod arall o Gymru sydd eisoes wedi derbyn ffoaduriaid er mwyn dysgu a deall rhai agweddau ymarferol.

 

b)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’rcyfnod pum mlynedd’ o gefnogaeth, nodwyd mai integreiddio'r ffoaduriaid i gymdeithas yw'r brif nôd a bod hawl gan yr unigolion i ddychwelyd neu aros ar ôl y cyfnod. Bydd adnodd ariannol ar gael am bum mlynedd, ond y gobaith yw y bydd yr unigolion erbyn hynny, wedi gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas. Nodwyd mai'r tebygolrwydd yw mai teuluoedd fydd y rhain yn bennaf.

 

c)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r math o adnodd oedd yn cael ei gynnig gan y Llywodraeth, nodwyd bod iechyd ac addysg plant yn cael ei gyfarch a bod budd- daliadau uwchlaw hyn. Bydd gofyn bod yn ofalus a gwyliadwrus  o’r angen i weithio o fewn y pecyn ariannol a’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw llety addas. Ychwanegwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gydag Iechyd. Nodwyd bod trafodaethau gyda cholegau a darpariaethau cyfathrebu wedi cymryd lle.

 

d)         Mewn ymateb pellach i gwestiwn ynglŷn ag ystyried rhannu'r ffoaduriaid ar draws Gwynedd yn hytrach na lleoli'r ffoaduriaid yng Ngogledd y Sir, nodwyd bod y 10 cyntaf yn debygol o gael eu gosod yn y gogledd, ond ni fydd rhannau eraill o’r sir yn cael eu diystyru. Nodwyd bod y profiad yn cael ei werthuso   gydag ystyriaeth yn cael ei roi i adnabod cyfleoedd addysg, cyflogaeth a chymuned Syriaid

 

 

PENDERFYNWYD: Diolch am yr adroddiad gan nodi bod y Pwyllgor yn

           Cytuno a derbyn yr argymhelliad i groesawu ffoaduriaid i Wynedd

           Gefnogol i’r paratoadau trylwyr sydd wedi eu gwneud

           Amlygu’r  angen i baratoi'r gymuned leol ar gyfer derbyn ffoaduriaid er sicrhau plethiad i mewn i gymdeithas leol

           Croesawu’r defnydd o dai preifat fel na fydd effaith ar restrau tai cymdeithasol.

Dogfennau ategol: