Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2022) y dylid:

1.    Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2022) y dylid: 

1.    Sefydlu cyllideb o £295,232,820 ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213,210,400 a £82,022,420 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.95%.  

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £59,074,980 yn 2022/23 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd y penderfyniad. Eglurwyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad grant terfynol ar gyfer awdurdodau lleol ar yr 2 Mawrth. Mynegwyd fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft ar gyfer 2022/23 sydd yn gynnydd i’r hyn sydd wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd fod yn gynnydd o 8.8% sydd yn cyfateb i werth £18.1m.

 

Mynegwyd er y setliad rhesymol eleni fod nifer o ffactorau fydd yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau yn 2022/23. Eglurwyd yn ogystal a chyfarch graddfa chwyddiant mae cyfle i ymdrin a phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael a chostau parhaus sy’n deillio o Covid-19 a dileu neu ohirio cynllunio arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23. Mynegwyd fod gofynion gwario ychwanegol sydd wedi eu ystyried yn gyfanswm o £20.2m a tynnwyd sylw at bedwar pennawd o gynnydd arbennig.

 

Y cyntaf oedd chwyddiant cyflogau o £8.5m, a nodwyd fod y gyllideb yn neilltuo amcan cynnydd yng nghytundeb tal o 4% ar gyfer yr holl weithlu ac amlygwyd y bydd cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod yn weithredol yn Ebrill 2022. Yr ail oedd Chwyddiant Arall, ac eglurwyd fod y swm yn cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar gostau a ffioedd sy’n daladwy i gyflenwyr preifat ynghyd a chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd a prisiau yn dilyn ail-dendro.

 

Pwysau ar Wasanaethau oedd yn drydydd ac argymhellwyd cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau parhaol ychwanegol sydd wedi eu cyflwyno gan adrannau’r Cyngor i gwrdd a phwysau anorfod ar wasanaethau. Yn ychwanegol ar y bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w ariannu o’r Gronfa Trawsffurfiol. Y pedwerydd oedd pwysau Covid-19 o £1.4m. Mynegwyd ers Ebrill 2020 fod y Llywodraeth wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol y pandemig o’r Gronfa Caledi. Fodd bynnag, nodwyd fod y Llywodraeth wedi datgan y bydd y cymorth hwn yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2022 a bydd disgwyl i’r awdurdodau ariannu unrhyw gostau ychwanegol neu golled incwm o ganlyniad i’r pandemig yn dilyn hyn. Rhagwelir na fydd £1.4m yn ddigonol ac eglurwyd fod cronfeydd eraill o fewn y Cyngor ar gael i gynorthwyo megis y Gronfa adfer Cofid a sefydlwyd wrth gau cyfrifol yn 2020/23.

 

Nodwyd o ran cynlluniau arbedion fod y Cyngor wedi gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r hyblygrwydd mae’r setliad eleni yn ei gynnig ni fydd arbedion gwerth 1.8m a gynlluniwyd yn wreiddiol i’w gwireddu yn 2022/23 bellach ddim yn cyfrannu ar gau bwlch cyllidebol. Nodwyd mai £595,000 yw gwrth yr arbedion sy’n weddill yn y rhaglen i’w dynnu allan o gyllideb 2022/23 yn hytrach ‘na £2.4m.

 

Amlygwyd fod anghenion gwario’r Cyngor cyn tynnu arbedion ar gyfer 2022/23 yn £295.8m a nodwyd fod grant oddi wrth y Llywodraeth am fod yn £213.2m. Mynegwyd ar ôl ystyried arbedion o £0.6m, fod bwlch gweddillio o £82m ac argymhellwyd cyfarch y bwlch hwn drwy’r Dreth Cyngor a olygai cynnydd o 2.95%.

 

Wrth edrych i’r dyfodol amlygwyd fod Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r setliad drafft wedi cadarnhau bydd Awdurdodau Lleol yn derbyn +3.5% yn 2023/24 ac yna +2.4% yn 2024/25. Nodwyd y bydd y cynnydd yn sylweddol is ‘na’r hyn fydd yn cael ei dderbyn yn 2022/23. Mynegwyd wyth ystyried cyfraddau chwyddiant, bydd angen ail ymweled a chynlluniau arbedion pan yn cynllunio ar gyfer y blynyddoedd hyn.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod y setliad yn un da ond fod angen cadw golwg ar y setliad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf er mwyn gallu delio a y pwysau ychwanegol ar wasanaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Cefnogwyd y gyllideb a nodwyd balchder mwyn gallu ymrwymo arian dwy bidiau i’r mas gofal ynghyd a newid hinsawdd o £3m. Tynnwyd sylw at wariant o £330 ar drwydded cyfrifiadurol a nodwyd fod ffigwr yn uchel ar gyfer meddalwedd. Eglurwyd fod tîm yn y cefndir yn edrych ar feddalwedd technoleg gwybodaeth ar draws y Cyngor ond y bydd costau yn parhau ar hyn o bryd is sicrhau parhad gwasanaethau.

¾    Mynegwyd cefnogaeth i dynnu costau tocyn teithio Ôl-16 fydd yn cynnig mwy o gyfleodd i bobl ifanc ac yn gynllun sydd wir am wneud gwahaniaeth.

¾    Nodwyd fod y sefyllfa yn dda o’i gymharu a rhai blynyddoedd yn ôl ble roedd trafodaeth gyson am doriadau. Tynnwyd sylw at biliwn sydd bellach wedi ei golli o arian Ewropeaidd ar draws Cymru a nodwyd nad oes dim sôn o arian ychwanegol yn dod o Lywodraeth San Steffan.

¾    Pwysleisiwyd y buasai wedi bod yn hawdd i beidio codi y Dreth Cyngor yn enwedig mewn blwyddyn etholiad ond eglurwyd mai dyma’r penderfyniad cyfrifol i’w wneud.

 

Awdur:Dewi Morgan

Dogfennau ategol: