Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros Cefnogaeth Gorfforaethol. Nodwyd fod y Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Adran a tynnwyd sylw at rai o brif brosiectau’r Adran (Prosiect Prentisiaethau, Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid, Hysbysebu Swyddi a Datblygiad Hunaniaith) ynghyd a’r gwaith cefndirol sydd wedi ei wneud gan y Tîm Caffael. Eglurwyd fod gwaith blaenllaw wedi ei wneud yn y maes Cydraddoldeb i ddatblygu templed asesu effaith integredig sydd yn gosod ystyriaethau ieithyddol o fewn asesiadau effaith Cydraddoldeb, a bod y datblygiad yma wedi cael ei fabwysiadu gan weddill y 5 awdurdod yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchwyd y gwaith yma. Eglurwyd fod yr adran yn blaenoriaethu recriwtio mwy o staff dwyieithog, yn enwedig yn yr adran gyfreithiol.

 

Ategodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod holl staff yr Adran yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd bod yr Uned Iaith yn rhan o’r Adran ac yn dilyn penderfyniad y Cabinet, bod bwriad penodi Pen Swyddog Iaith i arwain Hunaniaith a’i ddatblygu i fod yn endid annibynnol tu hwnt i’r Cyngor i’r dyfodol.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Cadw’r Budd yn Lleol wedi ei ddatblygu i gynnwys ‘gwerth cymdeithasol’ fel rhan o’r ystyriaethau i gontractau busnesau. O ganlyniad, nodwyd fod datblygu sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnwys mewn contractau rhwng y Cyngor a chwmnïau allanol.

 

Ym maes Hysbysebu Swyddi, nodwyd fod gwaith wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Comisiynydd Iaith i allu derbyn ffurflenni DBS yn y Gymraeg (yn hytrach nag yn uniaith Saesneg) ynghyd a gwaith cyffelyb i annog derbyn tystysgrifau uniaith Gymraeg yng Nghymru yn ogystal â derbyn tystysgrifau dwyieithog os yn cofrestru yn Lloegr.

 

Pwysleisiwyd fod yr holl brentisiaethau sy’n ymuno a’r Cyngor yn cytuno i fuddsoddi yn y Gymraeg.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r gwaith cyfieithu rhithiol sy’n cael ei wneud dros Zoom. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddefnyddio Zoom i gael y gwasanaeth cyfieithu, er mai TEAMS ydi’r adnodd ffurfiol sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i gyfathrebu yn rhithiol yn ddyddiol. Mae’r Uned Gyfieithu bellach wedi llwyddo i addasu a hyfforddi i ddarparu’r gwasanaeth ar-lein ar ZOOM.

 

Nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn cyd-weithio gyda’r corff IOSH i ddefnyddio eu hadnoddau mewn sesiynau hyfforddi staff, yn benodol o fewn y maes Iechyd a Diogelwch. Dywedwyd mai yn Saesneg yr oedd yr adnoddau i gyd yn cael eu derbyn yn hanesyddol, ond bod y Cyngor wedi pwyso i gael caniatâd i gyfieithu’r adnoddau er mwyn sicrhau bod ein staff yn gallu cwblhau’r gwaith yn Gymraeg.

 

Atgoffwyd yr aelodau fod yr Adran yn parhau i rannu Tip Cymraeg y mis i’r staff gael atgoffau eu hunain o reolau gramadegol amrywiol yn y Gymraeg a bod caniatáu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn un o brif flaenoriaethau ‘Cynllunio’r gweithlu’

 

Tynnwyd sylw at hysbyseb gan Brifysgol Bangor am fyfyriwr i gyflawni ymchwil PhD mewn defnydd y cyhoedd o wasanaethau Cymraeg mewn sefydliad cyhoeddus. Eglurwyd y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio ar y prosiect ac y bydd y dystiolaeth ymchwil yn cael ei gasglu drwy’r Cyngor.

 

Sylwadau a godwyd o’r drafodaeth ddilynol:

  • Gofynnwyd a oedd pryder fod dim digon o bwyslais i gael cymhwyster iaith Gymraeg i ddisgyblion o fewn addysg. Eglurwyd fod y Cyngor yn pwysleisio pwysigrwydd dwyieithrwydd o fewn gyrfaoedd. Nodwyd fod nifer yn cael eu denu i gyfleoedd megis y prentisiaethau gan eu bod yn cael eu cynnig yn gwbl ddwyieithog. Tynnwyd sylw at y gwaith mae Hunaniaith wedi bod yn ei wneud gyda disgyblion oed 16 i 18 i nodi pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle. Un o’r ffyrdd maent wedi gwneud hyn yw drwy gynnal cynhadledd flynyddol ar y cyd gyda Grŵp Llandrillo Menai a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gwadd unigolion megis Nikki Pilknigton i egluro’r manteision sydd wedi dod o ganlyniad i ddefnydd o’r Gymraeg.
  • Gofynnwyd am gadarnhad os bydd Hunaniaith yn gweithio yn allanol i’r Cyngor rhyw ddiwrnod. Eglurwyd nad oedd hyn yn debygol yn y tymor byr ond mai dyna’r nod a dymuniad yn y tymor hir.
  • Gofynnwyd os dylid addasu hysbysebiadau swydd i leddfu poenau pobl am eu hyfedredd yn y Gymraeg. Nodwyd fod hyn yn cael sylw.
  •  Gofynnwyd a oedd lle i ddatblygu fforwm neu gyfarfod traws-sefydliadol i drafod y pryder recriwtio a geir ar hyn bryd? Eglurwyd fod cynllunio gweithlu yn cael ei gynnwys yng Nghynllun y Cyngor, ac o ganlyniad i hyn fe fydd cyfleoedd pellach i ystyried hyn. Nodwyd fod cydweithio presennol gyda’r Coleg Cymraeg i annog cyswllt rhwng sefydliadau a gobeithir y daw trafodaethau o beth yw’r trafferthion presennol daw ar draws y sefydliadau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: