Agenda item

Cyflwyno canlyniadau’r gwaith ymchwil er gwybodaeth i’r aelodau.

 

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau

·       Cyfeirio cais gan aelodau’r Pwyllgor at yr Aelod Cabinet perthnasol i ystyried diweddaru’r wybodaeth yn dyfodol

Cofnod:

9.

ADRODDIAD YMCHWIL TAI NEWYDD YNG NGWYNEDD

 

Cyflwynwyd canlyniadau’r ymchwiliad gan Reolwr Ymchwil a Gwybodaeth. Adroddwyd bod yr ymchwil yn waith a gomisiynwyd gan Dîm Arweinyddiaeth  y Cyngor yn 2018 i gasglu tystiolaeth am y maes fel bod gwybodaeth wrth gefn ar gyfer gwahanol swyddogaethau Cyngor ym meysydd tai, cynllunio, yr Iaith Gymraeg, ayyb.

 

Ymwelwyd â phob tŷ oedd wedi eu hadeiladu o’r newydd yng Ngwynedd o fewn cyfnod penodol, gan holi pwy oedd yn byw yno, o ble roeddent wedi symud a’u rhesymau dros ddewis tŷ newydd yn yr ardal. Holwyd hefyd lle roeddent yn byw o’r blaen er mwyn casglu gan gasglu tystiolaeth o’r gadwyn tai cyn symud i dŷ newydd. Nodwyd bod dau fersiwn o’r canlyniadau - fersiwn gryno a fersiwn lawn yn manylu ar y canfyddiadau. Eglurwyd mai y bwriad oedd cyflwyno’r wybodaeth fel rhan o ddigwyddiad torfol ar faterion tai yn ystod 2020, ond yn sgil covid,  nad oedd digwyddiad o’r fath wedi bod yn ymarferol. Ategwyd, gyda marchnad dai lleol wedi ei thrawsnewid yn ystod y cyfnod covid, bod casgliadau‘r ymchwiliad wedi dyddio ynghynt na’r disgwyl.

 

Amlygwyd bod holl aelodau etholedig y Cyngor wedi cael cyfle i glywed y cyflwyniad am y gwaith mewn sesiwn biffio ym mis Rhagfyr 2021.

 

Trafodwyd rhai o’r prif ganfyddiadau gan ymhelaethu ar casgliadau’r ymchwiliad i faterion Iaith

  • Bod  y cyfran o breswylwyr y tai newydd oedd yn siarad Cymraeg (sef 68%) yn debyg iawn i’r cyfran ymysg poblogaeth Gwynedd yn gyffredinol yn y Cyfrifiad diwethaf (sef 65%).
  • Bod patrwm fesul grŵp oedran yn dangos fod preswylwyr ieuengach tai newydd yn fwy tebygol o siarad Cymraeg na rhai hŷn, gyda 91% o blant 3 – 11 oed a 68% o bobl 25-44 oed yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r cyfran isaf (sef 47%) ymhlith y grŵp oedran 65 – 84 oed.
  • Bod preswylwyr tai newydd mewn datblygiadau “bychan” (4 tŷ neu lai) ychydig yn fwy tebygol o fod yn gallu siarad Cymraeg na phreswylwyr datblygiadau mwy (74% o’i gymharu â 66%). Hefyd roedd cyfran fymryn uwch o breswylwyr tai newydd rhent cymdeithasol yn siarad Cymraeg, o’i gymharu â phreswylwyr tai newydd eraill (74% o’i gymharu â 68%).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynau hynny gan y Swyddogion

 

Pryd fydd canfyddiadau Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi?

Rhai canlyniadau i’w cyhoeddi yn ystod Mai /Mehefin ac yna mewn camau hyd ddiwedd Hydref 2022. Ategwyd nad oedd amserlen bendant wedi ei chyhoeddi

 

Llongyfarchwyd yr Adran ar gwblhau ymchwil diddorol iawn. A oes angen trydydd opsiwn wrth holi beth yw prif iaith y cartref? Gofynnwyd a oedd y canfyddiad yn amlygu’r duedd gyffredinol?

Derbyn bod angen ystyried cwestiwn ychwanegol, ond yr holiadur yn dilyn patrwm  cyfrifiad er mwyn cysondeb. Yr holiadur yn gofyn am brif iaith y cartref, ond wrth gynnal sgwrs roedd mwy o wybodaeth yn cael ei gynnig. Yr ymchwil yn atgyfnerthu’r farn gyffredinol.

 

Nodwyd bod cais am y wybodaeth yma wedi ei wneud ers tro yn sgil pryderon am effaith y Cynllun Datblygu Lleol. Croesawu’r wybodaeth bwysig yma ar gyfer materion cynllunio. A oes bwriad diweddaru’r wybodaeth ac ail edrych ar y sefyllfa? Awgrym y gellid monitro tai newydd sydd yn cael eu hadeiladu yn sgil y Cynllun Datblygu Lleol. Sylfaen wedi ei osod yma – cynnig mai amserol fyddai diweddaru’r wybodaeth.

 

Nodwyd mai tai newydd yn unig oedd yn cael eu hystyried yn yr ymchwil yma ac amlygwyd bod diddordeb gan nifer o adrannau yn yr ymchwil ac felly bod nifer o ofynion wedi bod ar y gwaith.  Nodwyd bod sgyrsiau anffurfiol Sgwrs wedi ei chynnal gyda’r Adran Cynllunio, yr Uned Iaith a’r Adran Tai ac nad oedd bwriad ar hyn o bryd i gynnal ymchwiliad yn dilyn yr un patrwm – gan fod posibilrwydd cael y wybodaeth o ffynonellau eraill. 

 

A fyddai modd cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau?

Cyflwyniad wedi ei wneud i holl aelodau etholedig y Cyngor ar y 14eg o Ragfyr 2021 – awgrymwyd ail rannu’r dogfennau ac ystyried y ffordd orau ymlaen

 

Bod y gwaith yn ysgogi trafodaeth - yn ddarn o waith pwysig sydd angen ei ddiweddaru a’i gadw yn fyw.

 

PENDERFYNWYD

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau
  • Cyfeirio cais gan aelodau’r Pwyllgor at yr Aelod Cabinet perthnasol i ystyried diweddaru’r wybodaeth yn y dyfodol

 

 

 

Dogfennau ategol: