Agenda item

Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm trwygyrch flynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Jason W Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL er mwyn cynyddu’r uchafswm mewnbwn blynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos i:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o wastraff tŷ, masnachol a diwyd-iannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd drwy’r safle dros unrhyw gyfnod pen-odedig ar gael i’r awdurdod cynllunio gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

  • Adolygu amodau monitro a rheolaeth Sŵn, Llwch, Arogleuon, sbwriel yn unol â’r manylion lliniaru a gyflwynwyd.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm trwygyrch blynyddol o wastraff o 75,000 i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi sefydlu ar Ystâd Ddiwydiannol yng Nghibyn ers dros 20 mlynedd sydd wedi’i warchod ar fap cynigion y Cynllun Datblygu lleol, ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 & B8. Ategwyd bod Polisi GWA 2 (Rheoli Gwastraff a Safleoedd a Ddyrannwyd) yn nodi y dylid cymeradwyo cynigion rheoli gwastraff ar safleoedd priodol ar yr amod bod y cynnig yn unol â'r hierarchaeth wastraff a bod angen amlwg am y datblygiad a gefnogir gan Asesiad Cynllunio Gwastraff. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau adeiladol na gweithredol eraill i'r datblygiad.

 

Nodwyd bod y safle yn darparu gwasanaeth trosglwyddo ac ailgylchu gwastraff masnachol yn unol â thelerau’r caniatâd presennol. Eglurwyd bod y gwastraff a derbyniwyd yn cynnwys gwastraff a gesglir mewn sgips sef, gwastraff tŷ, gwastraff masnachol a diwydiannol a gwastraff o waith glanhau ffyrdd ynghyd a rhai eitemau a ddisgrifir fel gwastraff peryglus i gynnwys batris ceir, llenni asbestos wedi’i bondio â sment a gwastraff trydan. Bydd y gwastraff sydd yn cael ei gludo i'r safle yn cael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu neu ei ailddefnyddio.

 

Amlygwyd bod y cyfleuster wedi gweithredu'n llwyddiannus i'r graddau bod y galw gan gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid yn tyfu ar gyfradd a fyddai'n fwy na'r hyn a osodir o dan amod cynllunio ac felly gwnaed cais am gynnydd yn y mewnbwn gwastraff a ganiateir. Ategwyd bod uwchraddiad diweddar i'r orsaf trosglwyddo gwastraff wedi arwain at gapasiti ychwanegol sef, gwastraff adeiladu a dymchwel yn bennaf a chyda contract gyda safleoedd ynni o wastraff yng Nghymru a Lloegr yn golygu cyflenwad deunydd sy'n deillio o brosesu gwastraff o ffynonellau adeiladu, cartrefi a masnachol, rhagwelir y bydd y llif gwastraff hwn yn parhau. Bydd angen mwy o gapasiti hefyd i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn cynhyrchu a dosbarthu biomas i weithfeydd biomas lleol. Nodwyd bod y safle gyda’r capasiti i ehangu a buasai’r bwriad yn sicrhau bod y cyfleuster presennol yn parhau i ddidoli a phrosesu deunyddiau yn gynaliadwy a chyfrannu at gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi.

 

O ran gosod targedau ar gyfer rheoli gwastraff cartref, diwydiannol a masnachol, mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn mynnu y dylai o leiaf 70% o'r gwastraff o'r fath gael ei ailddefnyddio ac / neu ei ailgylchu erbyn 2025. Ystyriwyd y byddai’r cais hwn yn cyfrannu at yr hyn mae’r ardal yn ei ailgylchu ac yn lleihau'r gwastraff sydd yn cael ei dirlenwi. Adroddwyd, ar gyfer pob math o wastraff, mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yn ei gwneud yn ofynnol i nodi lleoliadau addas ar gyfer datblygu rheoli gwastraff yn gynaliadwy mewn cynlluniau datblygu yn ogystal â gosod meini prawf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am ddatblygiadau o'r fath, gan gydnabod mai'r lleoliadau mwyaf priodol fydd y rhai â'r effaith  lleiaf andwyol ar y boblogaeth leol a'r amgylchedd gyda'r potensial gorau i gyfrannu at fframwaith seilwaith eang.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod darpariaeth parcio wedi’i ddangos ar gynllun a gyflwynwyd gyda’r manylion ychwanegol, ond yn ogystal, bod gan y cwmni iard ddalfa ar ochr bellaf yr ystâd ddiwydiannol lle mae cerbydau cymalog yn parcio nes eu bod yn cael eu galw i'r brif iard pan fydd yn glir. Nid oedd gan yr Uned Drafnidaieth wrthwynebiad.

 

Ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn cydymffurfio â pholisïau PS5, PS22 & GWA2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026. Rhaid cynyddu’n sylweddol yr hynny o wastraff sydd i’w drin mewn modd cynaliadwy os am gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru; a lleihau’r canran o wastraff sydd yn cael dirlenwi yng Ngwynedd.  Byddai’r datblygiad yma yn cyfrannu at wella’r rhwydwaith o gyfleusterau gwastraff cynaliadwy yn y Sir yn unol ag anghenion GWA 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 - 2026;

 

b)  Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y datblygiad i’w groesawu

·         Byddai’r ffordd osgoi newydd o fudd i loriau

·         Y bwriad yn ymateb i dargedau ailgylchu

·         Y cwmni wedi hen sefydlu ac yn cyflawni dyletswydd angenrheidiol.

 

Mewn ymateb i sylw bod angen rhoi ystyriaeth i bryderon yn ymwneud a arogleuon drwg, nodwyd bod y mater wedi ei ddatrys ac yn ganlyniad o wastraff yn sefyll. Ategwyd bod gweithdrefnau wedi eu diweddaru i osgoi hyn i’r dyfodol. Mewn ymateb i sylw bod lorïau yn ciwio ar hyd y ffordd, cyfeiriwyd at un achos lle'r oedd hyn wedi digwydd o ganlyniad i rywun wedi parcio ar draws y fynedfa.

 

PENDERFYNWYD

 

·           Cymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL er mwyn cynyddu’r uchafswm mewnbwn blynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos i:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o wastraff tŷ, masnachol a diwydiannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd drwy’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

·           Adolygu amodau monitro a rheolaeth Sŵn, Llwch, Arogleuon, sbwriel yn unol â’r manylion lliniaru a gyflwynwyd.

 

Dogfennau ategol: