Agenda item

Cymeradwyo Cyllideb 2022/23 ar gyfer CBC a chymeradwyo’r ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol.

 

Penderfyniad:

Cadarnhawyd Cyllideb o ddim gwariant ar gyfer 2021/22 ac felly ni chodir ardoll.

 

Cymeradwywyd Cyllideb 2022/23 ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad, gyda chyfansymiau:

·         Cynllunio Strategol £87,950 (pleidlais 1)

·         Swyddogaethau Eraill y CBC yn cynnwys Trafnidiaeth £274,310 (pleidlais 2)

 

Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, wedi’i ddosrannu ar sail y boblogaeth perthnasol, gyda’r symiau fel y’i cyflwynir isod:

·         Cynllunio Strategol (pleidlais 3)

·         Swyddogaethau eraill (pleidlais 4)

 

 

Cynllunio

Strategol

£

Swyddogaethau

eraill

£

Cyfanswm

Ardoll

£

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(14,270)

(46,220)

(60,490)

 

Cyngor Sir Ddinbych

(12,030)

(37,530)

(49,560)

 

Cyngor Sir y Fflint

(19,700)

(61,450)

(81,150)

 

Cyngor Gwynedd

(13,090)

(48,910)

(62,000)

 

Cyngor Sir Ynys Môn

(8,750)

(27,290)

(36,040)

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

(16,970)

(52,910)

(69,880)

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

(3,140)

 

(3,140)

 

Cyfanswm Ardoll

(87,950)

 

(274,310)

(362,260)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol  Prosiect y Cyd-Bwyllgor).

 

PENDERFYNIAD

 

Cadarnhawyd Cyllideb o ddim gwariant ar gyfer 2021/22 ac felly ni chodir ardoll. 

 

Cymeradwywyd Cyllideb 2022/23 ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad, gyda chyfansymiau:  

·         Cynllunio Strategol £87,950 (pleidlais 1) 

·         Swyddogaethau Eraill y CBC yn cynnwys Trafnidiaeth £274,310 (pleidlais 2) 

 

Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, wedi’i ddosrannu ar sail y boblogaeth perthnasol, gyda’r symiau fel y’i cyflwynir isod:  

·         Cynllunio Strategol (pleidlais 3) 

·         Swyddogaethau eraill (pleidlais 4) 

 

 

Cynllunio 

Strategol 

£ 

Swyddogaethau 

eraill 

£ 

Cyfanswm 

Ardoll 

£ 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 

(14,270) 

(46,220) 

(60,490) 

 

Cyngor Sir Ddinbych 

(12,030) 

(37,530) 

(49,560) 

 

Cyngor Sir y Fflint 

(19,700) 

(61,450) 

(81,150) 

 

Cyngor Gwynedd 

(13,090) 

(48,910) 

(62,000) 

 

Cyngor Sir Ynys Môn 

(8,750) 

(27,290) 

(36,040) 

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 

(16,970) 

(52,910) 

(69,880) 

 

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

(3,140) 

 

(3,140) 

 

Cyfanswm Ardoll 

(87,950)  

 

(274,310) 

(362,260) 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofyniad statudol i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig gymeradwyo ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf, sef 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Nodwyd fod angen penderfyniad cynnar  oherwydd yr angen i roi ardoll ar gynghorau sir cyn i’r rheiny osod cyllidebau eu hunain.

 

Mynegwyd fod y gyllideb wedi ei seilio ar y ‘swyddogaethau cychwynnol’ y Cyd-Bwyllgor ac amlygwyd y ddau gynllun statudol. Eglurwyd fod angen i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2023, tra fod yr ail gynllun statudol, Cynllun Datblygu Strategol, gydag amserlen hwy. Nodwyd fod y gyllideb yn adlewyrchu’r amserlen hwn.

 

Ychwanegwyd fod y gyllideb am eleni yn parhau i gadw cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar wahân i’r Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd fod hyn er fod y 6 awdurdod wedi cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor ymhen amser ond fod angen cytuno ar gytundeb llywodraethu pendant.

 

Tynnwyd sylw at benawdau’r gyllideb gan nodi o dan gyllideb gweithwyr ei fod wedi ei seilio ar isafswm staff er mwyn cynhyrchu’r gwaith ar gyfer y cynlluniau. Eglurwyd y bydd angen mwy o swyddogion yn y pendraw ond fod isafswm am gael ei cyllido yn y cyfnod byr. Mynegwyd o ran y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fod swm o arian yno ar gyfer ymgynghorwyr. Pwysleisiwyd y bydd angen penodi ymgynghorwyr i symud y gwaith ymlaen os am lwyddo i gynhyrchu’r gwaith erbyn Gorffennaf 2023.

 

Nodwyd fod y gyllideb wedi ei greu ar y cyd gyda Trysoryddion yr holl awdurdodau ac wedi ei nodi ar sail isafswm ymarferol, a gobeithir na fydd angen cyflwyno cyllideb atodol eleni. Ychwanegwyd fod y cyfraniadau o’r holl awdurdodau wedi ei gosod ar sail garn o’r boblogaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd dealltwriaeth i’r penderfyniad a ofynnwyd amdano i’r eitem hon gan holi  os oes gan yr aelodau hawl dirprwyedig gan eu Awdurdodau i wneud penderfyniad am y gyllideb. Eglurwyd eu bod, fel Arweinyddion eu hawdurdodau, wedi eu penodi fel Aelodau i’r Cyd-Bwyllgor ac o ganlyniad fod ganddynt hawl statudol i weithredu fel aelodau llawn gyda hawliau gweithredol o’r Cyd-Bwyllgor ac nid yn ddirprwyedig o’i Awdurdodau.

¾     Holwyd, os yn cytuno â’r gyllideb am eleni, a fyddai hynny yn gosod cynsail i’r blynyddoedd i ddod. Eglurwyd y bydd angen gosod cyllideb yn flynyddol ac y bydd disgresiwn blynyddol am faint y gyllideb ynghyd a sut y bydd yn cael ei ddyrannu. 

¾     Nodwyd y bydd Cynghorwyr yr awdurdodau yn anhapus nad ydynt wedi cael y cyfle i drafod y gyllideb ac fod angen trefniadau i’w drafod i’r dyfodol.  Mynegwyd dealltwriaeth fod angen gwneud y penderfyniad heddiw, ond fod angen cofio am yr aelodau o fewn awdurdodau sydd yn teimlo fod hawl democrataidd yn bellach oddi wrthynt.

¾     Eglurwyd os na fydd penderfyniad yma yn cael ei wneud heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn gosod y gyllideb ar ran y Cyd-Bwyllgor.

¾     Amlygwyd yr angen i weithio ar llywodraethant y Cyd-Bwyllgor gan bwysleisio yr angen i drafod a ffurfioli’r drefn craffu er mwyn diogelu aelodau lleol.

¾     Mynegwyd fod y Cyd-Bwyllgor yn gorff anaeddfed ar hyn o bryd ac fod angen gwneud y gwaith i osod trefniadau i sicrhau trafodaethau ystyrlon am gyllideb blynyddoedd dilynol.

¾     Holwyd os oes modd pasio y penderfyniad yn amodol ar drafodaeth gyda’r awdurdodau lleol heddiw. Eglurwyd nad oedd modd penderfynu yn amodol. Nodwyd y bydd modd gwneud y penderfyniad ac yna gofyn i’r Arweinyddion   rannu’r wybodaeth â’u haelodau lleol er budd tryloywder am gyllideb y Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ategol: