I ystyried adroddiad y Prif Weithredwr
Penderfyniad:
Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal
(drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2022, fel un i’w fabwysiadau ar gyfer
2022/23
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn
nodi bod dyletswydd statudol ar bob Cyngor i baratoi Datganiad Polisi Tâl
blynyddol. Yn unol â phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu Polisi Tâl ar gyfer
2012/13, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad
blynyddol o gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn
adolygu’r Polisi Tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.
Adroddwyd nad oedd addasiadau yn cael eu
cynnig i’r polisi eleni,
Tynnwyd sylw at adolygiad cyflogau Prif Swyddogion. Atgoffwyd yr Aelodau
bod y Pwyllgor wedi argymell adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion, ond na
ddylid cynnal yr adolygiad hyd nes bod penderfyniad ar lefel cenedlaethol wedi
ei wneud yn y lle cyntaf. Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd hyd yma
ar gyfer 2021/22. Y bwriad yw cynnal yr adolygiad a chyflwyno’r canfyddiadau
i’r Pwyllgor o ganlyniad i gyhoeddi’r gytundeb cenedlaethol.
Yng nghyd-destun cyflogau swyddi o dan lefel prif swyddogion, nodwyd,
fel cyflogau prif swyddogion nad oedd cytundeb cenedlaethol wedi ei gyrraedd.
Ategwyd bod trafodaethau yn parhau rhwng yr Undebau a’r Cyflogwyr, bod balot wedi ei chynnal a bod ymateb i’w ddisgwyl yn yr
wythnosau nesaf.
Yn dilyn cyhoeddiad gan Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2021) i ariannu
cynnydd yng nghyflogau staff maes gofal i lefel Cyflog Byw (£9.90), bydd angen
i gynghorau sicrhau cydymffurfiad a’r cyfarwyddyd hwnnw o fis Ebrill 2022
Nodwyd, petai cynnydd mewn cyflogau 2021/22 a 2022/23 byddai cyflog yr awr i
ofalwyr y Cyngor, uwchlaw’r Cyflog Byw; os na fydd
cytundeb cenedlaethol, bydd rhaid cymryd camau i godi’r lefelau cyflog o’r 1af
o Ebrill 2022, yn unol â’r cyfarwyddyd.
Ategwyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu meini prawf Cynllun Arfarnu Swyddi
GLPC fel sail i osod graddfa cyflog ar gyfer pob swydd sydd o dan Amodau Gwaith
Gweithwyr Llywodraeth Leol. Eglurwyd bod y berthynas rhwng tâl Prif Swyddogion
a gweithwyr eraill wedi ei ddylunio i alluogi’r Cyngor i recriwtio a chadw’r
gweithwyr addas a gorau yn ei swyddi amrywiol, wrth gynnal y pwyntiau
gwahaniaethol a arfarnwyd yn yr arfarniad swyddi. Amlygwyd bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell
cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (llawn-amser)
- cymhareb Gwynedd ar hyn o bryd yn 1:6.4.
Ers cyhoeddi’r adroddiad, nodwyd bod cytundeb cenedlaethol wedi ei
gyrraedd i gynyddu cyflogau Prif Weithredwyr o 1.5%. Yn ddarostyngedig i
dderbyn y Datganiad Polisi Tâl, bydd yr adroddiad i’r Cyngor Llawn (03/03/22),
yn cael ei ddiweddaru i arddangos y cynnydd.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pam na ellid codi’r Cyflog Byw i £10 yr awr – rhif cyflawn? – hyn yn
debygol o ddenu mwy o weithwyr i’r maes gofal
·
Angen cynnig cyflog
mwy cystadleuol i weithwyr maes gofal, gwaith o fewn y sector breifat, megis
siopau manwerthu, yn talu mwy am lai o gyfrifoldebau
·
Angen sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost o gynyddu’r
tâl i weithwyr maes gofal
·
Bod y Cyngor yn gweithio at darged lefel isel cyflog byw yn hytrach na
tharged uwch – angen gweithio i wella hyn
·
Angen gwybodaeth am
y gost o gynyddu cyflogau gofalwyr - ystyried sefyllfaoedd gwahanol
·
Bod yswiriant gwladol yn cynyddu yn mis Ebrill 2022 i gyfarch cynnydd
mewn cyflogau maes gofal – lle mae’r arian yma?
·
Gofalwyr yn gwneud gwaith anodd – yn cynnig gofal gyda pharch ac urddas
– angen cydnabod hyn
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chytundeb ar godiad cyflog 2021/22,
ac a fydd ôl daliad i’r gweithlu, nodwyd bod trefniadau yn eu lle i sicrhau ôl
daliad cyn Mawrth 31ain 2022 (cyn cynyddu’r yswiriant gwladol 1/4/22) os y ceir
cytundeb cenedlaethol cyn cau’r gyflogres ar gyfer mis Mawrth.
Mewn ymateb i sylw am ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i gynyddu cyflogau
gweithwyr maes gofal, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chynghorau
eraill lle daethpwyd i’r casgliad mai £12 yw’r targed cyflog yr awr os am fod
yn gystadleuol. Ategwyd bod Cynghorau wedi bod yn lobio ar hyn ers dros
flwyddyn ac mai’r gwaith lobio yma sydd wedi arwain at y cynnydd diweddar (sydd
yn agosach i £10 yr awr). Derbyn nad yw’r swm yn adlewyrchu'r gwaith sydd yn
cael i wneud ond bydd y cynghorau yn parhau i lobio ac anogwyd yr aelodau i
wneud yr un peth.
Mewn ymateb i sylw y dylid rhoi codiad cyflog i ofalwyr yn unig,
atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor wedi mabwysiadau Cynllun Arfarnu Swyddi sydd
yn ymrwymo i dalu cyflogau yn unol â deddfwriaeth cyflog cyfartal. Petai
penderfyniad yn cael ei wneud i gynyddu cyflogau gofalwyr, byddai angen
ystyried pob swydd sydd yn cael ei harfarnu ar yr un lefel. Ategwyd bod
adolygiad o gynnwys swydd-ddisgrifiadau perthnasol o fewn y Gwasanaeth Oedolion
yn bresennol.
Mewn ymateb i sylw bod y Cyngor yn cyfrannu
at gyflogau gofalwyr yn y sector breifat nodwyd bod lefelau tâl y sector
breifat yn is na’r sector gyhoeddus a bod y cyfraniad yn cael ei osod fel rhan
o’r gyllideb.
Mewn ymateb i sylw bod angen cynnal trafodaethau pellach ar lefelau
cyflogau maes gofal, nodwyd bod y gyllideb yn cael ei chraffu ym Mhwyllgor Archwilio
a Llywodraethu (10/02/22), ond y byddai modd cyfeirio’r drafodaeth am gyflogau
swyddi penodol i’r Pwyllgor Craffu perthnasol. Ategwyd mai cyfrifoldeb y
Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion oedd craffu ac ystyried y polisi tâl.
PENDERFYNWYD
Bod y Pwyllgor Penodi yn
cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2022, fel
un i’w fabwysiadau ar gyfer 2022/23
Dogfennau ategol: