skip to main content

Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais y pwyllgor, yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021, “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon”, oedd yn ymateb i wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn 2021 pan welwyd gwybodaeth am aflonyddu rhywiol ar ddisgyblion ar y wefan “Everybody’s Invited.”  Roedd y Pennaeth Addysg wedi gobeithio rhannu cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau adroddiad Estyn, ond oherwydd problemau technegol, bu’n rhaid cyflwyno’r wybodaeth ar lafar yn unig, a chytunwyd i anfon y sleidiau at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod adroddiad Estyn yn nodi bod staff ysgolion yn gweithio’n galed i ymateb i’r materion hyn, ond dywed staff hefyd eu bod angen llawer mwy o adnoddau, hyfforddiant, cymorth ac amser.

·         Pwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig bod y mater hwn yn flaenoriaeth i ysgolion ar draws Gwynedd, a gan y Llywodraeth hefyd, a bod rhaid i addysgu am hyn fod yn rhan o’r cwricwlwm hefyd.

·         Croesawyd y ffaith bod addysg rhyw ac addysg perthynas yn rhywbeth sy’n cael sylw bellach, a phwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ar gael i’r staff ar sut i ddelio â materion o’r fath.

·         Nodwyd bod angen bod yn greadigol o ran sut orau i ddarparu’r adnoddau, o ystyried bod amser staff ac athrawon yn brin.  Roedd modd gwneud hyfforddiant ar lein, ac efallai y dylid cael pencampwr ar draws ysgolion sy’n datblygu rhywfaint o arbenigedd, ac yn gallu cynghori yn ôl yr angen.

·         Awgrymwyd bod disgwyliad i athro / ysgol fod yn bopeth i bawb bellach, yn hytrach nag yn darparu addysg yn unig.

·         Nodwyd ei bod yn glir o’r adroddiad bod yr Adran yn cydnabod maint a difrifoldeb y broblem ac yn bwriadu gweithredu.

·         Gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn raddol, gan ddechrau o Flwyddyn 7 i fyny, bod rhaid gweithredu ar unwaith drwy’r ysgol gyfan, yn hytrach na disgwyl i newidiadau’r cwricwlwm ddwyn ffrwyth.

·         Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet drosglwyddo neges i athrawon a holl staff yr ysgolion yn mynegi gwerthfawrogiad y pwyllgor hwn o’u gwaith arwrol yn sgil, nid yn unig y pandemig, ond hefyd y golled adnoddau dros y degawd diwethaf.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod yr ehangu ar y gwaith lles sy’n digwydd ar hyn o bryd yr union beth sydd angen digwydd er mwyn hyrwyddo perthnasedd iach, a bod y Cynllun Ysgolion Iach yn gynllun ardderchog i fod yn gwneud hynny.

·         Bod proffil arolygiadau ysgolion yn dangos bod ‘lles’ wedi bod yn dda neu’n rhagorol yn mhob arolwg ar draws y sector ysgolion.  Gan hynny, credid bod ein proffil yng Ngwynedd o ran rhoi bri a’r pwyslais priodol ar les, gan gynnwys y maes yma, yn briodol.

·         Y byddai angen adnoddau ar gyfer rhyddhau staff i gyflawni’r hyfforddiant.  Roedd hyn oll ar waith ac yn cael ei gymryd o ddifri’ gan staff yr ysgolion.  Cydnabyddid bod unrhyw ofyn newydd fel hyn yn gallu bod yn anodd, ond roedd y Llywodraeth wedi darparu nifer o grantiau i’r ysgolion ym maes lles yn sgil y pandemig, a gellid blaenoriaethu’r grantiau hynny i ariannu hyn.  Diau y byddai angen rhagor na hynny o adnoddau, a byddai’r Adran a’r Cyngor yn mynd drwy’r gweithdrefnau priodol er mwyn sicrhau hynny, ond blaenoriaeth yr Adran a’r ysgolion ar hyn o bryd oedd sicrhau bod yr hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu, ac efallai bod y gost yn eilradd i hynny.

·         Bod athrawon / staff ysgolion yn bopeth i bawb yn gynyddol, ac wedi ymdopi’n rhagorol â hynny, ac roedd y Pennaeth yn llwyr hyderus y byddai’r staff yn codi i’r her ar y cyd â’r Adran, ac yn gweithredu’n briodol i sicrhau nad oes yr un unigolyn yn ysgolion y sir yn teimlo eu bod yn agored i’r math yma o aflonyddu.

·         Bod perthnasau iach a byw’n iach yn rhan greiddiol o’r cwricwlwm newydd (meysydd dysgu a phrofiad) a byddai gan GwE rôl o ran cyflwyno hynny o fewn y cwricwlwm.  O ran yr adnoddau, rôl yr awdurdod yn bennaf oedd hynny, gyda GwE yn darparu cefnogaeth drwy ddatblygiad cwricwlwm i fod yn hyfforddi athrawon a sicrhau deunyddiau priodol ar eu cyfer.

·         Bod gwaith i’w wneud ar y cychwyn i sicrhau bod y maes yma’n cael y flaenoriaeth mae’n haeddu, ond maes o law, dylai ddod i mewn i ddarpariaeth arferol ysgolion, fel ei fod yn greiddiol yn y cwricwlwm.

·         O ran aflonyddu hiliol, y cytunid bod aflonyddu o unrhyw fath yn aflonyddu, a’r neges sydd angen ei chyfleu yw ‘addysg’, ‘parch’, ‘caredigrwydd’ a ‘goddefgarwch’.  Bwriedid creu pecyn cynhwysol o gwmpas hynny er mwyn sicrhau nad yw aflonyddu’n digwydd, a bod disgyblion yn deall sut mae perthnasu gyda’i gilydd mewn perthynas fel ffrindiau, ayb, ac yn gwneud hynny’n briodol.

·         Bod cwnsela yn yr ysgolion yn gallu bod yn faes anodd.  Roedd yna brinder adnoddau (er bod y Llywodraeth wedi dyrannu arian ychwanegol ar gyfer hyn) ac roedd yr angen am y gwasanaeth ar gynnydd.  Roedd hefyd yn faes anodd o ran recriwtio, yn enwedig mewn sir fel Gwynedd lle mae angen y gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd rhai o’r ysgolion uwchradd wedi bod yn cysylltu’n ddiweddar i ofyn am fwy o adnodd, a cheisid blaenoriaethu hynny, lle’n bosib’.  Nodwyd ymhellach y cafwyd cyswllt yn ddiweddar iawn gan gwmni allanol sy’n gallu darparu’n ddwyieithog, a bod bwriad i edrych yn yr hirdymor ar ddefnydd o gynlluniau prentisiaethau, profiad gwaith, ayb, mewn meysydd lle mae prinder arbenigeddau.

·         Bod sesiynau addysg bersonol a chymdeithasol yn yr ysgolion yn rhoi ffocws amlwg ar y maes yma.  Sefydlwyd gwaelodlin eithaf da o safbwynt dealltwriaeth y staff o’r broblem, ond bod angen cryfhau, sicrhau adnoddau a hyfforddiant priodol a sicrhau cysondeb ar draws yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chroesawu’r gwaith, gyda chais am ddiweddariad fel mae amser yn mynd heibio.

 

Dogfennau ategol: