Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn manylu ar yr adolygiad
diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2021/22, a’r rhagolygon tuag at
ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor
- yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colledion incwm (gwerth dros £20 miliwn yn 2020/21 ac yn £10 miliwn hyd yma
eleni). Ategwyd bod ceisiadau i adhawlio yn cael ei gwneud yn fisol o gronfa
caledi Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn cymryd camau i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer
2021/22 drwy ddileu, llithro ac ail broffilio cynlluniau arbedion yn
Ionawr 2021, eglurwyd bod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai
meysydd, a’r oediad hynny yn ffactor amlwg o
ganlyniad i’r argyfwng. Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr
holl adrannau ynghyd a manylion pellach
ynglŷn â’r prif faterion a’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol,
ynghyd ag argymhellion.
·
Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant - rhagwelwyd
gorwariant o bron i £1 miliwn eleni
(£995k) gyda methiant i gyflawni arbedion
gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r
gorwariant. Prif feysydd gorwariant - gwasanaethau pobl hŷn, anableddau dysgu a gofal cymunedol
gydag effaith Covid yn parhau
i gael ardrawiad
sylweddol ar yr Adran. Eto eleni
gyda gwerth dros £3 miliwn eisoes wedi ei
hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod. Caniatawyd dros £1.6 miliwn o fidiau ar gyfer
pwysau cynyddol ar gyllideb 2021/22 ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol.
·
Adran Plant a Theuluoedd
- dyrannwyd £1.8 miliwn o arian ychwanegol i'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghylch cyllideb 2021/22 ar gyfer cwrdd
â'r pwysau cynyddol, ynghyd â dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion nad oedd
yn gwireddu. O ganlyniad, rhagolygon ariannol ar hyn
o bryd yn addawol iawn.
·
Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol – bod problemau
gorwariant yn y maes casglu a gwaredu
gwastraff yn parhau ynghyd a thrafferthion gwireddu arbedion mewn nifer
o feysydd (gwerth £666k).
Yr adran hefyd wedi wynebu costau
ychwanegol yn ymwneud â Covid, ond yn ffyddiog
bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i
ddigolledu am weddill y flwyddyn.
·
Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb
2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac yn cyfrannu at danwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor - y pwysau ar nifer o gyllidebau
ddim cymaint â’r hyn a ragwelwyd
eleni.
Ategwyd bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn cael ei fantoli o ganlyniad i
danwariant ar gyllidebau Corfforaethol a hefyd gan danwariant gan fwyafrif o’r
adrannau.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pennaeth Priffyrdd
a Bwrdeistrefol wedi bod gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod gwella
cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a /neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau
mae’r gwasanaeth yn agored iddynt
- a yw hyn wedi ei gwblhau?
·
A yw’n bosib dadansoddi
problemau gorwariant fel bod modd gweld
beth yw rhagolygon
gorwariant tymor hir (e.e., cynnydd
mewn costau fflyd, costau trin
mwy o wastraff ayyb) gan eu
gwahanu o faterion arbedion? Gall hyn amlygu arbedion neu’r angen i
ail ystyried y gyllideb
·
A oes arian digonol yn
y gyllideb o ystyried mai’r un penawdau sy’n codi bob blwyddyn,
gan dderbyn bod gosod cyllideb i’r Gwasanaeth Oedolion a Llesiant yn anodd
Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod y Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant ynghyd a’r Gwasanaeth Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yn gorwario oherwydd oediad mewn gwireddu arbedion - Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda chynlluniau
gwerth £855k a £666k gan Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw at y rhestr
bidiau gan nodi bod y drefn bidiau wedi ystyried y pwysau hynny sydd wedi codi
ar wasanaethau yn ystod y flwyddyn ac yna
blaenoriaethu’r bidiau yn effeithiol, yn y gobaith y byddai’r arian yn
mynd i’r meysydd mwyaf anghenus. Ategwyd bod hyn wedi llwyddo wrth flaenoriaethu
bidiau 2021/22 i’r Adran Plant a Theuluoedd
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r mandad gan y Cabinet i’r Prif
Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i fynd at wraidd problemau Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant, cadarnhawyd bod system casglu data a gwybodaeth ariannol
bellach yn weithredol ac wedi gwella’r sefyllfa.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i Adrannau
·
Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022
Dogfennau ategol: