Agenda item

Rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar raglen waith Chwarter 3 Archwilio Cymru ac adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd pedwar adroddiad gan Archwilio Cymru yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar raglen waith Chwarter 3 Archwilio Cymru ynghyd ag adroddiadau oedd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar.

 

Croesawyd Jeremy Evans  (Archwilio Cymru) i gyflwyno’r adroddiadau.

 

1.   Diweddariad Chwarterol - Chwarter 3 (hyd at 31ain Rhagfyr 2021)

 

Diweddariad chwarterol bellach yn rhan o’r drefn y Pwyllgor o dderbyn gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

2.   Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru. Gwnaed y gwaith fel rhan o raglen statudol gwaith archwilio lleol ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y canfyddiadau ynghyd ag argymhellion ar gyfer cryfhau’r dull o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal a threfniadau cysylltiedig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ar draws Gogledd Cymru.

 

Ar y cyfan canfu bod partneriaid yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i ddarparu lleoliadau addas ond hefyd yn cario risgiau sylweddol. Un o’r risgiau a amlygwyd oedd strwythur y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol (BPRh) - er yn dod â phartneriaid ynghyd ifeddwl yn rhanbarthol’, y strwythur, a bennwyd i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helaeth a chymhleth, a bod angen cryfhau’r llinellau atebolrwydd.

 

Mewn ymateb, gwnaed sylw bod yr adroddiad yn amlygu gwendid polisi Llywodraeth Caerdydd sydd yn gorfodi gweithio yn rhanbarthol gan greu strwythur sy’n llesteirio’r Cyngor rhag gweithio yn effeithiol. Cyfeiriwyd at waith gan y Cyngor, sy’n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu model gofal cartref newydd yng Ngwynedd fydd yn helpu pobl i fyw eu bywydau mor llawn â phosib yn eu cymuned. Bydd y model newydd yn gwella'r ffordd mae'r gwasanaeth gofal cartref yn cael ei drefnu a'i ddarparu yng Ngwynedd, drwy gadw’r trefniadau mor lleol â phosib. A yw hon yn drefn y dylid ei mabwysiadu ar draws y Gogledd?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae craffu Strategaeth Comisiynu lleoliadau Gogledd Cymru ac os yw’n gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o fewn pob Cyngor unigol neu yn ehangach, nodwyd bod angen strwythur cadarn ac atebolrwydd clir - awgrym i edrych ar strwythur Bwrdd Uchelgais Economaidd neu esiamplau eraill da a’i hargymell i’r BPRh.

 

Diolchodd Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) am yr adroddiad gan nodi nad oedd y maes yn un hawdd i’w ddatgymalu gyda sawl trafodaeth wedi ei chynnal ynglŷn â gweithredu polisi Llywodraeth Cymru. Amlygodd bwysigrwydd darparu lleoliadau nyrsio a phreswyl mor lleol â phosib i’r mwyafrif, fel bod teulu a ffrindiau yn gefnogol i’r ddarpariaeth, ond derbyn yr angen i  gydweithio yn rhanbarthol i ddarparu gofal arbenigol. Ategwyd nad datrysiad gan un rhanbarth sydd yma. Rhaid cydweithio gyda chynghorau cysylltiol, ee, Ceredigion, Conwy a Môn i sicrhau safon dda, sy’n hyfyw ariannol boed yn fewnol neu’n allanol. Rhaid ceisio cytundeb a chanfod y berthynas gywir.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

3.   Adolygiad o Reoli Perfformiad y Cyngor

 

Adroddwyd bod fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor yn datblygu’n dda er bod gweithredu’n amrywiol o dan yr amgylchiadau presennol a rhai adrannau gyda thipyn o waith i’w wneud. Tynnwyd sylw at y canfyddiadau ynghyd a’r argymhellion.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y dylai pawb fod yn awyddus i sicrhau’r perfformiad gorau - angen sicrhau gwybodaeth a data cywir i wneud penderfyniadau

·         Angen sicrhau bod rheolwyr wedi defnyddio gwybodaeth gadarn a phriodol fel sail i wneud penderfyniad, e.e., bod gwerth am arian

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â swyddogaethau a chyfrifoldebau pwy oedd rheoli perfformiad, nodwyd bod rheoli perfformiad yn gyfrifoldeb ar bawb - swyddogion o dan oruchwyliaeth y Prif Weithredwr i sicrhau gwybodaeth o ansawdd da fel bod modd i gynghorwyr wneud penderfyniadau darbodus, craffu ar berfformiad a nodi meysydd i’w gwella.

 

4.   Crynodeb o waith Archwilio Cymru 2021

 

Cyflwynwyd crynodeb blynyddol o waith Archwilio Cymru a gwblhawyd ers cyhoeddi’r Archwiliad Blynyddol Diwethaf ym mis Ionawr 2021. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at y gwaith lleol, rhanbarthol a chenedlaethol oedd wedi ei gwblhau ynghyd a chrynodeb o’r prif negeseuon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiadau

 

Dogfennau ategol: