Penderfyniad wedi ei alw i mewn i’w graffu yn unol ag Adran
7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor
Penderfyniad:
Derbyn penderfyniad y
Cabinet 18-01-2022
Cofnod:
Amlygodd y Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu,
yn ei rôl craffu materion corfforaethol, yr hawl i alw penderfyniad Cabinet i
mewn i’w adolygu ynghyd a derbyn mwy o wybodaeth sydd yn berthnasol i
agweddau’r penderfyniad hwnnw.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol) i gyflwyno’r wybodaeth ac egluro cefndir y penderfyniad.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref 2021 wedi
penderfynu yn unfrydol ofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Dewi fel
diwrnod swyddogol o wyliau i’w gweithlu.
Yng nghyfarfod y Cabinet 18 Ionawr 2022, penderfynwyd dynodi Dydd
Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol
i staff y Cyngor. Amlygodd fod cais wedi ei dderbyn am fwy o wybodaeth
am y gost (oddeutu £200k) i weithredu’r penderfyniad a hefyd sylw, fod modd defnyddio’r
arian i bwrpas arall er budd trigolion
Gwynedd.
Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oedd cost i ddiwrnod ychwanegol o wyliau
ar y 1af o Fawrth 2022 i’r staff sy’n gweithio mewn swyddfa neu gartref - y
diwrnod yn cael ei ychwanegu i’w hawl blynyddol. Byddai cost uniongyrchol yn
gysylltiedig â staff maes gofal a staff casglu gwastraff fydd yn derbyn diwrnod
ychwanegol i’w gymryd eto. Ar gyfer hyn, bydd angen talu cyfar
(cost ychwanegol o oddeutu £45k (Gofal) a £30k (Priffyrdd a Bwrdeistrefol).
Adroddwyd bod cymhorthyddion dysgu a staff ategol
ysgolion yr hawl i ddiwrnod ychwanegol, ond yn gorfod gweithio o fewn tymor
ysgol - bydd y rhain yn derbyn addasiadau i’w cyflogau (cost oddeutu £90k).
Gydag amodau gwaith Athrawon yn cael ei benderfynu yn genedlaethol, nid oedd
modd eu cynnwys yn y penderfyniad.
Eglurwyd mai tanwariant o natur gorfforaethol fyddai’n talu’r costau -
arian fyddai’n arferol yn trosglwyddo i gronfa wrth gefn ac nid arian a delir o
wasanaethau unigol. Bydd yn daliad un tro, heb effaith ar gyllideb 2022/23. Amcangyfrifiad o uchafswm yw £200k. Ni fydd yr arian yn
cael ei ryddhau i’r adrannau hyd nes bydd y gwariant wedi digwydd.
Diolchwyd i’r swyddogion am ymateb i’r penderfyniad drwy weithredu a
chynnal trafodaethau gyda’r Undebau i sicrhau bod y dyhead yn cael ei wireddu.
Pwysleisiwyd bod y Cabinet wedi ymateb mewn ewyllys da i benderfyniad unfrydol
y Cyngor Llawn.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Cefnogi dathlu Dydd Gŵyl
Dewi, ond angen ei wneud yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol i bawb
·
Bod ymateb y cyhoedd wedi bod
yn eithaf negyddol
·
Amseriad y penderfyniad yn
achosi pryder - mewn cyfnod o gynnydd mewn trethi, a chostau byw, o ble mae’r
arian wedi dod?
·
Cytuno gyda’r cysyniad ond y
cyfnod yn anghywir
·
Angen pwyso eto ar Lywodraeth
i ail ystyried ei wneud yn wyliau swyddogol
·
Nad oedd gwybodaeth
ynglŷn â chost diwrnod ychwanegol o wyliau wedi ei gyflwyno na’i drafod yn
y Cyngor Llawn - a fyddai canlyniad y bleidlais yn wahanol?
·
Cynigion mewn Cyngor Llawn
allan o reolaeth - angen ystyried beth sy’n gyfreithiol.
·
Bod £200k yn swm sylweddol –
dim ymgynghori wedi ei wneud gyda staff
·
Bod gwell pwrpas i’r arian?
Ydy hwn yn gamddefnydd o arian cyhoeddus?
·
A oes gan y Cyngor y grym
perthnasol i roi hawl i ddiwrnod o
wyliau ychwanegol?
·
Angen cyfeirio'r mater yn ôl
i’r Cabinet, iddynt newid eu penderfyniad a pharhau i lobio i Lywodraeth San
Steffan
·
Diolchwyd am yr esboniad ar
eglurhad. Derbyn bod hawl craffu’r penderfyniad, ond rhyfeddu bod y mater wedi
ei alw i mewn gan rai aelodau
·
Bod y Cabinet wedi ymateb i
gynnig unfrydol gan y Cyngor Llawn
·
Bod rhesymau AS Paul Scully dros wrthod cydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn ffurfiol
fel Gŵyl y Banc yn sarhaus
·
Bod dathlu Dydd Gŵyl Dewi
yn rheswm i ymfalchïo yn ein diwylliant
·
Bod rhoi diwrnod o wyliau
ychwanegol i staff yn fodd o werthfawrogi eu hymdrechion dros y ddwy flynedd
ddiwethaf
·
Bod cyflogwyr eraill yn
cefnogi’r penderfyniad ac yn dilyn yr esiampl
·
Bod angen cydnabyddiaeth
swyddogol i’r Ŵyl
·
Testun balchder bod Gwynedd yn
arwain
Mewn ymateb i sylw bod rhybuddion o gynnig yn mynd allan o reolaeth yn y
Cyngor Llawn, nododd y Swyddog Monitro bod y rhybudd o gynnig penodol yma wedi
ei fframio yn briodol a bod y cais gan y Cyngor i’r Cabinet ystyried y cynnig
hefyd yn un priodol. Ategwyd bod gan y Cyngor Llawn yr hawl i ddatgan barn, ond
dim y grym i wneud penderfyniad.
Yng nghyd-destun agweddau statudol, nodwyd bod hawliau’r Cyngor i
gyflogi staff a gosod amodau gwaith (gan gynnwys dyddiadau gwyliau) yn dod o
dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 adran 112. Nodwyd bod hawl sylfaenol gan y
Cyngor i gyflogi staff a gosod amodau rhesymol o dan y Ddeddf yma.
Mewn ymateb i sylw am Gymhwysedd Cyffredinol, eglurwyd bod Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 wedi cyflwyno Pŵer Cymhwysedd
Cyffredinol (General Power of Competence)
sydd yn nodi na all y Cyngor ddefnyddio pŵer i wneud rhywbeth lle mae
Deddfwriaeth flaenorol yn cyfyngu ar eu gallu i weithredu. Ystyriwyd nad oedd y
Pŵer yn berthnasol yma oherwydd bod Deddf 1972 yn rhoi hawl i’r Cyngor
osod gwyliau.
Ategwyd bod Egwyddorion Wednesbury, sydd yn
nodi bod rhaid i’r Cyngor ddod i benderfyniad drwy gloriannu beth sydd yn
berthnasol yn unig gan anwybyddu'r amherthnasol, hefyd wedi ei ystyried. Barn y
Swyddog Monitro oedd bod penderfyniad y Cabinet yn parhau o fewn pwerau
statudol yr awdurdod oherwydd bod
ffynhonnell ariannol briodol ar ei gyfer a bod y mater yn ymwneud a
gosod dyddiad gwyliau i staff sydd o fewn hawl y Cyngor. Ystyriwyd nad oedd
penderfyniad y Cabinet felly yn anghyfreithlon nac yn amhriodol.
Mewn ymateb i sylw nad oedd ymgynghoriad staff wedi ei weithredu, nodwyd
bod swyddogion wedi ymgynghori gyda
cynrychiolwyr yr Undebau Llafur cydnabyddedig yn unol a’r trefniadau ymgynghori
arferol.
Cynigiwyd ac eiliwyd i’r Cabinet ail ystyried y penderfyniad i roi
dyddiad o wyliau i staff oherwydd bod y gost o £200k yn sylweddol
Pleidleisiwyd ar y cynnig
PENDERFYNWYD
Derbyn
penderfyniad y Cabinet 18-01-2022
Dynodi dydd Gŵyl Ddewi 2022 yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff
y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr llywodraeth leol, ar gyfer
dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu yn unol â pharagraff 2.10
o’r adroddiad.
Dogfennau ategol: