Cyflwyno trosolwg o’r cynlluniau ar gyfer
gweithio i'r dyfodol a nodi’r gefnogaeth a gynigir i
staff yng nghyswllt llesiant meddyliol. Gwahoddir y Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a
gyflwynir
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymateb i
gais gan aelodau’r Pwyllgor i dderbyn gwybodaeth am gynlluniau’r Cyngor yng
nghyswllt trefniadau gweithio i’r dyfodol a hefyd y ddarpariaeth ar gyfer
cefnogi llesiant meddyliol staff.
Adroddwyd y byddai’r weledigaeth ar gyfer gweithio i’r dyfodol yn cael
ei chyflwyno’n ffurfiol i gyfarfod o’r Cabinet ar y 15 o Chwefror 2022.
Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drin a thrafod
materion lles, trefniadau gwaith ac o adeiladu
ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Cyfeiriwyd at y prif yrwyr ar gyfer
mabwysiadu trefniadau gweithio newydd ac at rai o’r egwyddorion oedd yn sylfaen
ar gyfer trefniadau gweithio’n hyblyg. Pwysleisiwyd, petai amgylchiadau’r swydd
yn caniatáu, bydd unrhyw drefniadau gweithio yn hyblyg yn wirfoddol i aelodau
staff. Amlygwyd bod staff yn cael eu hannog i drafod eu sefyllfa yn rheolaidd
gyda’u rheolwyr llinell gyda llesiant staff yn ganolog i’r trefniadau newydd.
Yn dilyn cynnal ymgynghoriad gyda staff ac mewn ymateb i’r weledigaeth o
weithio i’r dyfodol, nodwyd bod addasiadau ar waith i swyddfeydd er mwyn
hwyluso’r drefn newydd o weithio, i
adolygu amodau gwaith a pholisïau cyflogaeth ac o ddarparu rhaglen hyfforddiant
fyddai’n cynnwys sgiliau arwain a chynnal timau hybrid.
Nodwyd bod y weledigaeth yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
ddatblygu strategaeth weithio o bell, gyda’r nod o alluogi 30% o weithlu Cymru
i weithio yn agos / neu o’u cartrefi. Ategwyd bod y gefnogaeth a ddarperir ar
gyfer llesiant ac iechyd staff gan y Cyngor yn cael ei gydnabod ar “Lefel Aur”
Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Gweithlu wedi
gorfod ymdopi gyda chostau gwres,
trydan a ffôn dros gyfnod y pandemig
- angen ystyried cyfraniadau treth incwm i’r dyfodol
·
Cyngor newydd mis Mai – sicrhau
cysylltiad wyneb yn wyneb a’r
gallu i gyd-drafod
·
Yng nghyd-destun lles staff, anodd adnabod problemau o weithio o adre
·
Cymeradwyo’r weledigaeth a’r pwyslais ar
hyblygrwydd
·
Rhagweld cyfleoedd
i weithwyr o Dde'r Sir i geisio
am swyddi ‘canolog’
·
Angen sicrhau
bod yr elfen o weithio mewn tîm yn
cael ei gynnal
·
Cais i sicrhau bod prentisiaid yn cael cyfleoedd
priodol o ddatblygu eu cymeriadau o gydweithio fel tîm
Mewn ymateb i sylw bod angen cwblhau gwaith sylweddol i wneud y
swyddfeydd yn ddiogel, nodwyd mai'r Adran Tai Ac Eiddo sy’n arwain ar y gwaith
ond eu bod megis dechrau adnabod yr angen ynghyd a siâp y swyddfeydd. Nodwyd
bod un swyddfa eisoes wedi ei haddasu a dyma fydd y templed ar gyfer eraill.
Yng nghyd-destun treth incwm, nodwyd bod staff wedi cael eu hysbysu o
reoliadau HMRC a chanran wedi manteisio ar gymorth / lwfans treth am weithio o adre.
Yng nghyd-destun costau teithio a chyfeiriad yn yr adroddiad, ‘bydd gan bob
aelod o staff safle gwaith corfforaethol enwebedig o hyd, a gallent hawlio
treuliau teithio a chynhaliaeth ohoni, ac felly ni fydd newid i’r polisi
presennol ar hawlio costau teithio’, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal
gydag Undebau ond na fydd unrhyw addasiadau yn cael eu gwneud i gytundebau
gwaith o ran costau teithio busnes. Bydd angen ail ymweld â’r mater os angen
newid ‘canolfan gwaith’ i’r dyfodol.
Derbyniwyd y sylwadau am fanteision cyfathrebu wyneb yn wyneb a
chydnabuwyd yr angen am bwysigrwydd cynnal sgyrsiau ymysg staff ac ymysg
Aelodau ynghyd a chynnig cefnogaeth i brentisiaid. Addawodd Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i ymateb yn gadarnhaol i
hyn.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
cynlluniau ar gyfer gweithio i’r dyfodol ynghyd
a nodi’r gefnogaeth sydd yn cael
ei gynnig i staff yng nghyswllt
llesiant meddyliol
Dogfennau ategol: