skip to main content

Agenda item

I ystyried y gyllideb y bwriedir ei argymell gan y Cabinet i’r Cyngor i’w graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2022/23 yn eu cyfarfod 18/2/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o 8.8%, sy’n cyfateb i werth £18.1m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 9.4%) ar gyfer 2022/23 sy’n welliant arwyddocaol ar yr hyn a dderbyniwyd mewn blynyddoedd blaenorol.  Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2022/23.  Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23.

 

Ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 15/02/22 i argymell i’r Cyngor Llawn 3/03/22 sefydlu cyllideb o £295.2m ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213.2m, £82m o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd o 2.95%)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £59m yn 2022/23.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb (cyfanswm o £20.2m)  gan amlygu pedwar pennawd o gynnydd yn arbennig.

·         Chwyddiant Cyflogau o £8.5m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2022/23 o 4% ar gyfer yr holl weithlu ynghyd a  chynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol fydd yn weithredol o Ebrill 2022.

·         Chwyddiant Arall o £4m - Swm sy’n cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar gostau a ffioedd taladwy i gyflenwyr preifat ynghyd â chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd prisiau yn dilyn ail-dendro.

·         Pwysau ar Wasanaethau o £6.7m - argymhell cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Yn ychwanegol i’r bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w ariannu o’r Gronfa Trawsnewid. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

·         Pwysau Covid-19 o £1.4m.  Ers Ebrill 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol a cholled incwm o ganlyniad i’r pandemig allan o’r Gronfa Caledi (cyfanswm y cymorth gan y Llywodraeth oddeutu £20m yn 2020/21, ac oddeutu £14.4m yn ystod 2021/22). Fodd bynnag, mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ddiamwys y byddai’r cymorth hwn yn dod i ben 31 Mawrth 2022 a bydd angen i’r awdurdodau lleol ariannu unrhyw gostau ychwanegol / colled incwm yn sgil Covid-19 wedi hynny. Nodwyd, er bod £1.4m wedi ei ddarparu er mwyn sefydlu cronfa gorfforaethol, i ddygymod â’r sefyllfa, nid oedd y Pennaeth Cyllid yn  rhagweld y byddai’n ddigonol ynddo’i hun i ymdrin â’r pwysau, ond amlygodd bod cronfeydd eraill ar gael i gynorthwyo.  Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn, a gellid gwneud defnydd o’r Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r hyblygrwydd mae’r setliad yn ei gynnig, nodwyd y byddai gwerth £1.8m o arbedion a gynlluniwyd yn wreiddiol i’w gwireddu yn 2022/23 bellach ddim yn cyfrannu at gau bwlch cyllidebol 2022/23.  Canlyniad hyn yw mai £595,000 yw gwerth yr arbedion sy’n weddill yn y rhaglen i’w tynnu allan o gyllideb 2022/23, yn hytrach na £2.4m.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru. Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb yn un gytbwys ac yn rhoi'r Cyngor mewn sefyllfa gadarn, ac er y cynnydd mewn treth Cyngor (sydd yn is na chyfartaledd Cymru gyfan) byddai’n lleihau pwysau ar yr adrannau i wneud arbedion ac yn rhoi gwell sail iddynt barhau i gynnig gwasanaethau i drigolion Gwynedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â demograffi a’r datganiad bod lleihad net mewn nifer disgyblion cynradd ac os yw hyn yn cael ei ragweld fel patrwm tymor hir, llai o blant? llai o deuluoedd? llai o weithwyr i’r dyfodol?, nodwyd er bod y sefyllfa yn mynd i fyny ac i lawr, bod tuedd a phryder erbyn hyn bod y lleihad yn batrwm tymor hir. Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’n rhannu’r data perthnasol gyda’r Cynghorydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys

·         Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol

·         Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2022/23 yn eu cyfarfod 15/2/22

 

Dogfennau ategol: