I ystyried y gyllideb y bwriedir ei argymell gan y Cabinet
i’r Cyngor i’w graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor
wedi derbyn cynnydd grant drafft o 8.8%, sy’n cyfateb i werth £18.1m mewn
ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 9.4%) ar gyfer 2022/23 sy’n
welliant arwyddocaol ar yr hyn a dderbyniwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y
byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r
Cyngor yn 2022/23. Yn ogystal â chyfarch
graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â
phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n
deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n
ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23.
Ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 15/02/22 i argymell i’r
Cyngor Llawn 3/03/22 sefydlu cyllideb o £295.2m ar gyfer 2022/23 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £213.2m, £82m o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd
o 2.95%) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £59m
yn 2022/23.
Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb
(cyfanswm o £20.2m) gan amlygu pedwar
pennawd o gynnydd yn arbennig.
·
Chwyddiant Cyflogau o £8.5m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng
nghytundeb tâl 2022/23 o 4% ar gyfer yr holl weithlu ynghyd a chynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant
Gwladol fydd yn weithredol o Ebrill 2022.
·
Chwyddiant Arall o £4m - Swm sy’n cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar
gostau a ffioedd taladwy i gyflenwyr preifat ynghyd â chynnydd chwyddiant ar
gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd prisiau yn dilyn ail-dendro.
·
Pwysau ar
Wasanaethau o £6.7m - argymhell cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau
parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod
ar eu gwasanaethau. Yn ychwanegol i’r
bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w
ariannu o’r Gronfa Trawsnewid. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n
drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.
·
Pwysau Covid-19 o
£1.4m. Ers Ebrill 2020, mae Llywodraeth
Cymru wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol a cholled incwm o
ganlyniad i’r pandemig allan o’r Gronfa Caledi (cyfanswm y cymorth gan y
Llywodraeth oddeutu £20m yn 2020/21, ac oddeutu £14.4m yn ystod 2021/22). Fodd
bynnag, mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ddiamwys y
byddai’r cymorth hwn yn dod i ben 31 Mawrth 2022 a bydd angen i’r awdurdodau
lleol ariannu unrhyw gostau ychwanegol / colled incwm yn sgil Covid-19 wedi
hynny. Nodwyd, er bod £1.4m wedi ei ddarparu er mwyn sefydlu cronfa
gorfforaethol, i ddygymod â’r sefyllfa, nid oedd y Pennaeth Cyllid yn rhagweld y byddai’n ddigonol ynddo’i hun i
ymdrin â’r pwysau, ond amlygodd bod cronfeydd eraill ar gael i gynorthwyo. Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid wedi ei
sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn, a gellid gwneud defnydd o’r
Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen.
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r
hyblygrwydd mae’r setliad yn ei gynnig, nodwyd y byddai gwerth £1.8m o arbedion
a gynlluniwyd yn wreiddiol i’w gwireddu yn 2022/23 bellach ddim yn cyfrannu at
gau bwlch cyllidebol 2022/23. Canlyniad
hyn yw mai £595,000 yw gwerth yr arbedion sy’n weddill yn y rhaglen i’w tynnu
allan o gyllideb 2022/23, yn hytrach na £2.4m.
Gwahoddwyd y
Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i fynegi ei farn a manylu
ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib
a’r camau lliniaru. Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb yn un
gytbwys ac yn rhoi'r Cyngor mewn sefyllfa gadarn, ac er y cynnydd mewn treth
Cyngor (sydd yn is na chyfartaledd Cymru gyfan) byddai’n lleihau pwysau ar yr
adrannau i wneud arbedion ac yn rhoi gwell sail iddynt barhau i gynnig
gwasanaethau i drigolion Gwynedd.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â demograffi a’r datganiad bod lleihad
net mewn nifer disgyblion cynradd ac os yw hyn yn cael ei ragweld fel patrwm
tymor hir, llai o blant? llai o deuluoedd? llai o weithwyr i’r dyfodol?, nodwyd
er bod y sefyllfa yn mynd i fyny ac i lawr, bod tuedd a phryder erbyn hyn bod y
lleihad yn batrwm tymor hir. Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’n rhannu’r data
perthnasol gyda’r Cynghorydd.
PENDERFYNWYD:
·
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r cynnwys
·
Derbyn priodoldeb
ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno sylwadau
o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb
2022/23 yn eu cyfarfod 15/2/22
Dogfennau ategol: