Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd fod rhybudd o gynnig wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn ôl ym mis Mawrth 2019 yn amlinellu’r peryglon sy’n deillio o effeithiau newid hinsawdd. Mynegwyd fod peth oedi wedi bod i’r cynllun newid hinsawdd oherwydd y pandemig. Eglurwyd er hyn fod y Cynllun a gyflwynwyd yn benllanw gwaith caled a cham cyntaf i ymateb i newid hinsawdd o fewn y Cyngor. Nodwyd y gobaith o gyrraedd Cyngor carbon sero-net erbyn 2030. Pwysleisiwyd fod y camau sydd i’w gweld yn y Cynllun yn rhai rhwydd ond fod her fawr o flaen y Cyngor.

 

Ychwanegol y Pennaeth Adran Amgylchedd fod y cynllun hwn yn un trawsadrannol ond ei bod yn cael ei chartrefu ar hyn o bryd yn yr Adran Amgylchedd sydd yn gallu cynnig arweiniad pan mae’r angen.

 

Nododd Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod hwn yn gynllun corfforaethol ac y bydd angen i bob aelod o staff berchnogi’r cynllun ynghyd â gweithredu arno. Mynegwyd fod y nod yn glir sef i fod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac eglurwyd fod hon yn amserlen genedlaethol sydd wedi ei gosod gan Llywodraeth Cymru. Esboniwyd fod y cynllun yn amlygu fod y gwaith am fynd yn llawer ymhellach ‘na 2030 ond ei fod yn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor o ran y gwaith i’w wneud. Pwysleisiwyd fod gwaith pellach i’w wneud er mwyn blaenoriaethu’r gwariant ynghyd a chynlluniau tymor byr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at yr angen am yr ochor addysgol i’r cynllun hwn, eglurwyd fod cael plant a pobl ifanc yn rhan o’r cynllun ac i ddysgu am newid hinsawdd yn holl bwysig i’r cynllun.

¾    Amlygwyd yr elfen o gefnogi cymunedau i gynllunio a darparu atebion lleol i anghenion lleol gan annog trigolion i gymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu.

¾    Nodwyd fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ariannu cynllun Ffordd Osgoi Llanbedr ddim yn cynorthwyo at y cynllun hwn gan y buasai creu y ffordd yn lleihau allbynnau carbon.

¾    Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad gan nodi fod llawer o waith da wedi mynd yn benodol gan y Cyng. Catrin Wager i wthio y cynllun yn ei flaen a mynegwyd y bydd yn dda ei weld yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad gan holi os oedd y Gronfa Bensiwn yn buddsoddi yn gyfrifol. Mynegwyd ddwy flynedd yn ôl fod cyflwyniad wedi ei roi i’r Aelodau Cabinet am fuddsoddi cyfrifol gan egluro beth oedd y Gronfa Bensiwn yn ei wneud. Pryd hynny mynegwyd y dylai’r Pwyllgor Pensiynau ddelio’n briodol ac yn annibynnol gyda’r buddsoddiadau, gan nad yw hyn o fewn grym penderfyniadau’r Cabinet. Nodwyd fod y Bwrdd Pensiwn wedi bod yn gweithredu ar wahân ond efallai fod cyfle i roi cyfeiriad yr waith y Gronfa Bensiwn yn y Cynllun hwn. Eglurwyd fod llawer wedi digwydd o ran buddsoddi gwyrdd ac fod fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddi Cyfrifol wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn ar gyfer ei flaen graffu cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiwn wythnos nesaf. 

¾    Llongyfarchwyd y tîm am eu gwaith yn creu y ddogfen a nodwyd pwysigrwydd fod y ddogfen yn un fyw, mynegwyd er fod y maes mor eang fod y Cynllun wedi llwyddo i ddal popeth.

 

Awdur:Dafydd Wyn Williams a Bethan Richardson

Dogfennau ategol: