Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Judith Humphreys yn cynnig fel a ganlyn:-
“Fod
y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau
perthnasol i ymrwymo i:
- broffesiynoli chwaraeon merched fel bod
merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.
- sicrhau bod merched yn cael eu cynrychioli ar
fyrddau chwaraeon ar bob lefel.
- sicrhau bod cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon
merched yn arbennig o ran pêl droed a rygbi.
-bod chwaraeon merched yn cael sylw cyfartal â
dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.”
Penderfyniad:
Bod y
Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau
perthnasol i ymrwymo i:
- broffesiynoli chwaraeon merched fel bod
merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.
- sicrhau bod merched yn cael eu cynrychioli
ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.
- sicrhau bod cyfleusterau addas ar gyfer
chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a rygbi.
-bod chwaraeon merched yn cael sylw cyfartal
â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Judith Humphreys
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru,
Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau perthnasol i ymrwymo i:
- broffesiynoli
chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.
- sicrhau bod
merched yn cael eu cynrychioli ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.
- sicrhau bod
cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a
rygbi.
-bod chwaraeon
merched yn cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.”
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Bod
llai o ferched na bechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon, a bod merched yn fwy
tebygol o beidio â pharhau â chwaraeon ar ôl dechrau.
·
Yn ôl y “Women’s Sports Foundation” a sefydlwyd gan
Bille Jean King, mai’r prif reswm dros gael cyfle cyfartal i ferched
mewn chwaraeon yw er mwyn i ferched hefyd dderbyn y buddion pwysig a
ddaw drwy gyfranogi mewn chwaraeon - sef y buddion seicolegol, ffisiolegol a
chymdeithasol.
·
Bod hwn yn fater sy’n
teilyngu sylw difrifol swyddogion iechyd cyhoeddus, arweinwyr chwaraeon,
addysgwyr a’n gwleidyddion.
·
Yn hanesyddol, nad oedd gan ferched yr hawl i gyfranogi
mewn chwaraeon, ond bod diwylliant chwaraeon yn ein cymdeithas hyd heddiw yn
fwy gwrywaidd na benywaidd, gyda mwy o statws yn cael ei roi i chwaraeon
dynion, a hynny oherwydd bod chwaraeon gwrywaidd yn derbyn llawer mwy o
fuddsoddiad ac yn llawer iawn mwy amlwg a gweledol ar y cyfryngau.
·
Yn ôl y “Women’s and
Sports Fitness Foundation”, bod buddsoddiad masnachol, a’r sylw ar y cyfryngau
mae chwaraeon merched yn dderbyn, yn cyd-blethu â’i gilydd.
·
Er mwyn cynyddu
cyfranogiad merched mewn chwaraeon, bod merched angen gweld modelau rôl
ysbrydoledig yn y cyfryngau, a chael yr anogaeth mae dynion yn gael.
·
Er bod S4C i’w ganmol am y sylw maent yn rhoi i
chwaraeon merched ar y cyfan, mae merched yn llawer llai gweledol yn y
cyfryngau a’r Wasg na dynion.
·
Yn 2018, cyhoeddwyd adroddiad ar ba mor weledol yw
chwaraeon merched yn y cyfryngau ar draws gwledydd Ewrop. Roedd 5 gwlad o dan y chwydd wydr, a dengys
canlyniadau’r adroddiad nad oedd cyfran darlledu chwaraeon merched yn codi’n
uwch na 10% yn yr un o’r 5 gwlad. Tua 7%
yw canran darlledu chwaraeon merched ym Mhrydain!
·
Hefyd, yn anffodus, pan mae merched yn cael sylw,
mae’r ffocws yn gallu bod ar be maen nhw’n wisgo, yn hytrach na’u gorchestion
athletaidd.
·
Mai ychydig iawn o
fuddsoddiad masnachol sydd mewn chwaraeon merched. Golyga hyn bod tâl merched yn llai, ynghyd â
llai o gyfle i gael hyfforddwyr a chyfleusterau safonol.
·
O ystyried y diffyg
sylw, y math o sylw, y diffyg hyrwyddo a buddsoddiad, fawr ryfedd bod gan
ferched lai o gymhelliant i gyfranogi.
·
Nad yw’n syndod bod
merched yn poeni am gael eu beirniadu, yn poeni nad ydyn nhw ddigon da, a bod
llawer o ferched yn tynnu allan o chwaraeon yn eu harddegau.
·
O’r herwydd, mae merched yn colli allan ar y
buddion i’w iechyd a’u hunanhyder - y buddion corfforol a meddyliol, ac mae
cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd yn gallu gwella canlyniadau academaidd. Hefyd, mae’n bwysig ystyried bod canran
arwyddocaol o ferched dros hanner cant oed yn dioddef o osteoporosis, ac mae
ymarfer corff yn angenrheidiol ar gyfer cynnal dwysedd esgyrn.
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau a nododd:-
·
Y
byddai’n dda o beth gweld rhywun o’r byd chwaraeon yn dod ymlaen fel
pencampwraig i’r cynnig.
·
Bod
anghydraddoldeb dynion a merched mor amlwg mewn cymaint o feysydd, a bod y
cynigydd wedi cwmpasu’r rhesymau dros hynny yn dda iawn.
·
Bod
yna anghydraddoldeb tâl mewn pêl-droed dynion hefyd, gyda’r sêr yn ennill
miliynau a’r rhai ar waelod y gynghrair bron â llwgu.
·
Bod
angen newid y diwylliant er budd seicolegol, corfforol a chymdeithasol pawb,
nid merched yn unig, a bod hwn yn gynnig mor amserol yn dilyn Covid.
·
Y
credid y gallai Llywodraeth Cymru weld gwerth yn hyn, a bod yna bethau eithaf
syml y gallent eu gwneud i arwain y ffordd.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
“Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru,
Llywodraeth San Steffan a’r sefydliadau perthnasol i ymrwymo i:
- broffesiynoli
chwaraeon merched fel bod merched yn cael yr un cyfleoedd â thâl â dynion.
- sicrhau bod
merched yn cael eu cynrychioli ar fyrddau chwaraeon ar bob lefel.
- sicrhau bod
cyfleusterau addas ar gyfer chwaraeon merched yn arbennig o ran pêl droed a
rygbi.
-bod chwaraeon
merched yn cael sylw cyfartal â dynion ar y cyfryngau ac yn y Wasg.”