Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd
Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:-
“Gyda chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a
phobol a theuluoedd yn gorfod dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy
nag erioed am wasanaethau banciau a chynlluniau bwyd lleol. Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd yng ngogledd cymru cyn
y pandemig ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn
mis Ebrill eleni.
Mae’n rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl
aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd gan gynlluniau fel FareShare
ac yn ystod y cyfnod clo roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn
gyntaf yn unig.
Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd
lleol yn gorfod canfod yr arian ar gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y
gost yma fod o gwmpas £3,000 y flwyddyn.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o
gost y bwyd (hynny yw, tâl aelodaeth FareShare neu
gynlluniau dosbarthu tebyg) am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau
bwyd lleol yma sydd yn rhoi gwasanaeth allweddol i bobol a theuluoedd mewn
cyfnod o galedi mawr.”
Penderfyniad:
Gyda
chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a phobl a theuluoedd yn gorfod
dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy nag erioed am wasanaethau
banciau a chynlluniau bwyd lleol. Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd yng Ngogledd Cymru cyn
y pandemig, ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn
mis Ebrill eleni.
Mae’n
rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd
gan gynlluniau fel FareShare ac yn ystod y cyfnod clo
roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn unig.
Ond,
ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd lleol yn gorfod canfod yr arian ar
gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y gost yma fod o gwmpas £3,000 y
flwyddyn.
Galwn
ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o gost y bwyd (hynny yw, tâl
aelodaeth FareShare neu gynlluniau dosbarthu tebyg)
am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau bwyd lleol yma sydd yn rhoi
gwasanaeth allweddol i bobl a theuluoedd mewn cyfnod o galedi mawr.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Beca Brown o dan
Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Gyda chostau byw yn cynyddu’n frawychus o gyflym a
phobl a theuluoedd yn gorfod dewis yn aml rhwng bwyd neu wres, mae galw mwy nag
erioed am wasanaethau banciau a chynlluniau bwyd lleol. Yn ôl FareShare Cymru roedd 4 cynllun bwyd
yng Ngogledd Cymru cyn y pandemig, ond mae disgwyl y bydd oddeutu 40 erbyn mis
Ebrill eleni.
Mae’n rhaid i grwpiau gwirfoddol lleol dalu tâl
aelodaeth flynyddol i dderbyn bwyd gan gynlluniau fel FareShare ac yn ystod y
cyfnod clo roedd Llywodraeth Cymru yn ariannu aelodaeth y flwyddyn gyntaf yn
unig.
Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cynlluniau bwyd
lleol yn gorfod canfod yr arian ar gyfer y tâl aelodaeth eu hunain a gall y
gost yma fod o gwmpas £3,000 y flwyddyn.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu 70% o
gost y bwyd (hynny yw, tâl aelodaeth FareShare neu gynlluniau dosbarthu tebyg)
am gyfnod o 5 mlynedd er mwyn gwarchod y cynlluniau bwyd lleol yma sydd yn rhoi
gwasanaeth allweddol i bobl a theuluoedd mewn cyfnod o galedi mawr.”
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig gan nodi:-
·
Gan fod FareShare yn dosbarthu bwyd dros ben, a
fyddai fel arall yn cael ei daflu, bod y cynllun, nid yn unig yn rhoi cymorth
angenrheidiol i bobl sydd mewn angen, ond hefyd yn cyfrannu at leihau gwastraff
bwyd.
·
Bod y cynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau bwyd
yng Ngogledd Cymru wedi digwydd cyn i’r argyfwng costau byw daro go iawn, a
phwy ŵyr faint o gynlluniau bwyd fydd yn codi ar draws y sir a gweddill y
wlad ymhen blwyddyn arall.
·
Er y gwerthfawrogir yn
fawr yr arian a ddaeth gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r flwyddyn gyntaf o
aelodaeth y cynllun FareShare, byddai cael sicrwydd bod 70% o’r arian aelodaeth
wedi’i dalu gan y Llywodraeth am gyfnod o 5 mlynedd, tra bo pobl yn wynebu’r
her ddwbl o ffendio’u traed ar ôl y pandemig a delio gyda’r argyfwng costau
byw, yn tynnu’r straen a’r pryder oddi ar gynlluniau bwyd o orfod meddwl lle i
ddod o hyd i’r arian. Byddai hynny, yn
ei dro, yn rhoi sicrwydd i’r bobl sy’n derbyn y bwyd na fydd y gwasanaeth
hollbwysig yma yn gorffen yn ddisymwth.
Oherwydd nam ar y
sain yn ystod ei chyflwyniad, gofynnwyd i’r cynigydd anfon copi ysgrifenedig at
yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau a nododd:-
·
Bod cynghorwyr Bangor a gwirfoddolwyr Plaid Cymru
Bangor yn cefnogi’r cynllun bwyd a sefydlwyd gan y Cynghorydd Steve Collings,
ac mai ef a gyflwynodd y syniad o Fareshare ym Mangor.
·
Bod y cynnig yn un clodwiw sy’n sicrhau bod pobl
fregus a phobl mewn angen yn cael y bwyd sydd ei angen arnynt, yn ogystal â
mynd i’r afael ag anghyfartaledd cymdeithasol.
Roedd hefyd o gymorth i arbed y planed ac yn fodd o leihau gwastraff.
·
Ei bod yn bwysig bod cynlluniau fel hyn yn wybodus i
bawb ar draws y sir gan fod yr angen mewn ardaloedd gwledig fel Meirionnydd yn
gymaint ag yn y trefi mwyaf. Roedd yn
ofynnol cael cefnogaeth y Llywodraeth i hyn, ac erfyniwyd ar i unrhyw gynllun
fedru cael ei weithredu ar draws y sir gyfan.
·
Diolchwyd i’r holl wirfoddolwyr ym Methesda sy’n
casglu bwyd o’r archfarchnadoedd.
·
Er y cefnogid y cynnig, ei bod yn warthus bod pobl
yn ddibynnol ar fanciau bwyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a nodwyd bod hyn
eto’n enghraifft o sut mae’r system wedi torri ac yn anaddas i bwrpas.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-