Agenda item

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

           

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd
  2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd
  3. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg ar y safle hwn i’w cyfyngu i 40
  4. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref
  5. Defnydd gwyliau yn unig
  6. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr
  7. Dim storio carafanau ar y safle y tu allan i'r tymor
  8. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg
  9. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  10. Rhaid cynnal y gwelededd gyda'r A497 i'r safonau a'u dangosir yn y cynlluniau yn barhaus
  11. Amod Dŵr Cymru
  12. Amodau tirlunio

 

  • Nodyn - Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Trwyddedu

 

Cofnod:

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

 

a)     Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         Gosod 40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m

·         Creu ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle

·         Adeiladu bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi.

·         Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle

 

Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i  bwyllgor  22 Tachwedd, 2021 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu i swyddogion ystyried gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ac i drafod manylion y datblygiad ymhellach gyda’r ymgeisydd.

 

Eglurwyd bod y safle  wedi ei leoli  mewn cefn gwlad agored oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am y pryderon a gyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod diwethaf, sef diffyg ystyriaeth i  faterion bioamrywiaeth a mynedfa i’r parc carafanau. Mewn ymateb, nodwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno:

·         Asesiad Ecolegol Cychwynnol oedd yn cynnwys mesurau i amddiffyn coed hynafol ynghyd a chynllun gwelliannau ecolegol fyddai’n cynnwys plannu gwrych brodorol, tyfu blodau a gosod blychau adar. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r cynigion.

·         Cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd gyda’r A497 a fyddai’n golygu lledaenu’r llain gwair ger y ffordd,  torri dwy goeden a rheoli uchder y clawdd er mwyn creu gwelededd hyd at 160m i gyfeiriad y gorllewin. Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn fodlon gyda’r cynigion a’r Swyddogion Cynllunio yn derbyn bod y diwygiadau yn goresgyn problemau diogelwch

 

Ystyriwyd bod y cynnig gyda’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn cwrdd gyda’r anghenion ar gyfer datblygu safle gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y CDLl ac o osod amodau priodol er sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol i'r fynedfa briffordd a chamau lliniaru ar gyfer amddiffyn bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y polisïau perthnasol yn y CDLl.

.

b)   Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod yn dod o deulu ffermio Cymreig gyda gwerthoedd Cymreig.

·         Wedi byw a ffermio yng ngogledd Cymru ers dros 200 mlynedd a'i hun wedi ffermio yn Bodvel am dros 50 mlynedd

·         Yn ystod y cyfnod hwn ei bolisi erioed fu cefnogi gwerthoedd y gymuned leol, y bobl leol eu hunain, busnesau a gwasanaethau lleol

·         Ei fod bob amser wedi cyflogi pobl leol o deuluoedd lleol gan ddweud gyda balchder bod cenedlaethau o’r un teuluoedd lleol wedi bod yn gweithio ar y fferm ac wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am reoli agweddau amaethyddol a gofal anifeiliaid y fferm

·         Ei fod wedi bod yn ymwneud â nifer o fusnesau yn yr ardal sy’n cynnwys bwytai, gwestai, ysgolion marchogaeth, cwmni adeiladu, garej a chanolfan i ymwelwyr yn Bodvel. Gyda phob un busnes ei fod wedi cadw at yr un egwyddor o gadw popeth yn lleol. Bydd yn parhau gyda’r gwerthoedd hyn os bydd y cais yn llwyddiannus

·         Ei fraint hefyd yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023 ar y fferm yn Bodvel. Bydd hyn yn ei alluogi, i  hybu ei ethos o gefnogi'r iaith Gymraeg ynghyd â'i thraddodiadau, gwerthoedd a ffordd o fyw - nid yn unig yn lleol ond i gynulleidfa llawer ehangach gan hyrwyddo’r ffordd Gymreig o fyw i genedlaethau’r dyfodol.

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)  Amlygwyd bod yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Anwen Davies y datgan buddiant oherwydd ei bod yn berchennog maes carafanau teithiol

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod gwelliannau i faterion gwelededd o’r fynedfa i’r A497 yn dderbyniol

·         Bod materion bioamrywiaeth wedi cael eu cyfarch

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

         

1.       Cychwyn o fewn 5 mlynedd

2.       Unol â chynlluniau a gyflwynwyd

3.       Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg ar y safle hwn i’w cyfyngu i 40

4.       Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref

5.       Defnydd gwyliau yn unig

6.       Cadw cofrestr o ddefnyddwyr

7.       Dim storio carafanau ar y safle y tu allan i'r tymor

8.       Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg

9.       Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol

10.     Rhaid cynnal y gwelededd gyda'r A497 i'r safonau a'u dangosir yn y cynlluniau yn barhaus

11.     Amod Dŵr Cymru

12.     Amodau tirlunio

 

         Nodyn - Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Trwyddedu

 

 

Dogfennau ategol: