skip to main content

Agenda item

Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dau stabl a storfa tac.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad dim hwyrach na phum mlynedd o ddyddiad y caniatâd
  2. Cwblheir y datblygiad yn llwyr unol â'r manylion a gyflwynwyd
  3. Rhaid cytuno ar y deunyddiau / lliwiau allanol cyn dechrau'r datblygiad
  4. Rhaid defnyddio'r adeilad ar gyfer pwrpas amaethyddol yn unig

 

Nodyn - Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dwy stabl a storfa tac.

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer adeiladu sied amlbwrpas  (Amaethyddol / Ceffylau)  fyddai’n cynnwys dwy stabl a storfa tac ynghyd a man cysgodi defaid, lle cadw peiriannau a phorthiant a storfa llawr cyntaf.  Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored oddeutu 700m i’r de orllewin o bentref Croeslon Dinas; o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig a ddynodir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli; 180m i’r gorllewin o ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn berthynas i aelod etholedig o'r Cyngor.

Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais ym mhwyllgor 13 Rhagfyr, 2021 fel bod swyddogion yn cael cyfle i ystyried gwybodaeth hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad pellach ynghylch yr angen am y datblygiad. Roedd hyn yn cynnwys :

·         Nad oedd adeiladau amaethyddol yn sefyll wrth y tŷ (ar dir Tyddyn Du) - rhai o’r adeiladau gwreiddiol erbyn hyn yn eiddo i fferm Tyddyn Gwyn.

·         Bod mynediad i’r cae wrth y tŷ yn anaddas i gerbydau mawr gan iddo groesi ffos a phibellau dŵr; gwifrau cyflenwadau trydan a ffôn yn croesi uwchben yr adwy, sy’n rhwystr i beiriannau gael mynediad i’r cae ger y tŷ

·         Nad oedd angen gwneud llawer o waith i'r tir er mwyn creu safle lefel ar gyfer y datblygiad;  fe ail-gylchir unrhyw bridd a symudir i greu lle gwastad o amgylch yr adeilad

·         Bydd llwyni a choed cynhenid yn cael eu plannu o amgylch yr adeilad.

·         Ni fydd yr adeilad yn effeithio ar fwynderau gweledol unrhyw un o’r cymdogion, adeiladau eraill nac unrhyw anheddle cyfagos

·         Y safle yn guddiedig ac mewn safle diarffordd ac anial; gwrychoedd yn guddfan naturiol i’r adeilad.

Adroddwyd bod trafodaethau pellach ynghyd a chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd. Yn sgil hynny fe newidiwyd lleoliad arfaethedig yr adeilad – ei osod ar lefel is na gynigiwyd yn wreiddiol ac yn agosach at y gwrych aeddfed sy'n amgylchynu’r cae.

Yn sgil y newidiadau i'r cynllun ers y Pwyllgor diwethaf, a'r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ynghylch yr angen am yr adeilad a'r cyfiawnhad am y lleoliad, roedd y swyddogion yn derbyn bod yr angen amaethyddol wedi ei brofi ar gyfer codi adeilad ar y safle  ac felly’r bwriad yn dderbyniol dan egwyddor datblygiad gwledig sylfaenol a pholisi PCYFF1 y CDLl yn benodol. Yn ogystal, oherwydd bod y bwriad bellach wedi ei guddio yn rhannol o welfannau cyhoeddus, derbyniwyd na fyddai’r adeilad yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd. Ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol dan bolisïau, PCYFF2, PCYFF 3 ac AMG 2 y  CDLl

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod trafodaethau wedi eu cynnal i drafod y pryderon a gyflwynwyd a’u datrys - y trafodaethau hyn wedi bod yn fuddiol a chadarnhaol.

·         Bod yr adeilad bellach wedi ei adleoli i leoliad llai amlwg yng nghornel y cae

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau

 

1.         Rhaid cychwyn ar y datblygiad dim hwyrach na phum mlynedd o ddyddiad y caniatâd

2.         Cwblheir y datblygiad yn llwyr unol â'r manylion a gyflwynwyd

3.         Rhaid cytuno ar y deunyddiau / lliwiau allanol cyn dechrau'r datblygiad

4.         Rhaid defnyddio'r adeilad ar gyfer pwrpas amaethyddol yn unig

 

Dogfennau ategol: