Agenda item

 

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gyda ardal barcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau allanol.

5.         Mynediad a pharcio

6.         Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer ymlusgiaid.

7.         Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod nythu adar.

8.         Enw Cymraeg i’r tŷ.

 

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio

 

a)    Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod y cais yn rhannu'r un dyluniad a chais 5.4 - yn gais llawn ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Felinheli (fel y diffinnir yn yr CDLl.) ger ffordd gyhoeddus dosbarth 3 (Ffordd Caernarfon). Ategwyd bod bwriad gan yr ymgeisydd symud i fyw yn barhaol yn yr uned fydd yn cael ei alw yn Heulyn.

 

Eglurwyd bod caniatâd cynllunio byw ar gyfer codi eiddo preswyl tri llawr (Caniatawyd cais ar gyfer codi annedd 3 llawr o dan gyfeirnod C12/0986/20/LL yn ogystal ag ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 mlynedd ychwanegol o dan gyfeirnod C17/1232/20/LL). Golygai hyn, fod yr uned sydd wedi ei ganiatáu yn gynt, wedi ei gynnwys yn y banc tir yn barod. Wedi ystyried y sefyllfa, nid oes unrhyw newid yn yr unedau preswyl sy’n cael eu darparu ac felly nid yw’r bwriad yn groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O ganlyniad i hyn, nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad. I’r perwyl hwn ystyriwyd bod y bwriad diweddaraf hwn yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, gyda gosodiad y tŷ arfaethedig mewn perthynas ag anheddau cyfagos, ei ddyluniad a'i raddfa  ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn amharu'n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos ar sail colli preifatrwydd/gor-edrych ac aflonyddwch sŵn - y bwriad felly, yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 o'r CDLL.

 

Yng nghyd-destun diogelu llecynnau agored  presennol a rheilffyrdd segur cyflwynodd yr asiant gynllun safle diwygiedig er mwyn dengys bod pellter digonol rhwng yr eiddo a'r ardd breswyl ac na fydd y datblygiad yn gorgyffwrdd a'r rheilffordd segur. Yn yr un modd, ni fydd y bwriad yn amharu ar ddefnydd y llecyn agored sydd wedi ei warchod nid yw'n gorgyffwrdd yn sylweddol i yn y llecyn (bydd gardd yr eiddo o fewn terfyn y dynodiad). I'r perwyl hwn ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan na fydd yn amharu ar y llecyn agored wedi ei warchod a'r rheilffordd segur a drwy hynny'n cydymffurfio a gofynion polisïau ISA 4 a TRA 3 o'r CDLl.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r cefndir cynllunio, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a'i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol

 

b)    Nodwyd bod y gwrthwynebydd yn dymuno datgan yr un sylwadau a chais 5.4

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·           Bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Felinheli ac yn ffinio gyda Ffordd Caernarfon sy’n rhedeg ar hyn ffin ddeheuol y safle.  Y safle mewn ardal breswyl a’r plot wedi ei leoli ar dir drws nesaf i gais a drafodwyd yn 5.4

·           Cynhaliwyd trafodaethau pre-app gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn bod cais llawn wedi ei gyflwyno - y trafodaethau wedi parhau gyda swyddogion cynllunio a swyddogion priffyrdd ers cyflwyno’r cais.

·           Bod caniatâd blaenorol ar y safle ar gyfer datblygiad pedwar llawr ar gyfer darparu 4 fflat. Nodwyd bod y caniatâd yma wedi ei warchod ac felly mae hyn yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu’r cais cynllunio.

·           Bod caniatâd ar y safle hefyd ar gyfer datblygu ty preswyl tri-llawr a gall y caniatâd yma gael ei weithredu hyd at Ionawr 2023 - rhaid ystyried y sefyllfa wrth gefn a fyddai yn gallu bodoli o dan y datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo yn flaenorol ar y safle.

·           Yn ystod cyfnod ystyried y cais, trafodaethau helaeth wedi eu cynnal gyda’r swyddogion cynllunio a’r swyddog priffyrdd a newidiadau wedi eu cyflwyno i’r cynllun er mwyn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd.

·           Bod yr adran briffyrdd a swyddogion cynllunio yn fodlon gyda’r bwriad

 

d)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd gan yr adeilad yr un effaith a chais 5.4 ond yr un materion yn codi

 

e)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau allanol.

5.         Mynediad a pharcio

6.         Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer ymlusgiaid.

7.         Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod nythu adar.

8.         Enw Cymraeg i’r tŷ.

 

Dogfennau ategol: