Agenda item

 

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i  cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio C18/0125/17/MW:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i  gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais hwn yn rhan o gais cynllunio  C18/0125/17/MW a gymeradwywyd ar gyfer gwaredu a phrosesu dyddodion gweithio mwynau presennol gydag amodau, ar 6 Medi 2018.

Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle ac maent yn ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd o’r chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, amlygwyd bod chwaer gais, C21/0491/17/LL, yn destun penderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o waith y chwarel cyfan i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.

 

O dan Adran 73, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu amodau ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Bydd cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly’r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn gyfan. Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr Awdurdodau Cynllunio Lleol osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais gwreiddiol (er bod rhaid iddynt fod yn rhai y gellid fod wedi eu gosod ar y caniatâd gwreiddiol). Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol.

 

Adroddwyd bod y cais yn ymwneud â chynyddu allbwn o 5 i 9 llwyth ar ddyddiau gwaith ond yn symud yr un faint o ddeunydd gyda chaniatâd o waith y chwarel, ar raddfa gyflymach ac mai prif ystyriaethau’r cais oedd dwyster y broses gynhyrchu a, thrwy hynny, yr effaith ychwanegol ar y briffordd.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth,  ni dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad drwy Rhostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle.

 

Nodwyd bod cefnogaeth i'r cais gan Gyngor Cymuned Llandwrog yn ddarostyngedig i symudiadau HGV yn osgoi traffig ysgol yn y bore a'r prynhawn – y trefniant yma yn un gwirfoddol a gaiff ei gytuno a'i ddatblygu drwy'r Grŵp Cyswllt Cynllunio ar gyfer y safle.

 

Wedi ystyried mai un newid bychan fydd i'r cyfyngiadau allbwn presennol, ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol mewn egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â Pholisi TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Yng nghyd-destun effeithiau mwynderol,   cyfeiriwyd at yr amodau cynllunio sydd wedi'u gosod ar ganiatâd C18/0125/17/MW yn barod sy’n bodloni safonau cyfoes ac yn rhoi digon o reolaeth o ran effeithiau niwsans posib sŵn a llwch ar fwynderau'r ardal. Nid oedd gan Gwarchod y Cyhoedd Gwynedd unrhyw sylwadau ar y cais.

 

Oherwydd hyblygrwydd amod cynllunio presennol sy'n ymwneud â llwythi dyddiol, mae'r ACM wedi caniatáu trefniant anffurfiol i gynyddu allbwn i 9 llwyth y dydd ar gyfer y 12 mis diwethaf i ddigolledu am fesurau cyfnod clo Covid a gyfyngodd allbwn yn 2020. Er na wnaed unrhyw gŵyn i'r ACM ynghylch gweithrediadau yn y chwarel. Derbyniwyd sylwadau fel rhan o'r broses cais cynllunio hon gan breswylydd cyfagos yn nodi bod llwch wedi dod yn fwy o broblem yn ystod tywydd sych a chafwyd achosion o gerbydau yn cyrraedd y safle mor gynnar â 6:30am. Ar ôl codi'r mater hwn gyda gweithredwr y chwarel, maent wedi cynyddu mesurau atal llwch ac wedi cael ar ddeall y bydd gwaith monitro amlach yn cael ei wneud gan Wasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru gyda mesurau cydymffurfio safle. Mewn perthynas â phroblemau cerbydau yn mynd i'r safle am 6:30am, mae’r mater hwn bellach wedi'i ddatrys ac nid oes unrhyw gerbyd HGV yn mynd i'r safle tan 7:30am. Bydd y materion hyn yn cael eu trafod gyda'r gweithredwr a'r gymuned yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Cyswllt Cynllunio.

 

Ystyriwyd bod yr holl ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu a bod y bwriad yn gyson gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol.  Cyflwynwyd y cais yma dan a.73 sy'n caniatáu i amod 10 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac ail-osod yr holl amodau eraill sy'n ymwneud â'r effaith ar y dirwedd, archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth, diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith, cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd dynodedig.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y gwaith yn cynnig cyflogaeth yn lleol

·         Bod clirio hen rwbel o’r chwarel yn gwneud y lle yn fwy deniadol yn y pen draw

·         Er y cynnydd mewn trafnidiaeth bod hyn yn gyfystyr efallai ag un llwyth bob awr sydd ddim yn hynod o drwm

·         Derbyn pryderon pobl leol

 

PENDERFYNWYD Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio C18/0125/17/MW:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol

 

Dogfennau ategol: