skip to main content

Agenda item

 

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i  cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Doleni'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio C18/1126/17/LL:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i  gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff y cymeradwywyd cais cynllunio C18/0126/17/MW ar yr 18 Chwefror 2019, yn ddarostyngedig i amodau, i amrywio amod 6 o ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu pum llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb unrhyw symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  

 

Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle yn ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd yn y chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, mae chwaer gais, C21/0721/17/AC, yn ddarostyngedig i benderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o'r holl chwarel i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth,  ni dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad drwy Rostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle.

 

Ystyriwyd bod yr holl ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu a bod y bwriad yn gyson gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol.  Cyflwynwyd y cais yma dan a.73 sy'n caniatáu i amod 6 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac ail-osod yr holl amodau eraill sy'n ymwneud â'r effaith ar y dirwedd, archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth, diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith, cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd dynodedig.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais

 

 

PENDERFYNWYD Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio C18/1126/17/LL:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

Dogfennau ategol: