YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD
GARETH GRIFFITH
Diweddaru’r Pwyllgor am y cynnydd
hyd yma yn nhermau rheolaeth cerbydau modur a phwerau ymdrin â modurwyr sydd yn
parcio’n anghyfreithlon.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd diweddariad gan Pennaeth Adran
Amgylchedd ar y cynnydd hyd yma ar argymhellion y Grŵp Tasg. Atgoffwyd y
pwyllgor bod y Grŵp Tasg wedi ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2019 i ymgymryd ag
adolygiad cynhwysfawr o’r strategaeth parcio weithredol ac ystyried ei
addasrwydd a pherthnasedd i anghenion presennol y Cyngor a’i chymunedau.
Eglurwyd bod adolygu'r
trefniadau parcio ar draws y Sir yn anorfod yn nhermau cynaliadwyedd ariannol o
ran cyllidebau'r awdurdod er sicrhau bod trefniadau rheoli ymarferol yn rhai
effeithiol ac effeithlon. Ategwyd bod adroddiad cynhwysfawr wedi ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnig argymhellion
arloesol a phriodol ar gyfer datrys rhai o’r materion yn ymwneud a pharcio.
Cyflwynwyd adroddiad terfynol i’r Cabinet ym mis Chwefror 2021 ac fe
gymeradwywyd yr isod:
·
Mabwysiadu Strwythur Ffioedd Parcio Newydd oedd yn
sicrhau cysondeb ar draws y Sir
·
Adolygu cynnig parcio yn ystod cyfnod y Nadolig
·
Dim newidiadau i’r Cynllun Bathodyn Glas
·
Dim newidiadau i’r Cynllun Parcio i Breswylwyr
·
Cryfhau’r Tîm Gorfodaeth Parcio
Cadarnhawyd bod yr argymhellion hyn wedi’u
gweithredu.
O ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig, cydnabuwyd fod llawer o faterion wedi cael cryn
effaith ar gymunedau’r Sir yng nghyd-destun parcio. Rhoddwyd diweddariad
pellach ar waith oedd yn cael ei wneud i ymateb i ddau faes penodol, sef
rheolaeth cartrefi modur a phwerau ymdrin â modurwyr yn parcio’n
anghyfreithlon.
Yng nghyd-destun cartrefi modur, eglurwyd,
mewn ymateb i nifer o gwynion am gartrefi modur yn parcio mewn lleoliadau
anaddas a bod diffyg rheolaeth arnynt o fewn y Sir, bod gwaith helaeth wedi ei
wneud ar y cyd gyda’r Adran Economi i geisio adnabod goblygiadau’r cynnydd mewn
defnydd cerbydau modur (oherwydd cyfyngiadau teithio dramor) a’r effaith o fewn
y Sir. Ymgysylltwyd gyda gweithredwyr safleoedd carafanau yng Ngwynedd, y
sector cartrefi modur yn ogystal â’r cyhoedd a chymunedau ar draws y Sir drwy
holiadur ac adroddwyd bod yr ymateb wedi bod yn un cadarnhaol iawn ac yn
amlygu’r angen am fesurau ar gyfer rheoli’r sector cartrefi modur yn y Sir yn
well.
Yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet yn Nhachwedd 2021 mabwysiadwyd cynllun peilot i ddatblygu
lleoliadau parcio ym meysydd parcio’r Cyngor ar gyfer cartrefi modur fyddai’n
annog defnydd canol trefi a lleihau’r dwysedd o gartrefi modur sy’n defnyddio
lleoliadau anaddas. Ategwyd bod Bwrdd Prosiect wedi ei sefydlu i symud y gwaith
ymlaen ac y byddai angen cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer addasu’r meysydd
parcio dan sylw.
Yng nghyd-destun mabwysiadu pwerau towio cerbydau i ffwrdd, eglurwyd bod y drefn wedi dod i
rym o ganlyniad i broblemau parcio ar draws y Sir, yn enwedig ardal Llyn Ogwen
a Phen y Pas. Ystyriwyd nad oedd diryw o £35 yn ataliad digonol, ac felly
cyflwynwyd cynllun o symud y car os nad oedd cydymffurfiaeth gyda’r gofynion
parcio. Er bod y cynllun wedi ei ddatblygu gyda chydweithrediad yr Heddlu,
adroddwyd bod y Cyngor bellach gyda hawliau gweithredu ac yn cydweithio gyda
chwmni Gwalia Garage, Caeathro. Nodwyd bod bwriad
cyflwyno diweddariad ar y drefn wrth i’r cynllun aeddfedu.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Bod yr ymateb i’r problemau parcio i’w croesawu
·
Bod cynnig darpariaeth mewn meysydd parcio'r Cyngor
yn creu cystadleuaeth gyda meysydd carafanau’r Sir
·
Angen ystyried agosatrwydd y meysydd parcio at
gartrefi
·
Ni fydd y meysydd parcio yn cael eu goruchwylio –
gall hyn arwain at ymddygiadau gwrthgymdeithasol
·
Pwy fyddai’n gwaredu’r gwastraff a charthffosiaeth?
·
Sut mae gwahaniaethu rhwng parcio dros nos a
gwersylla dros nos? Rhaid amlygu’r gwahaniaeth os yn cyflwyno cyfyngiadau
·
A fydd gyrwyr loriau (sy’n gorfod cymryd egwyl
orffwys) yn cael eu rheoli yn yr un modd? Gall hyn greu problemau i glydwyr
sy’n darparu cynnyrch i fusnesau lleol
·
Bod angen diffiniad clir rhwng cartrefi modur, faniau gwersylla (camper vans) a faniau gwersylla sydd yn
plygu (folding campers)
·
Bod Cymru yn ymddangos fel gwlad ‘anghyfeillgar’ i
ddefnyddwyr cartrefi modur
·
Bod rhaid gwneud lle ar gyfer cartrefi modur
·
Awgrym bod rhai perchnogion cartrefi modur yn osgoi
talu am le ar faes carafanau pwrpasol er bod lle ar eu cyfer
·
Bod Gwynedd yn Sir weddol ei maint ac felly
anghenion parcio pob cymuned yn wahanol – anodd cael trefniadau sydd yn siwtio
pob ardal
·
Cais i ail farcio meysydd parcio gyda rhai baeau yn
rhy gul i geir
·
Awgrym i leihau niferoedd baeau bysiau mewn meysydd
parcio – buasai hyn yn rhyddhau mwy o le i geir
·
Arwyddion yn gymhleth – rhai yn cynnig tocyn 24awr
ond eto arwydd gwahanol yn nodi dim aros dros nos
·
Maes parcio Llandanwg angen sylw – llinellau baeau
yn annelwig, arwyddion wedi gwisgo ac
ysgrifen yn pylu
·
Bod nifer o faterion da wedi cael eu gweithredu o
ganlyniad i’r adolygiad
·
Bod angen trefniadau gorfodaeth fel rhan o’r
cynllun peilot.
Mewn ymateb i sylw bod dirwy o £35 yn
annigonol i atal parcio anghyfreithlon, nodwyd bod dirywion yn cael eu gosod yn
genedlaethol, ond bod ymholiadau wedi cael eu gwneud ynglŷn â defnydd o
ddirywion gwahanol fel modd o wella cydymffurfiaeth. Adroddwyd e.e., bod y cynllun
towio, cydweithio gyda’r Adran Cefnffyrdd a chyflwyno
llinellau melyn dwbl yn ardal Ogwen wedi gwella’r sefyllfa ar ochr Gwynedd ond
nad oedd Conwy wedi mabwysiadu ataliadau parcio. Ategwyd bod mesur llwyddiant y
cynllun towio yn gynamserol, ond eisoes gwelwyd gwell
cydymffurfiaeth.
Mewn ymateb i’r sylwadau am gartrefi modur,
nodwyd y byddai modd rhannu’r gwaith ymchwil a gwblhawyd gyda’r aelodau.
Derbyniwyd bod angen ystyried lleoliadau’r meysydd parcio yn ofalus a bod
addasrwydd safle yn bwysig. Ategwyd bod materion megis effaith mwynderau,
effeithiau gweledol a llifogydd yn cael eu hystyried ac y byddai pob cais yn
gorfod mynd drwy’r broses cynllunio. Nodwyd hefyd y byddai cynllun peilot yn
fodd o weld a thystiolaethu beth sydd yn dderbyniol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen
am beiriannau talu ac arddangos sydd yn derbyn cerdyn ac arian parod ar draws y
Sir, nodwyd bod trafferthion gyda rhai peiriannu sydd yn derbyn cerdyn oherwydd
diffyg signal, ond bod pob maes parcio yn cynnig talu gyda ffôn. Ategwyd bod
taliad (drwy ap) gyda ffôn yn cynnig manteision sylweddol ac wedi bod yn hynod
o lwyddiannus. Nodwyd y byddai’r ddarpariaeth yn gwella, wrth
uwchraddio peiriannau talu byddent yn cynnwys cyfarpar i gymryd taliadau
cerdyn.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais gan
aelod o’r cyhoedd (drwy law Is-gadeirydd y Cyngor) i’r Cyngor ystyried cyflwyno
amseroedd byr ar gyfer ymwelwyr i hafan iechyd neu osod baeau pwrpasol o fewn y
maes parcio, nodwyd bod y mater yn cael sylw a thrafodaeth uniongyrchol wedi ei
gynnal gyda’r ymholydd.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais i
swyddogion gorfodaeth ddefnyddio disgresiwn wrth osod dirwy gan annog gyrwyr i
‘symud ymlaen’ neu ‘osgoi gor-aros’, nodwyd bod rhai
sefyllfaoedd parcio yn anodd ei rheoli, ond bod y cyfyngiadau parcio yn cael eu
gosod i bawb - lleol neu beidio. Ategwyd bod y swyddogion yn ystyried
disgresiwn wrth ddadlwytho, llwytho a diogelwch ffyrdd yn gyffredinol, ac nad
creu incwm oedd y prif yrrwr yma. Y flaenoriaeth oedd cadw ffyrdd yn ddiogel a
bod yn gyson a theg gyda phawb. Nodwyd bod gwaith
gorfodaeth gan amlaf yn digwydd yn ystod y dydd, ond yn hwyrach mewn ambell
faes parcio lle’r oedd parcio 24 awr. ‘Roedd
angen sicrhau diogelwch swyddogion.
Mewn ymateb i sylw yng nghyswllt pwyntiau gwefru trydan, nodwyd bod
arian cyfalaf wedi ei glustnodi a derbyniwyd grantiau i ariannu gosod
darpariaeth pwyntiau gwefru trydan. Eglurwyd bu oediad yn sgil y pandemig a materion is-adeiledd e.e. yr angen am is-orsaf
trydan yn Nolgellau. Nodwyd y byddai’r gwaith o osod y ddarpariaeth yn digwydd
dros y flwyddyn nesaf.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag atal
cartrefi modur rhag parcio mewn culfannau dros nos a bod angen gosod arwyddion
yn amlygu hyn, nodwyd bod y mater yn un cymhleth oherwydd bod nifer o
is-ddeddfau i’w hystyried os am ddatrys y mater. Ategwyd bod y Gwasanaeth wedi
ystyried cyngor cyfreithiol. Pwysleisiwyd ni fyddai datrysiad yn y tymor byr.
PENDERFYNWYD
Derbyn y diweddariad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: