Agenda item

I ystyried cais  Eva Amour, 6th St Anne Square, Stryd Fawr, Abermaw, LL42 1DL

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

GWRTHOD Y CAIS AR Y SAIL NAD YW'N CYD-FYND Â CHYMERIAD YR ARDAL GYFAGOS A BOD LLEOLIAD ARFAETHEDIG YR EIDDO YN AGOS I EIDDO A FYNYCHIR GAN BLANT AC OEDOLION BREGUS.

 

COFNODION:

Ymgeisydd:   Mr David Powley a Mr Daniel Millar (ar ran DD Trading (NW) Ltd)

 

Ymatebwyr:   Mr a Mrs D Hooper, Mr Trevor Parry, Parchedig Dawn Robinson, Cyng Rob Triggs (Cyngor Tref Abermaw), Cyng Katie Price (Cyngor Tref Abermaw) a Katie Pattison

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau.

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded siop rhyw ar gyfer Eva Amour, 6, Sgwar Santes Anne, Stryd Fawr, Abermaw.

 

Eglurwyd bod unrhyw unigolyn sy'n dymuno rhedeg Sefydliad Rhyw yn unol â diffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 angen trwydded sefydliad rhyw, oni bai bod yr awdurdod priodol wedi hepgor y gofyn am drwydded. Gan fod darpariaethau'r Ddeddf wedi eu mabwysiadu'n llawn 7fed o Hydref 2021, ni all unrhyw fusnes o'r fath weithredu yn ardal Gwynedd heb drwydded ddilys. Er hynny, gan fod y busnes yma wedi ymgeisio am drwydded ym mis Chwefror 2021, cyn mabwysiadu'r system drwyddedu i holl ardal Gwynedd, nid oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i atal y busnes rhag agor heb drwydded ar y pryd a nodwyd bod y busnes wedi bod yn masnachu ers Rhagfyr 2021.

 

Cyfeiriwyd at y broses o reoleiddio sefydliadau rhyw a'r broses drwyddedu gan amlygu bod pum rheswm gorfodol am wrthod cais - os yw'r ymgeisydd

 

           Yn iau na 18 mlwydd oed

           Ar hyn o bryd wedi cael ei wahardd rhag dal trwydded sefydliad rhyw

           Ddim yn gorff corfforedig ac nad yw'n byw neu nad yw wedi byw yn y DU am y chwe mis cyn dyddiad y cais hwn

           Yn gorff corfforedig sydd ddim wedi'i ymgorffori yn y DU

           Yn y 12 mis cyn dyddiad y cais hwn wedi cael gwrthod caniatâd neu gais i adnewyddu trwydded ar gyfer yr eiddo sy'n destun y cais hwn, oni bai bod y gwrthodiad wedi cael ei wyrdroi mewn apêl 

 

Ategwyd, nad oedd unrhyw un o'r rhesymau gorfodol hyn dros wrthod yn berthnasol yn yr achos hwn ond cyfeiriwyd at y rhesymau dewisol - 

 

           Os yw'r ymgeisydd yn anaddas ar gyfer dal y drwydded am ei fod wedi derbyn collfarn am drosedd

           Pe bai'r busnes yn cael ei reoli neu ei weithredu er budd trydydd parti fyddai ddim yn derbyn trwydded eu hunain

           Bod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal leol neu o'r math penodol hwn yn yr ardal leol gyfartal neu'n uwch na'r nifer yr ystyrir yn briodol

           Yn amhriodol o ran:

 

i.          Cymeriad yr ardal leol berthnasol - yn fater i'r aelodau, yn seiliedig ar ffeithiau'r cais. Nodwyd nad oedd rhaid diffinio'r ardal leol berthnasol yn glir, ac fe all yr aelodau benderfynu bod yr ardal leol yn yr achos yma yn cyfeirio at yr ardal sy'n amgylchynu'r eiddo ar/neu wrth ymyl Sgwâr Santes Anne, ar y Stryd Fawr yn Abermaw yn yr achos yma.

ii.          Defnydd yr eiddo yn y cyffiniau

iii.         Gosodiad, cymeriad, cyflwr neu leoliad yr eiddo

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 82 gwrthwynebiad wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol ac 8 o sylwadau’n cefnogi’r cais. Ymysg y sylwadau gan drigolion, derbyniwyd gwrthwynebiadau hefyd gan ddiaconiaid Eglwys Crist, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a'r Cyngor Cymuned ac offeiriaid lleol. Cyflwynwyd sylwadau ar y cais gan Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Adran Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach y Cyngor gan gadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiadau i'r cais

 

Wedi trafodaethau gyda'r ymgeisydd, oherwydd bod 11 mis wedi mynd heibio ers cynnal yr ymgynghoriad ar y cais, penderfynwyd caniatáu i holl ymatebwyr y cais ailystyried eu sylwadau. Anfonwyd llythyr ar 28 Ionawr 2022 at bawb ymatebodd yn wreiddiol, i alluogi'r cyfle i gadarnhau, addasu neu ddileu eu sylwadau.

 

Derbyniwyd 22 o sylwadau, 20 yn cadarnhau eu gwrthwynebiad i'r cais, gyda 5 ohonynt yn cyflwyno sylwadau wedi'i haddasu. Roedd un ymatebwr wedi gofyn am ddileu ei wrthwynebiad, yn seiliedig ar y ffaith nad oedd yr arddangosfa ffenestr siop yn peri tramgwydd fel yr ofnid i ddechrau.  Roedd un ymatebwr oedd yn cefnogi'r cais wedi gwneud sylwadau ar y broses o benderfynu ar y cais.

 

Argymhellwyd i’r Is-bwyllgor wrthod y cais ar y sail nad oedd yn cyd-fynd â chymeriad yr ardal gyfagos a bod lleoliad arfaethedig yr eiddo yn agos i eiddo a fynychir gan blant ac oedolion bregus.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Rhoi cyfle i’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi sylwadau ysgrifenedig

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

·      Cyfle i’r Rheolwr Trwyddedu a’r ymgeisydd grynhoi eu hachos

b)                    Nid oedd gan yr Is-bwyllgor gwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu

 

c)                    Cwestiynau gan yr ymgeisydd ac ymatebion y Rheolwr Trwyddedu

 

A oedd yr awgrym gan yr ymgeisydd, mewn e-bost i’r Adran Trwyddedu i ail  ddechrau’r broses yn un rhesymol?

 

Cadarnhawyd bod e-bost yn gofyn am ail dechrau’r broses wedi ei dderbyn, ond bod hyn wedi ei dderbyn ar ôl i’r ymgeisydd weld yr adroddiad pwyllgor a’r argymhelliad

 

A oedd yr ymatebion wedi eu hystyried yn deg cyn eu cyhoeddi?

 

Pob gofal wedi ei wneud wrth drin a’r ymatebion. Nid oes hawl gan y Rheolwr Trwyddedu i ddehongli pa sylwadau sydd yn briodol  - bydd y Rheolwr Trwyddedu yn sicrhau bod yr holl sylwadau yn cael eu cyflwyno i’r ymgeisydd gael cyfle i’w gweld ac ymateb iddynt ac i’r Is-bwyllgor eu hystyried wrth ddod i benderfyniad

 

A yw’r Cyngor yn cefnogi sylwadau ffug ac yn caniatáu dirnadaeth?

 

Bod gan ymatebwyr yr hawl i gyflwyno eu barn / sylwadau ac nid oes hawl rhwystro sylwadau o blaid nac yn erbyn

 

A oedd  y Cyngor ar fai yn dechrau proses ymgynghori heb fabwysiadu’r Ddeddf a’r datganiad rheoli sefydliadau rhyw?

 

Derbyn y farn, ond nodwyd bod y Ddeddf yn caniatáu ceisiadau ôl-weithredol. Ategodd y Pennaeth Cyfreithiol o dan atodiad 3 o Ddeddf 1982,  bod modd cyflwyno cais rhag-blaen

 

Ydy yn deg dweud bod canran sylweddol o’r ymatebion a gyhoeddwyd yn anghywir?

 

Dim ymateb

 

Pam nad oedd crynodeb o’r sylwadau cefnogi yn yr adroddiad? Yr adroddiad yn canolbwyntio ar y gwrthwynebiadau - hyn yn annheg o ystyried bod dros 400 yn cytuno gyda’r cais

 

Bod yr holl sylwadau wedi cael eu hystyried gan ganolbwyntio ar sylwadau ymatebwyr oedd yn lleol i gymuned Abermaw. Rhai sylwadau o blaid wedi eu cyflwyno o dramor.  Ategwyd mai llofnod yn unig oedd ar y ddeiseb cefnogi a dim sylwadau ysgrifenedig. Natur y sylw sydd yn bwysig ac nid y nifer a dderbyniwyd

 

Ai'r sylwadau yn dilyn yr ail ymgynghoriad a ddylid fod wedi eu cyhoeddi yn unig?

 

Yr holl sylwadau yn parhau i fod yn berthnasol. Mater i’r Is-bwyllgor yw dehongli perthnasedd y sylwadau i’r cais

 

A oedd geiriad  y llythyr a anfonwyd i’r ymatebwyr gwreiddiol yn cynnig ail gyflwyno / ail ystyried eu sylwadau yn annheg?

 

Anfonwyd y llythyr o dan amgylchiadau teg – cynnig i bawb ail gyflwyno eu sylwadau

 

Sylwadau am y drws ochr – sut rhannwyd y wybodaeth yma?

 

Cyfeiriad at ddrws ochr wedi ei gynnwys yn ffurflen gais yr ymgeisydd a’r ymatebwyr wedi ymateb i hyn

 

Beth yw ‘sex tourism’?

 

Dim sylw

 

Pam bod yr awgrym o gynnig cefnogaeth, cwnsela a gwybodaeth am iechyd rhywiol wedi ei gamddehongli?

 

Cyfeiriad yn ffurflen gais yr ymgeisydd yn mynegi hyn. Yn dilyn ymateb gan yr ymgeisydd yn nodi mai eu dyhead oedd cynnig hyn ‘We aim’ ac  ‘We plan’, derbyniwyd cadarnhad am ystyr y sylw

 

Pam bod sylwadau am  bwysau ychwanegol ar y swyddfa bost yn cael eu hystyried yn negyddol?

 

Dim sylw ychwanegol - sylwadau gan ymatebwyr sydd yma

 

Beth yw ‘significant degree’?

 

Dehongli’r ymadrodd yn rhan o drafodaeth ehangach ac nid i’w ystyried wrth drafod y cais.

 

 

Ategodd y Rheolwr bod trafodaethau rheolaidd wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd, gan geisio rhoi arweiniad.

 

ch)       Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·      Bod llawer o gefnogaeth i’r fenter newydd gyda rhai oedd yn gwrthwynebu bellach wedi newid eu meddwl

·      Bod y siop o fewn ardal breswyl ei natur ond bod pawb bellach yn gefnogol a nifer fawr wedi arwyddo deiseb yn cefnogi’r fenter

·      Bod perthynas dda gyda’r dafarn leol - yn cydgordio digwyddiadau

·      Bod perthynas dda gyda siopau eraill yn yr ardal

·      Bod cyfeiriad yn y polisi tuag at ‘fannau agored’ yn cyfeirio at barciau

·      Wedi trafodaeth gyda’r Eglwys – nid yw eu gwrthwynebiad yn sefyll bellach nawr mae’r siop yn agored a’r hyn sydd yn amlwg

·      Bod nifer yn pryderu am yr hyn ‘nad yw’n hysbys’ - y siop wedi ei gyflwyno yn chwaethus

·      Bod siopau eraill tebyg wedi eu sefydlu ger Eglwysi a bellach yn cyd-fyw heb unrhyw bryderon

·      Nid oes unrhyw gynnyrch  yn cael ei arddangos yn ffenest y siop

·      Bod holl siopau Ann Summers ar draws y wlad yn gweithredu heb drwydded ac wedi eu lleoli mewn ardaloedd prysur

·      Bod diogelwch y gymuned yn bwysig – bwriadu cadw at reolau a gweithredu yn gyfreithiol

·      Bod gwybodaeth a gafodd ei gamddehongli / gamddeall bellach wedi diflannu

·      Bod mwyafrif o’r cwsmeriaid yn lleol

·      Nid oes digwyddiadau / dathliadau ‘Stag and Hens’ yn digwydd yn Abermaw

·      Y bwriad yw cael siop gyda thrwydded

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a rheoli’r fenter heriol yma yn gyfrifol a safonol heb ddwyn anfri ar y dref, nododd yr ymgeisydd ei fwriad o gyflwyno’r siop mewn modd chwaethus. Ategodd bod adborth calonogol wedi ei dderbyn ynglŷn a chyflwyniad y siop a’i fod yn ychwanegu gwerth i’r stryd fawr. Ategodd bod rhai yn teithio’n benodol i ymweld a’r siop ac yn aros yn y dref gan gyfrannu at yr economi leol. Nid ydynt yn canolbwyntio ar gynnyrch rhad.

 

d)         Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Mrs Hooper

·         Yn cadw at ei sylwadau gwreiddiol o fod yn gwrthwynebu’r cais

·         Pryder am leoliad y siop - gerllaw'r Eglwys,  Meithrinfa a lle mae teuluoedd yn siopa

·         Y siop yn anaddas ar gyfer tref gwyliau i deuluoedd

·         Y siop o fewn ardal sydd yn hygyrch i bobl fregus

 

Cyng. Katie Price

·         Bod y Cyngor wedi derbyn nifer fawr o wrthwynebiadau – llawer mwy na’r hyn sy’n arferol

·         Cyngor Tref yn gwrthwynebu yn benodol oherwydd lleoliad y siop sydd gyda chroesfan cerdded o’i blaen; bod addoldy prysur gyferbyn a’r siop sydd yn cynnal gwasanaethau, priodasau, angladdau a chyfarfodydd ieuenctid

 

Cyng Rob Triggs

·         Ategu sylwadau Cyng Katie Price

·         Dim sylwadau personol ond gwrthwynebiad wedi ei gyflwyno  yn unol â sylwadau’r trigolion lleol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phleidlais y Cyngor Tref ar  y cais, nodwyd bod y bleidlais i wrthod wedi bod yn unfrydol ac nad oedd yr un llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn

 

Mr D Hooper

·         Yn cadarnhau ei wrthwynebiad gyda phwyslais ar anaddasrwydd y lleoliad

 

Parchedig Dawn Robinson

·         Cadarnhau bod ei gwrthwynebiadau yn sefyll - siarad ar ran yr Eglwys

·         Anghytuno gyda lleoliad y siop

 

Katie Pattison

·         Yn rhiant lleol ac yn gefnogol i’r cais

·         Yn rhannu'r un fynedfa i’w chartref a’r siop

·         Dim rhesymau moesol dros wrthwynebu’r cais

·         Bod mwy o adnoddau all achosi tramgwydd yn y Siop Roc!

·         Nid yw ei phlant wedi gwneud sylw wrth gerdded heibio’r siop i’r ysgol

·         Wedi dod i adnabod yr ymgeiswyr yn dda

·         Ni ddylid cuddio’r siop

·         Ei bod wedi anfon e-bost yn cadarnhau ei chefnogaeth

 

dd)       Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd y Rheolwr Trwyddedu'r pwyntiau canlynol

·         Y cais wedi ennyn llawer o sylw yn y gymuned leol

·         Y gymuned leol wedi amlygu teimladau cryfion a rhain wedi eu rhannu

·         Tynnwyd sylw at y ofynion y ddeddf ynghyd a’r polisi

·         Lleoliad y siop yw’r sail dros yr argymhelliad i wrthod – nid yw yn leoliad addas i gymeriad yr ardal gyfagos

 

e)            Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol gan ymateb hefyd i’r pryderon a amlygwyd gan yr ymatebwyr:

·         Bod cael trwydded ar y siop wedi bod yn rhan o’r cynllun ers y dechrau

·         Llawer o ddiddordeb yn y siop wedi ennyn cefnogaeth

·         Ers agor, y siop efallai wedi derbyn mwy o gefnogaeth

·         Eu bod yn rhan o’r gymuned - yn cyflogi pobl leol

·         Eu bod yn byw yn yr eiddo

·         Gellid sicrhau diogelwch i’r gymuned

·         Trwydded yn ddilys am 12 mis – hwn yn gyfle da

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn argymell gwrthod y cais ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.

Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn egwyddorion Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 sydd yn cynnwys cynllun trwyddedu i reoli sefydliadau rhyw (Siopau rhyw a sinemâu rhyw). Mabwysiadwyd Cyngor Gwynedd y Ddeddf ynghyd a Datganiad o Bolisi Trwyddedu Sefydliadau Rhyw mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar y 7fed o Hydref 2021

PENDERFYNWYD: GWRTHOD Y CAIS AR Y SAIL NAD YW'N CYD-FYND Â CHYMERIAD YR ARDAL GYFAGOS A BOD LLEOLIAD ARFAETHEDIG YR EIDDO YN AGOS I EIDDO A FYNYCHIR GAN BLANT AC OEDOLION BREGUS.

 

Rhesymau:

 

Roedd yr Is Bwyllgor yn fodlon nad oedd y seiliau ar gyfer gwrthod cais yn Atodiad 3

paragraff 12(1) o’r Deddf yn perthnasu i’r cais. Gan hynny ystyriwyd y cais dan ddarpariaethau dewisol Atodiad 3 paragraff*3) o’r Deddf.

 

Ystyriwyd y rhesymau dewisol:

 

a)    Fod yr ymgeisydd yn anaddas i ddal y drwydded am ei fod wedi derbyn collfarn am drwydded neu am unrhyw reswm arall

b)    Petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu, adnewyddu neu drosglwyddo byddai’r busnes oedd yn berthnasol iddo yn cael ei reoli neu ei weithredu er budd person, ac eithrio'r ymgeisydd, fyddai ddim yn derbyn trwydded pe bai'n ymgeisio am un ei hun.

c)    Y byddai y nifer o sefydliadau rhyw neu sefydliadau rhyw o fath benodol yn yr cyffiniau perthnasol ar adeg y cais yn gyfartal neu'n uwch na’r nifer yr ystyrir yn briodol i'r cyffiniau gan yr awdurdod.

d)    Y byddai caniatáu neu adnewyddu'r drwydded yn amhriodol gan ddal sylw at -

                                              i.        Cymeriad yr ardal leol berthnasol;

                                             ii.        Y defnydd a wneir o unrhyw eiddo yn y cyffiniau; neu

                                            iii.        Gosodiad, cymeriad, cyflwr neu leoliad yr eiddo, cerbyd, llestr neu storfa ynglŷn â’r sawl yn gwneud y cais.

 

Derbyniwyd nifer helaeth o sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at sawl agwedd a honiadau ynglŷn a’r bwriad. Yn ogystal derbyniwyd sylwadau oedd yn cefnogi’r cais a chyflwynwyd gwybodaeth bellach o gefnogaeth gan yr ymgeiswyr. Fodd bynnag, dim ond y wybodaeth oedd yn berthnasol i’w benderfyniad dan Atodiad 3 o’r Deddf am drwydded ar gyfer Sefydliad Rhyw sef Siop Rhyw fel y diffinnir yn y Ddeddf oedd gan yr Is Bwyllgor yr hawl i’w ystyried.

 

Fel rhan o’u cyflwyniad fe godwyd pwynt o drefn gan yr ymgeiswyr ynglŷn a’r treiglad amser ers yr ymgynghoriad gwreiddiol a statws yr ymatebion a dderbyniwyd. Roedd hyn yn benodol oherwydd fod yr ymgynghoriad gwreiddiol dros 12 mis oed a bod yr ymarfer diweddaru gan yr Adran Amgylchedd ac ymdriniaeth y canlyniadau yn anghywir ac annheg. Roedd yr Is Bwyllgor yn fodlon fod paragraff 29 o Atodiad 3 y Ddeddf yn darparu ar gyfer sefyllfa ble cyflwynwyd cais cyn i Gyngor fabwysiadu y gyfundrefn rheoli Sefydliadau Rhyw dan y Deddf. Roedd y ddarpariaeth yn paragraff 28 yn caniatáu gosod cais gwarchodol er cynnal gweithgaredd. Roedd yn ofyn hefyd dan paragraff 10 o’r Atodiad fod rhybudd cyhoeddus yn gwahodd sylwadau o fewn 28 diwrnod yn cael ei arddangos ar y safle ar dyddiad cyflwyno y cais. Roedd felly yn anorfod drwy ddewis cyflwyno cais rhag blaen fod yr ymgeiswyr yn cychwyn y broses o geisio sylwadau.

 

Codwyd pwynt o drefn bellach ynglŷn â’r llythyr anfonwyd gan Yr Adran Amgylchedd yn Ionawr 2022 yn ceisio diweddariad gan yr ymatebwyr. Nodwyd er bod 92 o ymatebion wedi eu derbyn yn wreiddiol ni chafwyd ond ateb pellach gan 22. Nodwyd pryderon yr ymgeiswyr am y treiglad amser rhwng y cais gwreiddiol a’r gwrandawiad hefyd. Nodwyd bod gofyn i’r Is Bwyllgor ddod i farn ar sail y dystiolaeth berthnasol a gyflwynwyd ac nid yw nifer y gwrthwynebiadau yn eu hunain yn berthnasol i’r penderfyniad. Roedd yr Is Bwyllgor yn fodlon o glywed y cyflwyniadau ac ystyried y wybodaeth oedd gerbron ei bod mewn sefyllfa i ddod i benderfyniad ar y cais am y rhesymau canlynol:

 

Diystyrwyd sylwadau ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r ystyriaethau. Roedd sawl gwrthwynebiad yn honni fod risg o weithgareddau ehangach yn cymryd lle o fewn yr adeilad ac y byddai yn gyrchfan i ‘dwristiaeth rhyw’. Cais trwydded ar gyfer sefydliad rhyw, (siop rhyw) oedd dan sylw ac ni fyddai y drwydded yn caniatáu gweithgareddau eraill. Roedd yr Is Bwyllgor yn fodlon nad oedd hyn yn sail i ganfod y byddai yr ymgeiswyr yn anaddas i dderbyn trwydded.

 

Penderfynwyd y byddai canatau trwydded yn amhriodol o ran:

                              i.        Cymeriad yr ardal leol berthnasol;

                             ii.        y defnydd a wneir o unrhyw eiddo yn y cyffiniau; neu

                            iii.        Gosodiad, cymeriad, cyflwr neu leoliad yr eiddo, cerbyd, llestr neu storfa ynglŷn â’r sawl yn gwneud y cais.

 

Disgrifiwyd yr ardal leol o amgylch y safle fel pwynt canolog yn y brif stryd siopa yn Abermaw. Roedd y lleoliad ar bwys Sgwâr St Anne oedd yn leoliad canolog pwysig yng nghanol y dref, o fewn ardal siopa brysur gyda Sgwâr St Anne yn leoliad lle roedd ymgasglu a man cymdeithasu i bobl a theuluoedd gyda darpariaethau eistedd allanol yn ardal yr eiddo. Eisteddai yn uniongyrchol gyferbyn a man croesi prysur, safle marchnad a siop elusennol ynghyd a bod yn uniongyrchol gyferbyn a Eglwys Crist (Christ Church) sydd yn addoldy agored ac yn gyrchfan ar gyfer grwpiau ieuenctid yn ogystal a gwasanaethau crefyddol (yn cynnwys priodasau ac angladdau rheolaidd). Nodwyd fod y cais yn gofyn am hawl i agor ar y Sul. Nodwyd bod y Polisi Trwyddedu yn amlygu fod agosatrwydd at addoldai yn ystyriaeth penodol wrth ddyfarnu ar gais.

 

Roedd yr Is Bwyllgor o’r farn fod yr adeilad yn amlwg yn y lleoliad ac yn wahanol o ran edrychiad i siopau ac eiddo cyfagos oedd yn golygu fod natur y sefydliad yn amlwg yn y stryd.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: