I ddarparu diweddariad ar weithrediad y Cynllun Gweithredu Tai, Adran Tai ac Eiddo.
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod.
b) Gofyn am ddiweddariad pellach
i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar y Cynllun Gweithredu Tai flwyddyn nesaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Tai ac Eiddo a chynhigiwyd
diweddariad ar rai o brif brosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai gafodd ei
gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020.
Adroddwyd ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni ers mabwysiadu’r Cynllun ym
mis Ebrill 2021, oedd yn cynnwys adeiladu 89 tŷ cymdeithasol a dod 41 o
dai gwag yn ôl i ddefnydd. Derbyniwyd trosolwg o brosiectau a meysydd unigol
gan fanylu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud a'r camau sydd ar y gweill.
Cyfeiriwyd at yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan yr Adran megis y
cynnydd sylweddol yn y nifer o gyflwyniadau digartref a dderbyniwyd ac
amlinellwyd ar y datblygiadau sydd ar y gweill i ddelio â’r heriau hyn. Tynnwyd
sylw’r Aelodau at y prosiect Siop un Stop a’r cam nesaf o adnabod modelau
gwahanol ar gyfer gweithrediad yr uned. Yn dilyn casglu gwybodaeth ac
ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar yr opsiynau gwahanol.
Ategwyd pwysigrwydd cyfathrebu ac adrodd ar lwyddiannau’r Cynllun
Gweithredu Tai gan ychwanegu bod tudalen eisoes wedi ei sefydlu ar y Fewnrwyd
Aelodau er mwyn cyhoeddi diweddariadau i Aelodau. Ychwanegwyd y byddai’r Adran
yn croesawu’r cyfle i ddychwelyd at y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol i roi
diweddariad pellach ar gynnydd y Cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am adroddiad manwl a
Chynllun uchelgeisiol sy’n adnabod ac ymateb i broblemau Tai'r Sir.
·
Mynegwyd gwerthfawrogiad am waith
yr Adran a mynegwyd balchder yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Edrychwyd
ymlaen at yr hyn gellir ei gyflawni yn y dyfodol.
·
Nodwyd nad oedd nifer o dai yn
ardal Blaenau Ffestiniog yn cyrraedd y safon briodol; serch hyn roedd y tai yn
cael eu rhentu i drigolion am nad oedd eiddo o safon well ar gael. Holiwyd os
yw Swyddogion o fewn yr Uned Dai yn parhau i ymweld ag eiddo rhent preifat er
mwyn gwirio eu safon a chost y rhent fel yn y gorffennol. Cwestiynwyd os oedd y
Cynllun yn mynd i’r afael a thai anaddas.
·
Gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn
cydweithio efo Rent Smart Wales. Credwyd bod y sefydliad hwn yn nodi safonau
disgwyliedig ond fod pobl yn derbyn tai o safon is oherwydd prinder eiddo yn y
Sir.
·
Gofynnwyd beth oedd y rhesymau
dros y nifer isel o’r ymatebion a dderbyniwyd pan gafodd dros 300 o lythyrau eu
gyrru at berchnogion tai gwag ar draws y Sir. Holwyd ymhellach pryd ddaeth y 41
o dai gwag yn ôl i ddefnydd.
·
Gwnaethpwyd sylw fod llawer mwy o’r grantiau tai gwag
i brynwyr tro cyntaf wedi eu rhoi i ymgeiswyr o ardal Arfon o gymharu ag
ymgeiswyr o Dde’r Sir. Holwyd os oedd yna restr aros ar gyfer Meirionnydd neu
reswm pan nad oedd pobl o Dde’r Sir yn ymgeisio am y grantiau hyn. Tybiwyd y
dylid gwneud mwy i hyrwyddo’r grantiau yma yn Ne’r Sir.
·
Arsylwyd bod rhaid i bobol fod yn
wynebu digartrefedd o fewn 56 diwrnod cyn cael eu hadnabod fel bod mewn perygl
o ddigartrefedd ond bod rhybuddion i adael weithiau yn cael eu rhoi 6 mis
ymlaen llaw. Gofynnwyd beth mae’r adran yn ei wneud er mwyn ceisio helpu’r bobl
hyn cyn y cyfnod 56 diwrnod.
·
Mynegwyd rhwystredigaeth cysylltu
â derbyn ymatebion gan rai o’r Cymdeithasau Tai. Nodwyd y byddai Aelodau yn
dymuno cael gwybod pa dai cymdeithasol sydd yn mynd i ddod yn wag ond nad yw’r
wybodaeth yma fel arfer yn cael ei ddarparu gan y Cymdeithasau Tai.
·
Mynegwyd fod rhai Aelodau yn aros
yn hir i dderbyn ymateb i’w hymholiadau gan y Tîm Opsiynau Tai ac wedi profi
trafferthion cysylltu â’r tîm. Nodwyd fod y cyhoedd hefyd wedi profi’r
rhwystredigaeth hon a chredwyd fod diffyg cyfathrebu gan y tîm. Holwyd am farn
y Pennaeth Tai ac Eiddo ar y sefyllfa.
·
Cyfeiriwyd at y gosodiad statudol
gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod y pandemig oedd yn nodi y
dylai Awdurdodau Lleol gartrefu unrhyw un a gyflwynai’n ddigartref a thybiwyd
fod hyn yn heriol i’r Uned Ddigartrefedd. Gofynnwyd a yw hyn wedi cael ei
adlewyrchu yn y graff ar dudalen 20 o’r pecyn a beth fydd yn digwydd petai’r
Llywodraeth yn codi’r Ddeddf hon.
·
Teimlwyd ei bod yn bwysig hyrwyddo’r Cynllun
Gweithredu Tai a bod gan yr Aelodau ran i’w chwarae. Awgrymwyd y dylai Aelodau
hyrwyddo’r Cynllun drwy eu Cynghorau Cymuned a Thref.
·
Credwyd fod cynnydd da iawn wedi
ei wneud ers mabwysiadu’r Cynllun. Adroddwyd fod amryw o ffigyrau calonogol yn
yr adroddiad. Dymunwyd derbyn rhagor o wybodaeth h.y. ble cafodd yr 89 tŷ
cymdeithasol eu hadeiladu.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Nad oedd yr hen drefn
o osod rhenti bellach yn bodoli. Nodwyd fod oddeutu 9,000 o dai rhent preifat
yng Ngwynedd ac mai nifer fach o’r landlordiaid hyn sy’n creu trafferthion.
Adroddodd y Pennaeth Tai ac Eiddo bod tîm o Swyddogion o fewn y gwasanaeth yn
gyfrifol am archwilio safonau tai. Gofynnwyd i’r Aelodau gysylltu â’r
gwasanaeth os ydynt yn ymwybodol o unrhyw dai problemus. Ychwanegwyd bod y tîm
ar gael i ymgymryd ag archwiliadau unrhyw adeg.
·
Bod
yr Adran Dai yn gweithio yn agos iawn efo Rent Smart Wales. Nodwyd bod 90% o dai
sydd yn cael eu rhentu yng Ngwynedd wedi cofrestru efo Rent Smart Wales.
Ychwanegwyd fod y sefydliad yn rhoi cydnabyddiaeth o wiriad ar y person
(landlord) ond yn ddibynnol ar y Cyngor i sicrhau fod safonau'r eiddo yn cael
eu cynnal. Adroddwyd nad oes rhaid datgelu safonau eiddo er mwyn gallu ei
gofrestru efo Rent Smart Wales. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â’r Adran Dai os
efo pryderon am safonau eiddo penodol.
·
Nad oedd y diffyg
ymateb i’r llythyrau a anfonwyd i berchnogion tai gwag yn syndod i’r Uned. Adroddwyd
fod yr ymarferiad hwn o lythyru perchnogion yn digwydd yn aml a bod yr ymateb o
hyd yn wael; nid yw’r Uned yn sicr pam. Nodwyd fod nifer o resymau pan fod
perchnogion yn dewis cadw eu tai yn wag, mae’r rhain yn amrywio o resymau
sentimental i resymau eraill fel teuluoedd yn cadw’r tai i’w plant. Ychwanegwyd
fod y 300 o lythyrau gafodd eu hanfon ar draws arfordir y Sir yn unig er mwyn
gweld beth fyddai’r ymateb; y cam nesaf fydd llythyru perchnogion tai gwag y
Sir yn ei gyfanrwydd fydd o gwmpas 1,200. Gobeithir cael gwell ymateb i’r
llythyrau hyn. Ychwanegwyd fod y 41 o dai gwag sydd eisoes wedi dod yn ôl i
ddefnydd yn gyfuniad o nifer o gynlluniau ar draws y Sir e.e. benthyciadau
prynwyr tro cyntaf a benthyciadau i ddod a thai yn ôl i safon.
·
Bod yr un neges yn
cael ei rannau ar draws y Sir a bod y grantiau tai gwag i brynwr tro cyntaf ar
gael i bawb. Adroddwyd nad oes rhestr aros ac efallai bod angen hyrwyddo’r
cynllun ymhellach fel bod pobl yn ymwybodol o’i fodolaeth; bydd yr Uned yn
gweithredu ar hyn.
·
Bod y Gwasanaeth
Digartrefedd yn derbyn achosion o ddigartrefedd cyn y cyfnod statudol o 56
diwrnod. Derbynnir achosion pan gaiff y rhybudd ei gyflwyno, fel arfer o fewn 6
mis; bydd llawer o waith ataliol yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn cyn
cyrraedd y 56 diwrnod. Adroddwyd fod y Gwasanaeth yn gallu cyfathrebu efo
landlordiaid a gallu ceisio dod o hyd i dai eraill i’w cleientiaid. Ychwanegwyd
fod Cyngor Gwynedd yn un o’r pedwar Cyngor Gorau ar draws y wlad am gymryd
camau i atal digartrefedd.
·
Bod perthynas agored
rhwng y Cyngor a’r Cymdeithasau Tai gyda chyswllt rheolaidd. Croesawyd Aelodau
i gysylltu â’r Adran Dai os ydynt yn cael trafferthion derbyn ymateb gan y
Cymdeithasau Tai yng Ngwynedd. Ychwanegwyd nad yw gadael i Aelodau wybod pryd
fydd Tai Cymdeithasol yn dod yn wag yn rhan o’r broses gosod tai cymdeithasol.
Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yntau yn awyddus i’r Cymdeithasau Tai hysbysu
Aelodau o pan fydd tai cymdeithasol yn dod yn wag. Credwyd y dylid ail ofyn i'r
Cymdeithasau Tai ddarparu’r wybodaeth yma ar ddechrau’r cyfnod Cyngor newydd.
Nodwyd fod hyn yn rhan o’r egwyddorion o rannu gwybodaeth y mae’r Adran yn
ceisio ei gyflawni efo’r Siop un Stop a’r Fewnrwyd Aelodau.
·
Bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn ceisiadau am
eiddo cymdeithasol yn ystod y flwyddyn sydd wedi arwain at oedi mewn rhai
achosion o ymateb i ymholiadau’r cyhoedd ac Aelodau. Eglurwyd fod yr uned yn
edrych ar ddatrysiadau i nifer o ymholiadau e.e. yn edrych ar opsiynau i
ddatblygu Ap fel y gall ymgeiswyr gael mynediad uniongyrchol i’w ceisiadau.
Ymddiheurwyd am yr oedi sydd wedi bod. Ychwanegwyd fod y tîm wedi bod dan
bwysau a gobeithir gallu ymateb â’r sefyllfa drwy’r Siop un Stop a gwella
cydweithio. Nodwyd fod datblygiadau eraill ar y gweill i ddarparu gwybodaeth
uniongyrchol i Aelodau drwy’r Fewnrwyd ble bydd posibilrwydd o weld
gweithgareddau diweddar mewn ardal benodol. Gobeithir y bydd y datblygiad yma
yn weithredol ar ôl sefydlu’r Siop un Stop.
·
Bod cynnydd yn y
niferoedd o gyflwyniadau digartref yn sicr oherwydd bod y diffiniad o
‘ddigartref’ wedi newid yn ystod cyfnod y pandemig. Yn y gorffennol os nad oedd
pobl mewn blaenoriaeth angen yna nid oedd y Gwasanaeth digartrefedd yn eu
derbyn. Yn dilyn y cyfarwyddyd gan y Llywodraeth y dylai bawb sy’n cyflwyno'n
ddigartref gael eu derbyn a’u cartrefu, arweiniodd hyn at gynnydd sylweddol yn
y niferoedd. Adroddwyd fod y niferoedd yn parhau i gynyddu sy’n bryderus iawn.
Tybiwyd fod y niferoedd cynyddol o ganlyniad i rybuddion gan landlordiaid
preifat i denantiaid adel oherwydd eu bod eisiau gwerthu eu tai neu eu troi yn
dai gwyliau. Nodwyd hefyd bod cynnydd wedi bod mewn nifer o dor-perthynas yn
ystod y pandemig, Rhagwelir na fydd y niferoedd yn lleihau yn y dyfodol a bod
gofyniad y Llywodraeth wedi cael ei wneud yn un parhaol.
Mewn ymateb i sylwi
craff un o Aelodau ynghylch y ffigwr o bobl Gwynedd sydd wedi derbyn cymorth i
fyw mewn tŷ yn lleol hyd yma, adroddwyd mai’r ffigwr o 1163 fel sydd wedi
ei nodi ar y Fewnrwyd Aelodau sydd yn gywir. Nodwyd fod y ffigwr 1754 sydd wedi
ei nodi yn yr adroddiad yn gywir ar gyfer y Strategaeth Tai oedd yn weithredol
ers 2019 ond mai’r ffigwr o 1163 sydd yn berthnasol ar gyfer y Cynllun
Gweithredu Tai sy’n weithredol ers 2021.
Ychwanegwyd fod
Aelodau yn cael eu hannog i gyfeirio at y Fewnrwyd Aelodau fydd yn cael ei
diweddaru’n gyson gan yr Adran Dai. I gloi diolchwyd i’r Pwyllgor am eu holl
graffu dros y blynyddoedd ac am eu hadborth positif ac adeilado ac am fod yn
rhan o broses datblygu’r Cynllun Gweithredu Tai.
Mynegwyd diolch i’r
Pennaeth Tai a’r Aelod Cabinet am eu gwaith yn ogystal â swyddogion yr Adran.
PENDERFYNWYD:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod.
b) Gofyn am ddiweddariad pellach
i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar y Cynllun Gweithredu Tai flwyddyn nesaf.
Dogfennau ategol: