Agenda item

Creu mynedfa gerbydol i'r ffordd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Amodau sylfaenol yn cynnwys:

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, lefelau, deunyddiau a thirweddu

 

Cofnod:

Creu mynedfa gerbydol i'r ffordd

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer creu mynedfa gerbydol newydd i safle anheddol presennol oddi ar ffordd ddosbarth 3 sy’n rhedeg i’r de o Sarn Mellteyrn, o Danrallt i Fair. Eglurwyd y  byddai’r fynedfa wedi ei lleoli 7.8m i’r de o adeilad allanol presennol gyda giât wedi ei osod 5m yn ôl o’r ffordd gyda chlawdd pridd / carreg 1m o uchder ar y ddwy ochr igloch” y fynedfa. Y bwriad yw creu ffordd i gysylltu o fan parcio presennol yng nghefn yr eiddo.

Nodwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

Er i’r safle fod o fewn ffin ddatblygu, adroddwyd mai natur cefn gwlad, amaethyddol sydd iddo ac y byddai’r datblygiad yn y bôn, yn ymestyn ardal ddatblygedig y pentref i gefn gwlad gan newid natur y dirwedd mewn modd arwyddocaol. Cydnabyddiwyd y bwriedir codi cloddiau newydd yn lle’r clawdd a gollir fodd bynnag ni ystyriwyd y byddai hynny’n ddigonol i ddigolledu’r newid gweledol i’r dirwedd a’i hachosir gan y gwaith peirianyddol sylweddol fydd yn hanfodol i greu’r fynedfa newydd.

 

Amlygwyd bod y safle eisoes wedi bod yn destun tri chais cynllunio aflwyddiannus ar gyfer datblygiadau cyffelyb gan gynnwys un cais a'i gwrthodwyd ar apêl gyda'r Arolygydd wedi nodi;

 

"Mae Polisi PCYFF 3 yn disgwyl dyluniad o ansawdd uchel a bod datblygiad yn cyfrannu at greu lleoedd cynaliadwy, deniadol sy’n ychwanegu at ac yn gwella cymeriad a golwg y safle, yr adeilad neu’r ardal, ac yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol. Mae Polisi AMG 2: Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA) yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd ac y dylai datblygiad geisio cynnal, gwella neu adfer cymeriad a rhinweddau cydnabyddedig yr ATA. Rwyf o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn gwrthdaro â’r polisïau dywededig hyn."

 

Nodwyd, er i'r cynnig yma olygu cymryd llai o dir nag y bwriadwyd yn flaenorol, nid yw egwyddor y cynllun wedi newid yn arwyddocaol a byddai'n parhau i fod angen tynnu'r ffin bresennol gyda'r briffordd, clirio llystyfiant a mewn lenwi tir er mwyn sicrhau cyswllt cerbydol rhwng yr ardd a'r fynedfa newydd - byddai hyn  yn digwydd mewn safle cefn gwlad y tu hwnt i unrhyw ddatblygiad presennol gan olygu y byddai'r naws drefol yn ymestyn i mewn i'r Ardal Tirwedd Arbennig (ATA).  Ategwyd y dylai datblygiadau, ble’n bosibl, ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr ATA  - ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn andwyol i ansawdd yr ATA ac felly’n groes i bolisi AMG 2.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, er nad oedd ymateb wedi ei dderbyn i'r ymgynghoriad ar y cais, datganodd yr Uned Trafnidiaeth eu bodlonrwydd gyda chynllun cyffelyb a fu'n rhan o gais blaenorol. Ystyriwyd fod y cynnig yn cwrdd gydag amcanion Polisi TRA 4 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth amlygwyd nad oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth wrthwynebiad i’r datblygiad, er eu bod yn nodi y dylid cyfyngu torri llystyfiant i’r tu allan i’r cyfnod nythu adar ac yn gofyn am welliannau bywyd gwyllt megis plannu coed / gwrychoedd i fod yn rhan o unrhyw ganiatâd. O wneud hynny byddai’r datblygiad yn dderbyniol dan bolisi PS19 y CDLl.

 

Wedi asesu’r bwriad presennol yn erbyn y polisïau cynllunio perthnasol ystyriwyd  y byddai’r datblygiad yn achosi newid annerbyniol yn natur y dirwedd a fyddai’n niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal wrth ddynesu at bentref Sarn Mellteyrn ac felly argymhellwyd gwrthod y cais

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Nad oedd y cais am fynedfa ychwanegol - roedd bwriad cau'r fynedfa bresennol

·         Mynedfa bresennol yn beryglus - anodd gweld cyn tynnu allan - y fynedfa rhwng dau adeilad ar ongl a thro

·         Amhosib troi tuag at gyfeiriad Rhiw - rhaid troi tuag at Sarn a throi yn ôl

·         Byddai mynedfa newydd yn gwella’r sefyllfa ynghyd a goleuo’r gofod sydd ar hyn o bryd yn dywyll a chul

·         Bod cymdogion gyferbyn a’r fynedfa wedi cytuno bod y bwriad yn fwy diogel gyda gwell gwelededd

·         Nad oedd y lluniau a gyflwynwyd yn amlygu'r lefelau tir yn glir ac na fyddai angen gwaith sylweddol i adfer y gwaith

·         Nad oedd bwriad creu man parcio newydd

·         Ni fydd pridd yn cael ei symud o’r safle  - ei angen ar gyfer creu cloddiau a thirlenwi

·         Bwriad plannu coed

·         Er bod pedwar cais wedi ei gyflwyno, dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn - y Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais oherwydd bod y fynedfa fwriededig yn well, a’r gymuned yn gefnogol

 

Darllenwyd llythyr cefnogaeth gan gymydog oedd yn byw gyferbyn a’r fynedfa

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad

Rhesymau: cefnogi barn y Cyngor Cymuned; bod y cais yn un rhesymol, bod y fynedfa fwriededig yn fwy diogel

 

ch)  Mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod, amlygodd y Pennaeth Cyfreithiol, o ystyried bod gwrthodiad apêl wedi ei wneud ar gais blaenorol bod angen ystyried beth sydd yn wahanol y tro hwn ac nad oedd cefnogi barn y Cyngor Cymuned yn fater cynllunio - rhaid oedd ystyried rhesymau oedd yn adlewyrchu materion cynllunio.

 

Rhesymau:

-     Byddai’r gwelededd yn gwella o symud y fynedfa

-     Na fyddai’r fynedfa bwriededig yn creu effaith niweidiol ar y dirwedd

-     Bod cynnydd mewn lefelau trafnidiaeth yn dilyn datblygiad twristiaeth 2020 -2022

 

dd)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·    Nad oedd yr uned drafnidiaeth wedi mynegi pryder

·    Byddai ymweliad safle yn fuddiol

·    Bod angen ystyried diogelwch

·    Naws drefol yn ymestyn i’r ardal weledig?

·    Bod y cais wedi ei wrthod nifer o weithiau - sefyllfa'r un fath

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

Amodau sylfaenol yn cynnwys:

 

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, lefelau, deunyddiau a thirweddu

 

Dogfennau ategol: