skip to main content

Agenda item

Addasu Adeilad yn Uned Gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod:

 

1.    Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion meini prawf 2 (i) a (ii) o Bolisi TWR 2 yn ogystal a maen prawf 3(i) o Bolisi CYF 6 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mon, 2017 ac i'r cyngor a gynhwysir yn y dogfennau Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a Throsi yng Nghefn Gwlad a Nodyn Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd oherwydd cyflwr bregus ac adfeiliog y strwythur presennol. 

 

2.    Mae’r bwriad yn golygu creu uned gwyliau newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn leoliad anghynaladwy ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r bwriad felly, yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol polisïau PS 14 a PS 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid a Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy, Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 11, 2021.

 

Cofnod:

Addasu Adeilad yn Uned Gwyliau gan gynnwys gwaith cysylltiedig o ddarparu llecyn parcio  a gosod system drin garthffosiaeth preifat.

           

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd llynedd ar gyfer addasu ag ymestyn adfail i uned wyliau hunan gynhaliol yn Uwch Hafoty, Trefor. Tynnwyd  sylw at strwythur yn adfail oedd heb do a chyda mynediad di-rwystur iddo. Eglurwyd y byddai ei drosi a’i ymestyn yn golygu codi a simneau newydd, fyddai’n debygol o fod yn uwch na'r bwthyn gwreiddiol a bod bwriad cadw’r agoriadau gwreiddiol a gosod ffenestri to yn y to newydd.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ar lethrau gogleddol serth Yr Eifl i'r de orllewin o bentref Trefor gyda ffordd fynediad cyhoeddus cul a serth yn arwain i fyny o'r pentref  -  trac mynediad i’r safle ei hun hefyd yn serth ac yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.  Saif y safle o fewn yr AHNE, Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac yn agos i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 

Amlygwyd mai prif faterion y cais oedd cyflwr ac addasrwydd y strwythur ar gyfer ei ddatblygu. Nodwyd bod Adroddiad Strwythurol wedi ei dderbyn gan berson cymwys sy'n ymwneud ac arolwg o'r safle gan hefyd nodi fod twll prawf wedi ei dyllu rywdro yn y gorffennol (does dim dyddiad pendant) sydd yn cadarnhau fod sylfeini'r adeilad wedi eu gosod ar siâl. Daw'r Arolwg i'r canlyniad oherwydd trwch y waliau presennol a'r ffaith fod y sylfeini ar graig, fod strwythur y tŷ yn solet ac y byddai ail doi ag ail bwyntio waliau, ynghyd a lleihau tir i gefn yr adeilad yn ei wneud yn drigiadwy.

 

Tynnwyd sylw at hanes Cynllunio helaeth y safle. Amlygwyd bod tri chais arall ac apêl hefyd, i gyd wedi eu gwrthod i drosi’r adfail i dŷ gyda’r un egwyddorion yn berthnasol boed yn troi i dŷ neu uned wyliau. Ystyriwyd bod y strwythur wedi colli ei statws preswyl ers blynyddoedd maith gyda’r cofnod gwrthodiad cyntaf yn dyddio nôl i 1989, sef 32 mlynedd yn ôl sy’n cyfeirio at y strwythur fel adfail bryd hynny; bod gwybodaeth o fewn yr apêl a wrthodwyd yn 2009 yn nodi fod y defnydd preswyl wedi darfod yn yr 1960au tra bod y to wedi dymchwel yn 1977.

 

Cyfeiriwyd at Canllaw Cynllunio Atodol Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad, sy’ n rhoi arweiniad clir ar gyfer trosi adeilad yn dŷ na yn llety gwyliau, sydd yn datgan,

 

Bydd rhaid i unrhyw adeilad a fwriedir ei drosi yng nghefn gwlad fod yn adeilad parhaol gydag adeiladwaith cadarn. Ni chaniateir datblygiadau sydd yn cynnwys gwaith ail-adeiladu sylweddol, gan y byddai hynny gyfwerth ag adeiladu adeilad o’r newydd mae’n mynd ymlaen i ddweud Ni fydd adeilad yng nghefn gwlad sydd mewn cyflwr mor adfeiliedig bod angen ail-adeiladu rhannu sylweddol ohono neu ei ailadeiladu’n llwyr yn addas.

 

O ystyried yr hanes cynllunio a’r penderfyniad apêl, sydd wedi datgan yn gyson dros y blynyddoedd na fyddai ail ddefnyddio'r adfail yn dderbyniol, mae'n amlwg nad yw'r safle yn addas i'w ddatblygu. Codwyd pryderon am gyflwr yr adeiladwaith yn yr apêl bron i 13 mlynedd yn ôl, felly, mae'n sefyll i reswm nad yw'r cyflwr wedi gwella dros y blynyddoedd ac fwy na thebyg ei fod o wedi dirywio gan ei fod yn agored iawn i’r elfennau mewn lleoliad o’r fath. Nid yw canlyniadau'r Adroddiad Strwythurol wedi  argyhoeddi yn ddi-amheuol y gellid addasu'r strwythur presennol heb ymgymryd a gwaith strwythurol helaeth felly gellid dadlau y byddai ail sefydlu'r strwythur gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad.

 

Ystyriwyd bod y bwriad i drosi yn annerbyniol oherwydd cyflwr bregus y strwythur a’i leoliad yn anghynaladwy yng nghefn gwlad i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd ac felly yn gyson a phenderfyniad a chanlyniadau blaenorol, argymhellwyd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod yr ymgeisydd yn berson lleol ac yn adeiladwr - yn credu yn gryf mewn gwarchod cymeriad a natur cefn gwlad

·         Nad oedd bwriad ymestyn yr eiddo – cadw ar yr un ôl troed

·         Nad oedd gwrthwynebiadau  - y Cyngor Cymuned a’r AHNE yn gefnogol

·         Bod y ceisiadau a wrthodwyd yn cynnig estyniad  - cais i addasu sydd yma heb ehangu

·         Yr adroddiad strwythurol yn nodi waliau a sylfeini cadarn i gynnal to newydd

·         Adfer yn unig – dim gwaith helaeth

·         Bod yr eiddo yn wag ers blynyddoedd, ond posib ei adfer a dod yn ôl i  ddefnydd yn hytrach na’i chwalu a llygru’r dirwedd

·         Angen cefnogi pobl leol - i’w cadw yn lleol

 

c)    Cynigiwyd ac eilwiyd gwrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod:

 

1.    Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion meini prawf 2 (i) a (ii) o Bolisi TWR 2 yn ogystal â maen prawf 3(i) o Bolisi CYF 6 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ac i'r cyngor a gynhwysir yn y dogfennau Canllaw Cynllunio Atodol: Ail-adeiladu Tai a Throsi yng Nghefn Gwlad a Nodyn Cyngor Technegol 23: Datblygu Economaidd oherwydd cyflwr bregus ac adfeiliog y strwythur presennol. 

 

2.    Mae’r bwriad yn golygu creu uned gwyliau newydd yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o’r prif rwydwaith ffyrdd. Ni ystyrir fod y bwriad yn gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn leoliad anghynaladwy ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau preifat. Nid yw’r bwriad felly, yn cydymffurfio gyda gofynion perthnasol polisïau PS 14 a PS 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid a Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy, Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 11, 2021.

 

Dogfennau ategol: