Agenda item

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Amodau sylfaenol  yn cynnwys;

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, defnydd teithiol yn unig, defnydd gwyliau yn unig a cadw cofrestr, tymor gwyliau 1 Mawrth – 31 Hydref

 

Cofnod:

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 18 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys defnyddio cae amaethyddol ar gyfer gosod 18 carafán deithiol, adeilad toiledau, gwella mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol. Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleoli y carafanau teithiol yn weddol wastad

 

Nodwyd bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i bwyllgor 22/11/2021 lle gohiriwyd ystyriaeth er trafod y mater gyda’r ymgeisydd. O ganlynaid, derbyniwyd manylion pellach ar ffurf cynllun safle diwygiedig yn dangos manylion tirlunio ynghyd a ail leoli rhes carafanau ar hyd terfyn gogledd ddwyreiniol ac adroddiad diogelu coed (21/101/22).  Roedd yr ymgeisydd wedi datgan bwriad plannu planhigion ar hyd y terfyn de dwyreiniol; byddai'r adeilad toiled yn cael ei osod ger y fynedfa ac yn mesur 11 medr o hyd a 3.75 medr o led ac na fydd bwriad adeiladu trac fel ffordd mynediad mewnol na llecynnau caled ar gyfer y carafanau teithiol

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan ei fod yn ymwneud â lleoli unedau teithiol ar dir sy’n mesur mwy na 0.5 hectar. Dynodwyd y safe fel Ardal Safle Bywyd Gwyllt ac mae’r tiroedd i’r de gorllewin wedi eu dynodi yn Ardal Tirwedd Arbennig. Bwriedir cynnal gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r ffordd sirol dosbarth 3 cyfochrog.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, amlygwyd er y bwriad o blannu planhigion ychwanegol ar y cloddiau er mwyn tewychu a chryfhau'r terfynau presennol, na fyddai hynny yn creu sefyllfa barhaol ac na fyddai’n ddigonol ar gyfer bodloni amcanion polisi'r Cyngor ar reoli effaith y bwriad ar gefn gwlad. Ystyriwyd nad yw gwrych yn nodwedd barhaol nac sylweddol o ran ei wneuthuriad a gallai gael ei dorri neu niweidio yn ddamweiniol.  Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad a naws cefn gwlad y tirlun lleol ac felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF3, TWR 5 a PS19 parthed ei effaith ar yr amgylchedd naturiol lleol. Er y derbyniwyd cynllun safle diwygiedig yn dangos manylion plannu, ni ystyriwyd y byddai yn datrys pryderon parthed effaith y bwriad ar y tirlun (sydd yn farn sydd yn cael ei rannu gan y Swyddog Coed). Bydd unrhyw blannu ychwanegol yn cymryd amser helaeth i sefydlu ac ni fyddai sicrwydd bydd yn cydio na pha mor llwyddiannus bydd y plannu yn sgrinio’r safle. 

 

Nid oedd y wybodaeth ychwanegol wedi argyhoeddi’r swyddogion bod y bwriad i sefydlu maes carafanau teithiol ar gyfer 18 uned yn dderbyniol ac argymhellwyd i wrthod ar sail y byddai’r bwriad oherwydd ei leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau gweledol yr ardal wledig.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais

 

c)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Mai’r effaith weledol oedd y prif fater dan ystyriaeth

·         Bod y safle wedi ei sgrinio gan goed aeddfed

·         Bod y cais yn un am faes tymhorol – byddai’r coed a’r gwrychoedd yn llawn ar yr adegau yma

·         Bod  yr honiad o’r maes yn ‘amlwg’ yn gamarweiniol

·         Byddai modd adfer gwrych neu glawdd sydd wedi ei niweidio drwy osod amod yn nodi bod angen cwblhau gwaith cynnal a chadw

·         Os nad oes effaith ar gymdogion – pwy felly?

·         Byddai tocio a chynnal y gwrych wrth y fynedfa yn gwella gwelededd

·         Y cais yn dderbyniol

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

Amodau sylfaenol  yn cynnwys;

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, defnydd teithiol yn unig, defnydd gwyliau yn unig a cadw cofrestr, tymor gwyliau 1 Mawrth – 31 Hydref

 

 

 

Dogfennau ategol: