skip to main content

Agenda item

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Caniatáu

 

 

BYDD Y CAIS YN CAEL EI GYFLWYNO I GYFNOD O GNOI CIL

 

Cofnod:

 

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer adeiladu tŷ fforddiadwy (4 ystafell wely) ar dir ger Uwch y Dôn, Pistyll sydd wedi ei  ddynodi yn bentref Clwstwr yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Nodwyd bod y cais wedi ei drafod ym mhwyllgor 13  Rhagfyr 2021, lle gohiriwyd y cais er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth gan yr ymgeiswyr i brofi eu hangen am dŷ fforddiadwy. Yn dilyn y Pwyllgor derbyniwyd gwybodaeth ariannol, Gwerthusiad Llyfr Coch a Phrisiad ar gyfer eu tŷ presennol. Derbyniwyd hefyd Cynllun Diwygiedig yn newid gosodiad y tŷ, cwtogi maint y llain a newid triniaeth y ffiniau ynghyd ag Adroddiad Ecolegol gan fod y tir wedi ei adnabod fel Safle Bywyd Gwyllt. Ail ymgynghorwyd ar y wybodaeth newydd ac fe dderbyniwyd llawer o gefnogaeth leol.

 

Adroddwyd nad oedd amheuaeth fod yr ymgeisydd yn berson lleol wedi ei fagu ym Mhistyll, ond prif fater gyda’r cais oedd angen fforddiadwy y teulu am y tŷ gan eu bod eisoes yn berchen ar gyn dŷ Cyngor yn Nefyn sy’n destun amod lleol 157.

 

Adroddwyd bod y cais yn cwrdd â llawer o feini prawf prif bolisi TAI 6, ond bod Tai Teg wedi ail asesu’r ymgeiswyr ar y wybodaeth ariannol ddiweddaraf ac yn dod i’r casgliad nad oedd yr ymgeiswyr yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Cyflwynwyd y rhesymau canlynol - bod y teulu mewn eiddo addas ar gyfer maint y teulu, bod yr eiddo yn fforddiadwy ac nad oes unrhyw anghenion penodol ganddynt.

 

Amlygwyd bod prisiad llyfr coch ar gyfer tŷ arfaethedig wedi ei gyflwyno yn nodi y byddai’r pris marchnad agored yn debygol o fod yn £315,000. Er na dderbyniwyd ymateb gan yr Uned Strategol Tai i’r ymgynghoriad, awgrymwyd y byddai angen disgownt o tua 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy i £157,000 (fyddai’n fforddiadwy ar gyfer eiddo canolradd). Nodwyd fod y Cynllun Datblygu Lleol ond yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy lle gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadwy am byth. Mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all ddylanwadu ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r tŷ yma yn parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol.

 

Eglurwyd bod y newidiadau i faint a thriniaeth ffiniau’r llain yn ogystal â chanlyniadau ac argymhellion yr Adroddiad Ecolegol a gyflwynwyd i gyd yn dderbyniol a bod maint a dyluniad y tŷ, mwynderau preswyl a materion ffyrdd yn dderbyniol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn goresgyn problem elfennol y cais  - nid oedd yr ymgeiswyr yn cwrdd â’r gofynion i fod mewn angen fforddiadwy.

 

Derbyniwyd y  byddai gwerthu eu tŷ presennol sy’n destun amod 157 yn rhyddhau tŷ i drigolion lleol, fodd bynnag nid oedd hyn yn cyfiawnhau caniatáu adeiladu mewn lleoliad eithriad cefn gwlad. Derbyniwyd hefyd bod y sefyllfa yn rwystredig iawn i’r ymgeiswyr a’u dymuniad i symud, ond ni ellid gwyro oddi wrth y polisïau .

 

Ar sail asesiad ac ymateb diweddaraf Tai Teg, argymhellwyd gwrthod y cais gan nad oedd yr ymgeiswyr wedi profi gwir angen am dy fforddiadwy.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn un unigryw

·         Bod y teulu ar hyn o bryd yn byw yn Nefyn o dan amgylchiadau anodd iawn, yn derbyn ymosodiadau gwrthgymdeithasol

·         Rhieni'r ymgeisydd yn cynnig darn o dir i adeiladu cartref a gwella ansawdd bywyd - un o brif amcanion Strategaeth Tai Gwynedd

·         Yr ymgeisydd yn cynorthwyo ei dad ar y fferm

·         Tŷ Cyngor gwag amod 157 - hyn yn cyfyngu pwy all fyw yno

·         Cadarnhad wedi ei dderbyn gan yr Adran Tai i brynu tŷ yn ôl i feddiant - tŷ ychwanegol i deulu arall lleol

·         Nifer wedi ymdrafferthu i ysgrifennu i gefnogi’r cais

·         Yr ymgeisydd wedi ymateb i ofynion y Swyddogion – wedi cyflwyno adroddiadau a gwybodaeth ychwanegol

·         Yr ymgeisydd wedi dangos yn glir ei angen am gartref

 

c)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Byddai tŷ yn cael ei ryddhau i bobl leol

 

Mewn ymateb i’r cynnig i ganiatáu, nododd y Pennaeth Cynorthwyol, byddai hyn yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ar gyfer ymgeiswyr sydd yn gymwys ar gyfer tŷ fforddiadwy. Nodwyd nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ac felly ni fydd yn gallu trigo yn y tŷ.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu yn groes i argymhelliad y swyddogion

 

Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais.

 

 

Dogfennau ategol: