Agenda item

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

Amodau sylfaenol yn cynnwys;

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, deunyddiau, cyfyngiad PD

 

Cofnod:

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn cyfeirio penderfyniad y Pwyllgor 10-01-22 i gyfnod o gnoi cil.  Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r ymgeisydd baratoi gwerthusiad marchnad agored o’r eiddo arfaethedig er mwyn asesu os byddai modd pennu disgownt i’w wneud yr eiddo yn fforddiadwy. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd i amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Yn dilyn cyfeirio’r cais, ysgrifennwyd at asiant yr ymgeisydd ar 12/01/22 yn gofyn am brisiad marchnad llawn o'r eiddo er galluogi'r Cyngor asesu os byddai'n bosib sicrhau i'r eiddo aros yn fforddiadwy yn barhaol drwy sicrhau disgownt priodol ar y pris farchnad.

Derbyniwyd ymateb gan yr asiant dyddiedig 11/02/22 yn cynnwys Gwerthusiad Marchnad Agored wedi ei baratoi gan brisiwr cofrestredig i safonnau'r RICS (Royal Institute of Chartered Surveyors) gan ddilyn yr arddull rhyngwladol cydnabyddedig "Red Book". Daethpwyd i'r casgliad mai pris marchnad teg ar gyfer yr eiddo wedi ei gwblhau yn unol â'r cynlluniau a gyflwynwyd byddai £275,000.

 

Wedi ystyried y diffiniad o dŷ fforddiadwy canolradd yn y CDLl fel tŷ lle mae’r prisiau neu renti’n uwch na rhenti tai cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu renti ar y farchnad agored, a bod yr ymgeisydd yn yr achos hwn wedi ei asesu gan Tai Teg i fod yn gymwys am eiddo fforddiadwy, ni ystyriwyd y byddai pris, gyda disgownt o 50%, yn afresymol o safbwynt sicrhau y byddai’r eiddo ar gael i berson lleol ar incwm na fyddai’n caniatáu mynediad i’r farchnad dai agored. Ystyriwyd y byddai cynnwys disgownt o 50% mewn Cytundeb 106 a fyddai’n cyd-fynd a chaniatâd yn cadw’r eiddo’n fforddiadwy ac o fewn pris rhesymol i rai o’r gymuned sydd wedi eu hadnabod i fod yn gymwys am eiddo o'r fath um dderbyniol.

 

Er cyfiawnhad dros yr elfen fforddiadwy, ystyriwyd nad oedd yr adeilad presennol yn strwythur addas i'w drosi'n uned breswyl yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored ar adeilad mewn cyflwr adfeiliedig sydd wedi ymdoddi i'r dirwedd. Eglurwyd bod polisi lleol a chenedlaethol yn gwbl eglur mai dim ond tai ar gyfer gwasanaethu mentrau gwledig neu ddatblygiad un-blaned y dylid eu hystyried yng nghefn gwlad agored ac nad oedd cyfiawnhad o'r fath wedi ei gynnig yn yr achos hwn.

 

Ategwyd bod cynnydd yn yr arwynebedd llawer yr adeilad o thua 50% yn deillio o’r cynllun dan sylw a hyn yn groes i ofynion polisi TAI7 o’r Cynllun Datblygu Lleol sydd yn nodi na ddylid fod angen estyniadau helaeth i alluogi’r datblygiad a dylai’r adeilad yn ei ffurf bresennol (o ran maint) fod yn addas. Mae'n amlwg, o'r angen am estyniadau helaeth, nad yw’r cais yn cwrdd gyda'r meini prawf gorfodol ar gyfer derbyn cynlluniau i drosi adeiladau traddodiadol yng nghefn gwlad agored i ddefnydd preswyl.

 

Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a chenedlaethol a pholisïau cynllunio cenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Mai unfryfol oedd y penderfyniad i gefnogi’r cais ym Mhwyllgor 10-01-22

·         Bod pris marchnad agored wedi ei gyflwyno

·         Yr ymgeisydd yn gymwys am dŷ fforddiadwy

·         Hwn yn gyfle euraidd i berson ifanc lleol gael tŷ

·         Anobeithiol yw prynu tŷ yn lleol yn ward Botwnnog – angen disgownt o 50% i gyfarch yr elfen fforddiadwy – hyn yn amlygu sefyllfa tai Penllŷn

·         Pam fyddai  ‘tŷ gwyliau’ yn fwy derbyniol na ‘tŷ cartref’?

·         Bod adroddiad strwythurol yn nodi bod y tŷ yn addas i’w drosi

·         Rhaid cefnogi pobl lleol

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais

 

Wrth ystyried caniatáu y cais, nododd y Penaneth Cyfreithiol bod rhaid pwyso a mesur y rhesymau dros ganiatáu yn ofalus fel modd o atal gosod cynsail.

 

Cynigiwyd opsiwn b - Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106 - Yr unig ffordd o allu gwneud y tŷ yn fforddiadwy yw os rhoddir disgownt uchel megis 50% arno. 

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Rhaid cadw ein cymunedau Cymreig yn fyw

·         Gormod o siarad am gefnogi pobl lleol – rhaid gweithredu

·         Hwn yn gyfle i roi bywyd newydd i adfail

·         Bod yr adroddiad strwythurol yn nodi bod yr adfail yn gadarn i’w atgyweirio

·         Bod ymdrech wedi ei wneud i ymateb i ofynion y Pwyllgor

·         Hwn wedi bod yn gartref Cymreig – cyfle iddo fod yn gartref Cymreig eto

·         Os am neiwd - rhaid herio polisiau cenedlaethol

·         Bod y cais yn ymateb i’r angen am dai fforddiadwy yn yr ardal

 

Mewn ymateb i gynnig o ganiatáu y cais a phatrwm o benderfyniadau croes i ganllawiau lleol a chenedlaethol, amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol y posibilrwydd y gall y penderfynaid orwedd gyda Llywodraeth Cymru – y cais yn groes i bolisïau ac o osod cynsail beryglus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r adroddiad strwythurol cadarnhaol a’r swyddogion yn nodi yn wahanol, nodwyd bod yr adroddiad yn cadarnhau bod posib atgyweirio’r adeilad ond polisiau yn herio’r angen am waith tu hwnt i godi waliau a thô – estyniadau helaeth o fewn y cais yma ac felly yn groes i bolisïau.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gyda chytundeb 106

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:

                       

O blaid y cynnig i ganiatáu y cais (13) Y Cynghorwyr: Stephen Churchman, Elwyn Edwards, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Gareth T Jones, Huw Wyn Jones, Eric M Jones, Cai Larsen, Edgar Owen, Gareth A Roberts, Eirwyn Williams ac Owain Williams

 

Yn erbyn y cynnig i ganiatáu y cais (0): 

 

Atal, (0)

 

Amodau sylfaenol yn cynnwys:

 

5 mlynedd, yn unol a’r cynlluniau, deunyddiau, tirweddu, deunyddiau, cyfyngiad PD

 

 

Dogfennau ategol: