Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

a)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

 

b)   Sefydlu Panel  yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr er  mwyn  tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl yr angen

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

a)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu

 

b)    Sefydlu Panel  yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr er  mwyn  tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl yr angen

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau ar gyfer penodi Uwch Grwner parhaol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

 

Yn dilyn ymddeoliad Mr Dewi Pritchard Jones (cyn Uwch Grwner) ym mis Tachwedd 2020, rhoddwyd trefniadau interim ar waith wrth ystyried priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill y rhanbarth. Yn dilyn trafodaethau rhwng Adran Llysoedd a Thribiwnlysoedd  Llywodraeth y DU a  Chynghorau Gwynedd a Dinbych (sef yr awdurdod perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog), penderfynodd  y Prif Grwner na fyddai bellach yn chwilio am uno'r ardaloedd Crwner yma ac y dylid penodi Uwch Grwner parhaol ar gyfer Ardal Gogledd Orllewin Cymru (Gwynedd a Môn)

 

Tynnwyd sylw at y drefn ffurfiol o benodi Uwch Grwner gan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, a gan Ganllawiau’r Prif Grwner sydd yn nodi y dylai pob penodiad gael ei gymeradwyo gan y Prif Grwner a’r Arglwydd Ganghellor gyda’r angen hefyd i’r Prif Grwner gymeradwyo’r broses benodi.

 

Adroddwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Orllewin Cymru, sydd yn golygu bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gwrdd â’r costau sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth. Amlygwyd bod angen i’r  awdurdod perthnasol (Gwynedd) ffurfio Panel fydd yn derbyn cyngor gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau a chynrychiolydd y Prif Grwner, i dynnu rhestr fer, i gynnal y cyfweliadau ac i benderfynu ar y penodiad. Mater i’r awdurdod yw cyfansoddiad y panel, ond gall y Prif Grwner neu gynrychiolydd fynychu’r cyfweliadau. Nodwyd, gydag Ardal y Crwner yn cynnwys mwy nag un awdurdod bydd rhaid i’r awdurdod perthnasol ymgynghori gyda’r awdurdod arall cyn penodi Uwch Grwner. Yn yr achos yma, bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael eu cynnwys yn y broses fel sy’n briodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·      Croesawu cadw Gwynedd a Môn fel un ardal

·      Bod angen i’r drefn ddechrau cyn gynted â phosib

·      Yr Iaith Gymraeg yw prif iaith Cyngor Gwynedd a Môn – hyn yn allweddol bwysig yng nghyd-destun cyfathrebu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnwys Conwy yn yr Ardal, nodwyd bod Cymru a Lloegr wedi eu rhannu yn ardaloedd crwnerol ac mai dwy ardal yn unig sydd ar gyfer Gogledd Cymru - nid oes bwriad newid hyn. Mewn ymateb i’r sylw am ddefnydd o’r Iaith Cymraeg, nodwyd bod hyn yn ofyn hanfodol yn yr hysbyseb swydd.

Awdur:Iwan G Evans

Dogfennau ategol: