Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyn y
strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygiadau
ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â chefnogaeth i’w weithredu
yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol ehangach.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNWYD
Derbyn y strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer
datblygiadau ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â
chefnogaeth i’w weithredu yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol
ehangach.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi bod y strategaeth yn ymateb i adroddiad gan Comisiynydd Plant Cymru
(Mehefin 2020) yn galw i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio
gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth. Mynegwyd fod
prosesau a sustemau presennol yn llawer rhy gymhleth gyda thystiolaeth bod plant
a phobl ifanc yn syrthio rhwng stolion gwahanol, yn aros ar restrau aros am
gyfnodau hirfaith ac yna yn cael gwybod eu bod ar y rhestr anghywir neu’n
cnocio’r drws anghywir. Ystyriwyd bod y strategaeth ranbarthol yma yn cynnig
datrysiad i wella gwasanaethau i’r plant a’r bobl ifanc rheiny drwy sicrhau fod
gwasanaethau yn creu timau o amgylch y teulu i gyfarfod a’u hanghenion yn
hytrach na disgwyl i deuluoedd ffitio i’r hyn sydd ar gael.
Datblygwyd y strategaeth yn ystod Haf 2021 yn dilyn adolygiad o’r sefyllfa gyfredol
yng Ngogledd Cymru, gan gwmni allanol
a gomisiynwyd gan Benaethiaid Plant y chwe awdurdod ac arweinwyr iechyd. Cwblhawyd y gwaith drwy ddefnyddio methodoleg Ymchwiliad Gwerthfawrogol a oedd yn cynnwys gweithio
gyda rheolwyr gweithredol ar draws y rhanbarth; ymchwilio i arfer da yng
Nghymru a thu hwnt; cynnal cyfres
o weithdai aml asiantaethol ar draws y rhanbarth, cynnal sesiynau cyfranogi gyda phlant a phobl
ifanc oedd wedi cael cyswllt
gydag un neu fwy o asiantaethau, ac yna datblygu’r strategaeth drwy ddull byw
gan ddefnyddio adborth gan uwch
reolwyr ar y cynnwys. Ategwyd nad oedd modd
cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion yn y gweithdai
oherwydd y pwysau gwaith ar adrannau
addysg dros y cyfnod, ond gan
eu bod yn bartner creiddiol i lwyddiant y gwaith
bod trafodaethau lleol wedi sicrhau eu
bod yn rhan allweddol o’r datblygiad
ar gyfer y dyfodol yn lleol.
Mynegwyd bod y strategaeth yn cynnig adolygiad a newid radical yn y trefniadau cyfredol ac yn cynnig model uchelgeisiol o gydweithio gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc hyd at 25 oed - byddai’n adeiladu ar gryfderau’r
sustem gyfredol ac yn cael ei
llunio i ymateb i ofynion
lleol. Gyda chydnabyddiaeth fod iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc angen
cefnogaeth o fewn fframwaith
cymhleth o wasanaethau ac ymyraethau niferus, nodwyd bod gan y strategaeth oblygiadau ar gyfer pob
asiantaeth a phartner sydd yn cyfrannu
tuag at ganlyniadau iechyd
a llesiant plant a phobl ifanc er mwyn
eu cefnogi i gael y gorau
allan o fywyd. Nodwyd y byddai rhaid i bob asiantaeth
ddadansoddi eu sustemau, eu strategaethau
a’u polisïau i gyd-fynd a’r
strategaeth.
Nodwyd bod y strategaeth yn cyd-fynd gydag egwyddorion Ffordd Gwynedd ac yn gorwedd o fewn
trefniadau’r Adran Plant a Theuluoedd yng Ngwynedd ar gyfer
datblygu'r ffordd y mae’r gwasanaeth yn cryfhau’r trefniadau
drws ffrynt, y mynediad at wasanaethau ac ymyraethau cynnar ac arbedol i osgoi
problemau waethygu. Mynegwyd bod y gwasanaeth yn hyderus
bod yr adeiladwaith a’r sylfaen briodol
i ddatblygu’r gwasanaeth i gyfarfod
a’r disgwyliadau mewn lle ac eisoes
yn gweithredu un drws ffrynt sydd
yn cyfuno gwasanaethau statudol, ymyrraeth gynnar a chefnogi teuluoedd drwy ddefnyddio model tîm o amgylch y teulu. Ategwyd bod ‘Hwb Teulu Gwynedd’ wedi ei sefydlu
ers sawl blwyddyn bellach gyda threfniadau atebolrwydd a llywodraethu clir. O ganlyniad, ystyriwyd bod y Gwasanaeth yn cychwyn o safle manteisiol.
Eglurwyd na fyddai datblygu’r cynllun yn gost
niwtral ac anodd fyddai rhagweld ar hyn o bryd
beth fydd y costau o gyfarch y disgwyliadau i wireddu’r cynllun. Awgrymwyd y gellid edrych ar ddefnyddio
cyfran o’r arian trawsffurfio a’r RIF (ICF yn flaenorol) i osod
cyfeiriad a datblygu ymhellach.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
·
Er bod yr adroddiad yn swmpus, bod y cysyniad yn un
dealladwy
·
Croesawu cydnabyddiaeth o weithio mewn partneriaeth
·
Croesawu trafodaethau gyda Swyddogion Addysg
·
Bod buddsoddiad i wasanaethau ymyraethau cynnar yn
allweddol
·
Bod creu un mynediad at wasanaeth i’w groesawu - hyn yn osgoi rhwystredigaeth i’r defnyddwyr
ac yn allweddol i lwyddiant y strategaeth
·
Bod y strategaeth yn cynnwys egwyddorion Ffordd Gwynedd
Awdur:Marian Parry Hughes
Dogfennau ategol: