Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg o waith y Panel Strategol Diogelu dros y cyfnod Ionawr 2021 - Mawrth 2022, gan roi darlun clir a theg o’r gwaith a gyflawnwyd ynghyd a chyfeiriadau at adroddiadau neu sylwadau gan archwilwyr allanol ar y gwaith. Nodwyd bod gofyn i’r Cyfarwyddwr Statudol adrodd yn gyson a rheolaidd i Aelodau ar waith y Panel ar ddiogelu, a'u bod yn gallu bodloni eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn drylwyr a chydwybodol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai nod y Panel Strategol Diogelu yw sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau addas yn eu lle ar lefel gorfforaethol ar draws y Cyngor er mwyn sicrhau diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion. Ers 2017/18 mae’r Panel hefyd yn gyfrifol am drosolwg o faterion diogelu ehangach ar draws Gwynedd.

 

Tynnwyd sylw at rai o’r rhwystrau gan adrodd bod sicrwydd ymatebion a thystiolaeth fod pob adran yn ymateb ac yn dilyn i fyny ar unrhyw bryderon yn amserol.

 

·         bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff cymwysedig. O ganlyniad, comisiynwyd unigolyn i wneud darn o waith yn y maes, a gobeithir cyflawni’r gwaith hwn erbyn Ebrill 2022.

·         bu pryder am y gwasanaeth DoLS (trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) yn ystod y flwyddyn gan fod 550 ar y rhestr aros ar un pwynt. Fodd bynnag, cafwyd bid llwyddiannus am £100,000 gan y Llywodraeth i gyfarch y rhestr aros (sydd bellach oddeutu 336)

·         dewis rhai rhieni i barhau i addysgu eu plant gartref pan fu i’r ysgolion ail agor. Er bod y niferoedd yn gymharol isel, gwelwyd cynnydd ymysg teuluoedd bregus - mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu’r angen i gofrestru plentyn os ydynt am dderbyn addysg o gartref

·         bod angen gweithredu’n adweithiol a mynd i’r afael â’r diwylliant misogynistaidd ymysg bechgyn er mwyn mynd i wraidd problemau maes aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn sgil dyfodiad gwefan Everyone’s Invited

·         bod data gan yr Heddlu yn dangos cynnydd yn y niferoedd o droseddau domestig yng Ngwynedd yn ystod y ddau chwarter diwethaf – y  mater yn cael blaenoriaeth yng nghyfarfodydd nesaf y Bartneriaeth, er mwyn sicrhau bod digon yn cael ei wneud i gael negeseuon allan i’r cyhoedd

 

Diolchwyd i’r Cyng. Dilwyn Morgan am gadeirio’r panel ac i ymrwymiad swyddogion ac Aelodau i’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud yn y maes diogelu a hynny yn ystod cyfnod heriol - yn bennaf yn sgil Covid-19 a’r heriau sy’n ymwneud â’r feirws. Er gwaethaf hynny, nodwyd bod y Panel Strategol Diogelu wedi parhau i gynnal cyfarfodydd ar-lein a symud yr agenda yn ei flaen. Ategwyd bod bwriad hefyd i adlewyrchu ar drefniadau gweithio'r Panel Strategol a’r Grŵp Gweithredol er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol - bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gynnar yn 2022, gan gyflwyno unrhyw newidiadau i weithrediad y grŵp a’r panel erbyn cyfarfodydd Haf 2022 ymlaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Awyddus i edrych i mewn i’r nifer o rieni sydd yn parhau i addysgu eu plant yn y cartref – hyn yn peri pryder o ystyried, yn nodweddiadol, bod plant sydd yn datgysylltu o wasanaethau, yn fregus

·         Croesawu’r weledigaeth o ddiogelu merched mewn ysgolion a cheisio newid diwylliant misogynistaidd ymysg bechgyn.

 

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: