Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas and Cyng. Gareth Thomas

Penderfyniad:

a)    Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach Cyf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023.

 

b)   Bod adolygiad llawn o gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen 6 mis

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng.  Ioan Thomas    

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach Cyf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023.

 

b)    Bod adolygiad llawn o gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen 6 mis

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai mater technegol cyfrifeg oedd sail yr adroddiad. Eglurwyd, yn unol â gofynion safonau archwilio rhyngwladol mae’n rhaid i archwiliwr allanol fynegi barn annibynnol am allu cwmnïau i  barhau i fasnachu am o leiaf 12 mis. Yng nghyd-destun Byw’n Iach, sydd yn gwmni cyfyngedig, mae’n ofynnol i’r archwilwyr allanol roi sicrwydd busnes hyfyw wrth roi barn ar gyfrifon y cwmni.

 

Adroddwyd, wrth ystyried yr opsiynau, bod cynnal cwmni hyd braich dan reolaeth y Cyngor i redeg cyfleusterau hamdden y Sir yn parhau i fod yr un mwyaf synhwyrol ar hyn o bryd o safbwynt ariannol, a hynny yn bennaf oherwydd manteision ardrethi annomestig. Er hynny, amlygwyd nad oedd dim byd yn y cytundeb gweinyddu rhwng y Cyngor a chwmni Byw’n Iach yn nodi y byddai’r Cyngor yn rhoi indemniad awtomatig i'r cwmni rhag colledion ariannol - ni fyddai hyn yn ddisgwyliedig gan fod disgwyl i'r cwmni gynnal ei hun mewn cyfnod arferol.

 

Nodwyd mai dyma’r trydydd adroddiad o’i math i’w gyflwyno i’r Cabinet ers cychwyn y pandemig ac amlygwyd bod Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru a Chynllun Seibiant Swyddi Llywodraeth San Steffan wedi cefnogi Byw’n Iach yn ariannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar gyfer 2022/23, bydd angen i Cyngor Gwynedd ysgwyddo’r baich ariannol ein hunain oherwydd bod cynlluniau’r Llywodraeth wedi/yn dod i ben.

 

Mynegwyd bod y Cyngor, wrth gymeradwyo Cyllideb 2022/23, wedi cymeradwyo ychwanegu £1.4m i gronfa i ymdopi â sgil effeithiau’r pandemig (er nodwyd ar y pryd nad oedd disgwyl i hynny fod yn ddigonol ohono’i hun). Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid hefyd wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn ynghyd a  gwneud defnydd o’r Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen. Er na ellid rhoi  ffigwr am y gofyn am gymorth, disgwylid iddo fod yn sylweddol is na chyfraniad 2021/22.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn argyhoeddedig, ar hyn o bryd, mai’r argyfwng Covid-19 oedd y rheswm o fod angen cefnogi Byw’n Iach ac wrth i swyddogion Cyllid gydweithio â swyddogion y cwmni ar ragolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, amlygodd bod nifer defnyddwyr gwasanaethau Byw’n Iach yn parhau’n is nag yr oeddynt yn union cyn y pandemig.  Ategwyd, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, y bydd hyder y cyhoedd, ac felly nifer y defnyddwyr, yn cynyddu’n raddol yn ystod y flwyddyn.  Pwysleisiwyd nad oedd disgwyl y byddai cyflwyno adroddiad fel hyn yn dod yn drefniant blynyddol - byddai hynny  yn codi cwestiynau am hyfywdra hirdymor y cwmni - mewn cyfnod arferol y disgwyliad y byddai archwiliwr y cwmni yn gallu rhoi sicrwydd busnes hyfyw i Byw’n Iach ar sail cadernid eu cynllun busnes heb yr angen am rwyd diogelwch gan y Cyngor.

 

Petai’r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo, byddai’r Pennaeth Cyllid yn  ymgynghori gyda Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Economi a Chymuned i lunio llythyr cyn ei anfon i Gadeirydd y Cwmni.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Effaith covid yn amlwg

·         Bod angen adfer hyder defnyddwyr Canolfannau Hamdden

·         Bod Byw’n Iach wedi gorfod goroesi effeithiau covid sylweddol wedi un flynedd o’i sefydlu

·         Bod y Canolfannau Hamdden bellach ar agor a’r defnydd yn cynyddu

·         Derbyn bod angen peidio cymharu yn ôl i ddyddiau cyn pandemig – rhaid derbyn bod newid sylweddol i ymddygiad cymdeithasol

·         Awgrym i addasu cynllun busnes blwyddyn 1 i gyd-fynd a’r newid – ystyried gweithgareddau awyr agored ac ymarferion campfa ar-lein

·         Awyddus rhoi sicrwydd ariannol i Byw’n Iach

 

 

Awdur:Dewi Morgan

Dogfennau ategol: