Agenda item

Dewi A Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, frifydd Grŵp yr Awdurdod Llety i gynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2022/23 ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais). 

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth gefn a glustnodir.

2.    Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.    Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt.

4.     Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth gefn a glustnodir.

2.    Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.    Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt.

4.    Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb

flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau am y gwaith a’r cyflwyniad clir.

·         Eglurwyd fod y gyllideb gwariant Hyfforddiant yn cyfeirio at hyfforddiant penodol y bydd staff y Bwrdd Uchelgais ei angen yn ystod y flwyddyn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am y gwariant yswiriant o £2,980, eglurwyd ei fod yn cyfeirio at gostau yswiriant atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus sy’n cael ei drefnu fel rhan o waith yr awdurdod lletya ac fel rhan o bolisi yswiriant Cyngor Gwynedd.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â pham na chafodd cyllid y Bwrdd Cyflawni Busnes ei wario yn y flwyddyn ddiwethaf, nodwyd nad oedd y Bwrdd hwn yn siŵr ble i wario’r arian yn flaenorol. Hyderwyd y bydd yr arian sy’n cael ei gario drosodd pe caniateir y penderfyniad yn cael ei wario’n ddoeth a’n gynhyrchiol yn y flwyddyn i ddod ynghyd a’r arian o’r gyllideb 2022/23. Ychwanegwyd fod amseru wedi bod yn broblem; dylid defnyddio’r gyllideb hon tuag at dargedu a denu buddsoddiadau i’r rhanbarth; adroddwyd ei bod yn anodd cyflawni hyn nes oedd y brand newydd yn ei le. Bellach mae gan y Bwrdd Uchelgais lawer mwy o eglurder a nod cadarn ynglŷn â ble i fynd a beth i’w gyflawni o ran denu buddsoddiadau. Diolchwyd i’r Bwrdd Cefnogi Busnes am eu cefnogaeth.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyfraddau llog o 2.2% yn parhau heb eu newid ers Hydref 2020, cytunwyd ar hyn yn dilyn derbyn barn cwmni ymgynghorol trysorlys annibynnol. Bydd cronfa ar wahân yn cael ei greu ar gyfer y llog sy'n cael ei glustnodi fel ei fod yn cael ei ddangos ar wahân.

·         Mewn ymateb i sylw y bydd pwysau chwyddiant cynyddol ar yr holl brosiectau, eglurwyd y bydd pob prosiect wrth fynd drwy’r broses ddatblygu yn cael gwiriad trylwyr ynghylch fforddiadwyedd; bydd mwy o ffocws yn cael ei roi ar yr elfen hon ynghyd ag adolygu rheolaidd. Ychwanegwyd fod materion chwyddiant a chyfraddau llog wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod trafodaethau rheoli risg parhaus yn cael eu cynnal efo’r timau rhanbarthol yn y DU ac efo Llywodraeth Cymru ynghylch hyn.

·         Holwyd ynghylch y cyfarfodydd risg ac os oedd modd gwahodd Awdurdodau Lleol i’r cyfarfodydd hyn gan fod materion tebyg yn berthnasol i Awdurdodau. Adroddwyd mai’r bwriad gwreiddiol oedd i’r cyfarfodydd drafod eitemau Cynlluniau Twf penodol gyda’r ddau dîm rhanbarthol, bydd y Rheolwr Gweithrediadau yn holi i weld os oes lle i ehangu’r drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: