Derbyn diweddariad ar sut mae Adran YGC yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u
cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan nodi fod
yr Adran yn delio o fewn y byd peirianyddol sydd yn cael ei ystyried yn
ddiwydiant eithaf Seisnigaidd. Arweinia hyn at broblemau recriwtio staff â
sgiliau ieithyddol o safon uchel. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio ar nifer o
brosiectau a chynlluniau i helpu staff i gyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi ac
i wella sgiliau ieithyddol eu gweithlu; ceir manylion am y prosiectau hyn yn yr
adroddiad. Cyfeiriwyd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:
-
Diolchwyd i’r Swyddogion Dysgu a Datblygu’r
Iaith Gymraeg am eu gwaith yn cefnogi staff yr Adran i asesu gallu ieithyddol
eu hunain ac i ddarparu hyfforddiant pellach pe bai angen.
-
Soniwyd am unigolion o fewn yr Adran sydd wedi
gwneud cynnydd ac yn cael eu hannog i siarad Cymraeg o ganlyniad i gynlluniau
fel y Cynllun Cyfeillion neu’r Cynllun Arfer drwy’r Brifysgol.
-
Nodwyd bod yr Adran yn annog timau i gynnal
sgyrsiau drwy’r Gymraeg. Cydnabyddwyd bod y cyfnod clo wedi amharu rhywfaint ar
y cynnydd hyn a bwriedir ail afael yn y gefnogaeth i’r timau i ddefnyddio’r
Gymraeg fel iaith dydd i ddydd y gweithlu.
-
Pwysleisiwyd y bydd yr Adran yn ceisio ymestyn
eu defnydd o’r iaith Gymraeg yn fewnol a gyda chyrff eraill fel contractwyr ac
ymgynghorwyr ymhellach drwy ohebu’n Gymraeg; credwyd fod hyn yn dangos effaith
ac yn cael dylanwad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol:
-
Diolchwyd am y cyflwyniad ac am holl waith yr Adran.
Nodwyd bod llwyddiant y Cynllun Adfer drwy’r Brifysgol yn ddiddorol iawn a
holwyd os yw Cynghorau a Sefydliadau eraill yn ymwybodol ohono ac os oedd modd
ei farchnata.
-
Gofynnwyd os yw’r cyrsiau i staff dderbyn
cymwysterau proffesiynol peirianwyr yn cael eu cynnig yn Gymraeg, ac os ddim,
os oes lle i ofyn am gymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud yn siŵr
fod y cyrsiau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Cwestiynwyd beth mae’r
sefydliadau Addysg yn ei wneud i helpu’r Adran sydd yn ceisio darparu gweithlu
Gymraeg gyda’r cymwysterau perthnasol.
-
Mynegwyd sylw am eirfa dechnegol sy’n perthyn
i’r maes ac awgrymwyd ei bod yn bosib parhau i gynnal sgyrsiau yn y gwaith yn
Gymraeg er fod y termau yn Saesneg. Credwyd ei bod yn bwysig trafod y gwaith yn
Gymraeg tra’n parhau i ddefnyddio’r eirfa dechnegol Saesneg i godi hyder staff.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Ymgynghoiaeth
Gwynedd:
-
Mynegwyd
nad oedd gwaith yn cael ei wneud gan yr Adran i hyrwyddo’r Cynllun Adfer ond yn
hytrach adrodd yn ôl rhwng y Cyngor a’r Brifysgol. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd
Iaith fod y gwasanaeth Iaith yn ran o'r Bwrdd Rheoli ar gyfer y prosiect hwn.
Nodwyd ei fod yn brosiect ymchwil gan y Brifysgol gyda’r Brifysgol yn arwain
arno gyda nifer o gyrff cyhoeddus eraill wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil.
Credwyd bod y cyfrifoldeb yn disgyn ar y Brifysgol i rannu yr ymarfer da a
hyrwyddo llwyddiant y Cynllun. Adroddwyd bod trywydd y gwaith wedi cymryd
cyfeiriad gwahanol o ganlyniad i’r pandemig ac nad oedd diweddariad diweddar
wedi ei dderbyn. Ategwyd y gall y gwasanaeth Iaith ofyn am ddiweddariad gan y
Brifysgol a holi beth yw’r cynlluniau i ehangu’r cynllun ar gyfer y dyfodol.
Ychwanegwyd fod yr adborth gafodd ei dderbyn gan y Brifysgol wedi bod yn
bositif iawn.
-
Adroddwyd bod cynnydd i’w weld ble mae rhagor o
gyrsiau yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd hefyd bod staff yr
Adran yn fwy parod i ofyn am gyrsiau drwy’r Gymraeg. Y tueddiad yw bod cyrsiau
gradd fel arfer yn Saesneg a cyrsiau BTEC weithiau yn cael eu cynnig yn Gymraeg.
Credwyd bod cyfle i roi perswâd cryfach ar y byd Addysgiadol a perswâd
politicaidd ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
Cytunwyd â’r sylw ynglŷn a'r eirfa
dechnegol sy’n perthyn i’r byd peirianyddol. Nodwyd bod enghreifftiau o
lwyddiannau i’w gweld, adroddwyd bod ‘chylchfan’ yn cael ei ddefnyddio heddiw
ond deg mlynedd yn ôl ‘roundabout’ oedd yn cael ei ddefnyddio rhan amlaf.
Credwyd fod pethau bychain fel hyn yn gwneud gwahaniaeth ac yn ehangu geirfa y
staff.
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: