Derbyn diweddariad ar sut mae’r Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau
Cyfreithiol yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r
Gymraeg yng Ngwynedd
Penderfyniad:
·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
·
Cytunwyd i’r Prif
Weithredwr anfon llythyr at y Llywodraeth ar ran y Pwyllgor Iaith yn mynegi siom
nad oes modd i swyddogion Cyngor Gwynedd ac eraill gyfrannu yn rhwydd drwy’r
Gymraeg mewn cyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru bob amser a'u hannog i
sicrhau bod darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ddiofyn mewn
cyfarfodydd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Adroddodd
y Prif Weithredwr ar y datblygiad diweddar yn sgil newid defnydd o feddalwedd
Microsoft y Cyngor fel ei fod ar gael yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd bod 60% o staff yn ei ddefnyddio yn wirfoddol; bydd hyn yn newid i fod
yn fandadol o ddyddiad cychwyn y Cyngor newydd.
-
Nodwyd bod y Cyngor yn arwain mewn amryw o
bartneriaethau rhanbarthol megis GwE, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru,
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gyda
chyfrifoldeb dros sefydlu, trefnu a chynllunio’r cyfarfodydd. Ychwanegwyd fod y
Cyngor yn gwirfoddoli i arwain ar yr uchod am ei fod yn gyfle i ddylanwadu ar
ddefnydd iaith y cyrff drwy sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu drwy gyfrwng y
Gymraeg o’r cychwyn cyntaf a’n gweithredu polisi iaith y Cyngor.
-
Soniwyd am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a
Môn sydd yn cael ei fynychu gan y Prif Weithredwr ac yn gyfle i ddylanwadu ar
ddefnydd sefydliadau cyhoeddus eraill o’r Gymraeg.
-
Mynegwyd siom yn rhai sefydliadau ble roedd rhaid
brwydro i gael cyfrannu yn y Gymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Nodwyd fod
Llywodraeth Cymru yn un sefydliad ble roedd ychydig iawn o ymdrech yn cael ei
wneud i ddarparu cyfieithydd. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ohebu yn gyhoeddus
efo’r Llywodraeth i fynegi siom.
-
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y prif
feysydd yr arweiniai arnynt a nododd enghreifftiau o geisio dylanwadu ar
ddefnydd yr iaith yn y meysydd hynny. Enghreifftiau o hyn oedd wastad holi am
gopïau Cymraeg o adroddiadau ym mhob cyfarfod a gwneud yn siŵr fod
darpariaeth cyfieithu ar gael yn enwedig mewn cyfarfodydd ar lein.
-
Credwyd fod yr enghreifftiau uchod yn ysgogi eraill i
ofyn yr un cwestiynau a bod gwelliant i’w weld o gymharu â’r sefyllfa ddeg
mlynedd yn ôl.
-
Cyfeiriwyd at yr Agenda Mwy na Geiriau, gwaith
partneriaethau a chydweithio o fewn y meysydd gofal a diogelwch cymunedol a rôl
y Cyfarwyddwr o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel cyswllt swyddogol.
Manylwyd am y Fforwm Mwy na Geiriau gan nodi fod cymeradwyaeth cenedlaethol
wedi ei dderbyn am waith y fforwm yn y Gogledd sydd yn rhannu ymarfer da a
chydweithio.
-
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod hi’n
cyfrannu yn y Gymraeg ym mhob Cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghyd
â nifer o aelodau eraill a bod hynny yn cael ei annog a’i werthfawrogi gan
Gadeirydd a Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.
-
Soniwyd am lansiad Maethu Cymru a’r gwaith ar y cyd
i ddylanwadu a llwyddo i gael y logo yn Gymraeg yn gyntaf a’r Saesneg yn ail.
-
Adroddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y
Gwasanaeth Cyfreithiol gan nodi ei fod yn wasanaeth bach o ran maint ond yn
gorgyffwrdd ag Adrannau eraill drwy ddarparu cefnogaeth gyfreithiol a
phriodoldeb. Soniwyd am y gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i’r Crwner o fewn
y Gwasanaeth Cyfreithiol yn ogystal â’r uned etholiadol.
-
Amlygwyd fod y Cyngor yn arwain ar faterion
rhanbarthol gan nodi fod y gwasanaeth cyfreithiol wedi bod yn cyfrannu o ran
llywodraethant y materion yma. Golyga hyn fod y gwasanaeth yn galluogi i roi
rôl flaenllaw i’r Gymraeg wrth sefydlu’r partneriaethau rhanbarthol a chreu
hyder bod cytundebau cyfreithiol technegol yn gallu cael eu cynhyrchu yn
Gymraeg. Ychwanegwyd bod yr un statws bellach yn cael ei roi i ddogfennau
cyfreithiol Cymraeg a Saesneg a’i bod bellach yn anghyffredin peidio derbyn
fersiynau dwyieithog o ddogfennau, sy’n ddatblygiad calonogol iawn.
-
Manylwyd ar y gwasanaeth Crwner a’r ansicrwydd
diweddar ynghylch uno’r gwasanaeth i fod yn wasanaeth Gogledd Cymru. Adroddwyd
y bydd y gwasanaeth yn parhau fel gwasanaeth Gogledd Orllewin Cymru rhwng
Gwynedd a Môn ble bydd yn haws sicrhau gweithrediad Cymreig y gwasanaeth.
-
Cyfeiriwyd at ddefnydd y gwasanaeth cyfreithiol o
gomisiynu gwaith allanol gan adrodd bod hyn weithiau yn anorfod. Soniwyd am yr
heriau o ddarganfod locums Cymraeg gan bwysleisio mai’r nod yw penodi
Cyfreithwyr Cymraeg. Adroddwyd bellach bod pecynnau gwell yn cael eu cynnig ar
gyfer recriwtio gan obeithio gallu denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r swyddi.
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor i holi
cwestiynau:
-
Mynegwyd balchder yn yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud i
arwain y ffordd i eraill ac i greu gweithlu dwyieithog a diolchwyd am y gwaith
hwn.
-
Cefnogwyd y syniad o ohebu’n ffurfiol efo’r cyrff
cyhoeddus, yn enwedig Llywodraeth Cymru ac o bosib y Bwrdd Iechyd i fynegi siom
yn eu hymdrechion i alluogi swyddogion i gyfrannu yn rhwydd yn y Gymraeg mewn
cyfarfodydd. Cefnogwyd yr uchod yn unfrydol gan yr Aelodau.
-
Credwyd fod y Cyngor yn chware rôl arweiniol a phwysig
o ran sicrhau parch i’r Gymraeg mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol a
diolchwyd am y gwaith yma. Ychwanegwyd ei fod yn galonogol iawn fod y Cyngor yn
cymryd y cyfrifoldeb hwn.
-
Teimlwyd fod nifer o’r sefydliadau cyhoeddus yn
awyddus i greu newid a gwella ond ddim yn siŵr sut i ddatblygu deunydd
iaith dwyieithog yn y gweithlu. Cwestiynwyd os ydi hi’n bosib i Gyngor Gwynedd
roi cynllun gwaith iddyn nhw er mwyn eu cynorthwyo.
-
Cytunwyd y dylid tynnu’r gair ‘Council’ o enw’r
Cyngor.
-
Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei holl
waith, gwaith ychwanegol i’w gwaith dydd i ddydd. Adroddodd yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol ei bod wedi derbyn adborth fod yr arweiniad hwn gan y
Cyfarwyddwr yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg yn rhoi hyder i eraill ac yn eu
hysgogi i ddefnyddio’r iaith.
-
Holiwyd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol os oedd
cyfathrebu yn digwydd efo Ysgolion y Gyfraith mewn Prifysgolion fel Caerdydd
neu Lerpwl er mwyn helpu efo recriwtio Cyfreithwyr i’r Cyngor.
-
Holiwyd pe bai anghydfod rhwng y fersiwn Gymraeg a’r
fersiwn Saesneg o ddogfen Gyfreithiol pa fersiwn fyddai yn cymryd blaenoriaeth.
-
Gofynnwyd pam bod cyfeiriadau Saesneg ar y rhestr
etholwyr ac os oes modd derbyn y bas-data yn Gymraeg. Mynegwyd bod materion
tebyg yn wir am Adran Gynllunio.
-
Canmolwyd y gwasanaeth Cyfreithiol am eu datblygiadau
yng nghyd-destun yr iaith o ddatblygu termau newydd cyfreithiol yn y Gymraeg. Cydnabyddwyd
ei bod yn anodd denu cyfreithwyr Cymraeg; holiwyd os oedd cefnogaeth yn cael ei
roi i’r locums i ddysgu neu ddatblygu yn y Gymraeg.
Mewn
ymateb, nododd y Prif Weithredwr:
-
Mai Gwynedd sydd yn arwain ar ddefnydd yr iaith
Gymraeg yn y sector gyhoeddus ers degawdau a bod asiantaethau, Cynghorau a
chyrff eraill wastad yn edrych ar beth mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud.
Croesawyd y cyfrifoldeb hwn a nodwyd ei bod yn hanfodol bod y gwaith da yn
parhau.
-
Gwnaethpwyd sylw fod y gwasanaeth cyfieithu gorau
yn y wlad yng nghyngor Gwynedd.
-
Soniwyd am y gwaith sy’n cael ei wneud i newid enw’r
Cyngor a bod nifer o rwystrau cyfreithiol biwrocrataidd wedi codi dros y
blynyddoedd. Adroddwyd, efo cymorth y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, bod
cyfreithiwr allanol wedi ei gomisiynu i helpu a bellach mae’r Prif Weithredwr
yn ffyddiog y gellir gwneud newid arwyddocaol.
Mewn
ymateb, nododd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu:
-
Ei bod yn bosib i Gyngor Gwynedd rannu enghreifftiau o
ymarfer da efo’r sefydliadau cyhoeddus er mwyn eu cynorthwyo. Ychwanegwyd bod y
Llywodraeth wedi sefydlu uned newydd dan arweiniad Jeremy Evans er mwyn rhoi
sylw penodol i’r Gymraeg. Awgrymwyd y byddai’n syniad anfon y llythyr y
cyfeiriwyd ato yn flaenorol at sylw’r Gweinidog ac at sylw Jeremy Evans.
Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol:
-
Ei fod yn dueddol o chwilio am bobl profiadol i’w
recriwtio fel Cyfreithwyr yn y Cyngor yn hytrach nag ymgeiswyr sydd newydd
raddio, oni bai am y cyfleoedd hyfforddeion proffesiynol.
-
Bod deddfwriaeth ddwyieithog yng Nghymru, golyga hyn
nad oes statws penodol i’r naill iaith na’r llall. Nodwyd pwysigrwydd sicrhau
bod y cyfieithiad yn gywir ond bod y dehongliad yn cael ei wneud drwy gymharu â
chyfeirio at y ddwy iaith; cadarnhawyd bod y ddau fersiwn efo statws.
-
Y byddai’r uned etholiadol yn edrych ar y mater o
gyfeiriadau Saesneg ar y rhestr etholwyr gan weld beth sy’n bosib.
-
Ei bod yn her i’r locums di-Gymraeg weithio i’r
Cyngor ond eu bod nhw efo agwedd gadarnhaol a parod i gydweithio. Cyfeiriwyd at
achosion ble mae’r gwaith papur yn Gymraeg a bod cefnogaeth a mentora yn cael
ei ddarparu i’r locums. Adroddwyd fod y berthynas yn adeiladol a chynhyrchiol a
bod dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r iaith. Nodwyd er nad yw’r locums yn
dysgu’r Gymraeg eu bod yn sicr yn ymgyfarwyddo ag egwyddor Cyngor Gwynedd.
PENDERFYNIAD
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
·
Cytunwyd i’r Prif
Weithredwr anfon llythyr at y Llywodraeth ar ran y Pwyllgor Iaith yn mynegi
siom nad oes modd i swyddogion Cyngor Gwynedd ac eraill gyfrannu yn rhwydd
drwy’r Gymraeg mewn cyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru bob amser a'u
hannog i sicrhau bod darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ddiofyn mewn
cyfarfodydd.
Dogfennau ategol: