skip to main content

Agenda item

Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystad mewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae ac i amodau:

 

1.           5 mlynedd

2.           Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.           Llechi naturiol.

4.           Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.           Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd, cwblhau llefydd parcio

6.           Cwblhau tirlunio yn unol gyda’r manylion a gyflwynwyd.

7.           Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E ar gyfer y tai fforddiadwy.

8.           Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.

9.           Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt.

10.        Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol.

11.        Unol gyda’r asesiad coed.

12.        Amod archeolegol.

13.        Oriau gwaith cyfnod adeiladu.

14.        Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu.

15.        Gwydr afloyw yn y ffenestr llawr 1af ar dalcen de ddwyrain llain 3 i fod yn afloyw.

 

Nodiadau Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr

 

Cofnod:

Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystâd fewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer 16 o dai annedd marchnad agored a 7 fforddiadwy.  Byddai’r tai ar y safle yn gymysgedd o rhai deulawr a tri llawr, yn fathau amrywiol fel a ganlyn: -

 

Math A a B tai 4 ystafell wely gyda modurdy

Math C - tai 3 ystafell wely gyda modurdy – y tai yn amrywio o ran eu cynlluniau mewnol a gweddau allanol.

Math D - tai 2 lawr 2 a 3 ystafell wely gyda (a heb) fodurdy cyfagos

Math E ac F - 7 uned fforddiadwy yn darparu cymysgedd o 2 a 3 ystafell wely.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol y tu mewn a tu allan i’r ffin datblygu gyda’r tir ble bwriedir lleoli’r tai wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Criccieth, a’r ardal parth tirweddu a phwll gwanhau dŵr wyneb yn gorwedd y tu allan i’r ffin. Ategwyd bod rhan o’r safle sydd o fewn y ffin ddatblygu wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) - safle T41. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r unedau preswyl yn erbyn gofynion Polisi TAI 2 CDLl. Mynegwyd bod y safle wedi ei adnabod fel un ar gyfer 34 o unedau, ond y cais yn gofyn am adeiladu 23 o dai ar y safle (sydd yn is na’r unedau amcangyfrifiedig ar gyfer y safle ym Mholisi TAI 2). 

 

Amlygwyd bod y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd gyda’r cais yn nodi bod safle T41 wedi bod yn destun asesiad manwl o gyfyngiadau oedd yn cynnwys yr  angen i gadw cliriad o 7 medr bob ochr i gwrs dŵr Afon Cwrt sy’n rhedeg ar draws y safle.  Yn ychwanegol, nodwyd na ellid datblygu rhan o’r safle oherwydd presenoldeb cylfat sy’n rhedeg ar hyd ac yn gyfochrog â gerddi cefn tai Teras y Gogledd ynghyd a chael gofod clirio bob ochr i ddraen dŵr wyneb o Afon Cwrt i’r pwll gwanhau arfaethedig rhwng Bryn Cleddau a Llain 3.

 

Yn unol â Pholisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer 10 neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Eglurwyd bod y wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r bwriad ac felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer cyfarfod a’r diffyg darpariaeth. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n fodlon gwneud cyfraniad o £4848.66 a gellid sicrhau hynny drwy gytundeb cyfreithiol 106.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu creu ystâd o dai ar gae amaethyddol gyda’r fynedfa bresennol i’r cae i’w gael oddi ar drac sy’n rhedeg heibio pen gogleddol Teras y Gogledd. Fel rhan o’r cais bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu yn uniongyrchol i’r B4411. Adroddwyd bod yr Uned Trafnidiaeth wedi cyflwyno sylwadau yn datgan fod y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd parthed y cais ynghyd ag asesiad llawn ar lain welededd y gyffordd gyda’r B4411 yn cyfarch canllawiau NCT 18.  Ategwyd bod man newidiadau wedi ei wneud i’r cynllun i wella darpariaeth i gerddwyr ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth sylwadau pellach i’w cynnig. 

 

Adroddwyd bod materion mwynderau cyffredinol a phreswyl, materion bioamrywiaeth, draenio tir, treftadaeth ac archeolegol yn dderbyniol ac o ganlyniad i’r asesiad llawn ystyriwyd fod y bwriad yn un derbyniol i’w ganiatáu yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol a bod cytundeb 106 yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy ac yn sicrhau cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol:

·         Cais gan adeiladwr tai lleol (Cwmni Rhys Efans Cyf) i godi 23 o dai gyda 7 ty fforddiadwy, ar safle wedi ei ddynodi yn benodol yn y CDLl ar gyfer adeiladu tai.

·         Argymhelliad i ganiatau gan y Swyddogion a hynny yn dilyn trafodaeth, ymgynghoriad ac asesiad trylwyr cyn cyflwyno ac yn ystod cyfnod ystyried y cais.

·         Bod rhywfaint o wrthwynebiad i’r datblygiad gan drigolion lleol - nifer yn amlygu pryder o’r dynodiad tai. Er hynny, nid yw’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr ardal nac ar drigolion lleol.

·         Bod y dynodiad ar gyfer darparu 34 o dai ond y cais yn gofyn am adeiladu 23 o daihyn yn adlewyrchu cyfyngiadau ar y safle ac yn gadael tir ger Ffordd Caernarfon fel llecyn agored sylweddol rhwng tai cyfagos a’r datblygiad newydd.

·         Bod pryderon gan rai trigolion am y fynedfa i Ffordd Caernarfon, ond y fynedfa wedi ei asesu nifer o weithiau (gan gynnwys cais am 18 ty a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2005 ar gyfer yr un fynedfa). Wrth ystyried y  dynodiad tai wrth baratoi’r CDLl ac fel rhan o’r cais yma, ystyriwyd bod y cynllun safle yn dangos yn glir mai dim ond o Ffordd Caernarfon y gellid creu mynedfa.

·         O safbwynt marchnata’r tai, nodwyd bod yr adeiladwr lleol am fabwysiadu'r un strategaeth a ddefnyddiwyd ar ei ddatblygiad diweddar yn Gerddi Madryn, Chwilog lle gwerthwyd 15 i Gymry Cymraeg lleol.

·         Bod y datblygwr eisoes wedi derbyn nifer o ymholiadau gan bobl o ardal Criccieth a Porthmadog am y tai a hynny heb farchnata. Rhagwelwyd y byddai o leiaf 18 neu 80% o’r tai yn cael eu gwerthu i bobl o’r ardal leol.

·         Nad oedd gwrthwynebiad i’r datblygiad gan y Cyngor Tref nac unrhyw un o’r Ymgynghorwyr eraill gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth sydd wedi rhoi sylw manwl i effaith y datblygiad ar drafnidiaeth a cherddwyr sy’n defnyddio Ffordd Caernarfon.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:   

·      Bod y bwriad yn rhannu dwy farn yn lleol

·      Awgrymu i’r Pwyllgor ymweld â’r safle

 

d)   Cynigwyd ac eiliwyd ymweld â’r safle oherwydd yr effaith ar yr ardal ac ar gymdogion

 

Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai: bod y dwysedd yn is na’r hyn a ddynodwyd yn T41 a bod yr elfennau trafnidiaeth a dŵr wedi eu cyfarch. Gyda’r egwyddor wedi ei sefydlu oherwydd ei ddynodiad, amlygodd y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor ystyried materion y gellid dylanwadu neu ychwanegu arnynt.

 

e)   Pleidleisiwyd ar y cynnig i gynnal ymweliad safle - Disgynnodd y cynnig

 

f)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

g)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y cynllun yn ymateb i’r angen yn lleol

·         Yn gynllun delfrydol

 

        Mewn ymateb i sylw yn ymwneud a’r ffordd o fewn yr ystâd yn dod i derfyn ar y ffin a’r awgrym y gellid adeiladu tai tu hwnt i’r ffin yn y dyfodol, nodwyd bod yr ardal yma tu allan i’r ffin datblygu, ond bod angen creu mynediad amaethyddol ynghyd a mynediad at y pyllau draenio. Nid yw yn awgrymu datblygiad pellach i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae ac i amodau:

 

1.       5 mlynedd

2.       Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.       Llechi naturiol.

4.       Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.       Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd, cwblhau llefydd parcio

6.       Cwblhau tirlunio yn unol gyda’r manylion a gyflwynwyd.

7.       Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E ar gyfer y tai fforddiadwy.

8.       Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.

9.       Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt.

10.     Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol.

11.     Unol gyda’r asesiad coed.

12.     Amod archeolegol.

13.     Oriau gwaith cyfnod adeiladu.

14.     Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu.

15.     Gwydr afloyw yn y ffenestr llawr 1af ar dalcen de ddwyrain llain 3 i fod yn afloyw.

 

Nodiadau Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr

 

Dogfennau ategol: