skip to main content

Agenda item

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Amodau priffyrdd.
  4. Cyflwyno cynllun tirlunio/plannu coed.
  5. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth a gwella bioamrywiaeth.
  6. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  7. Sicrhau cynllun/trefniant ar gyfer yr uned fforddiadwy.
  8. Angen arolwg ffotograffig o’r adeilad yn unol â gofynion Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.
  9. Deunyddiau yn unol â sylwadau CADW

 

Cofnod:

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer addasu ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl, creu mynediad newydd i gerbydau ynghyd a darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil y safle sydd gyferbyn a'r Stryd Fawr yn Neiniolen.

 

Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 01.11.21 gydag argymhelliad gan y Pwyllgor i ohirio’r cais fel bod modd derbyn gwybodaeth ychwanegol ynglŷn a’r isod:

·           Cadarnhad byddai’r fynwent yn cael ei gwarchod.

·           Mwy o fanylion draenio tir gyda sicrhad na fydd y cylfat yn achosi problemau ar y safle nac yn lleol.

·           Cadarnhad am yr angen am fflatiau yn Neiniolen e.e faint sydd ar y rhestr aros?

·           Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bydd y datblygiad yn cael ei feddiannu gan bobl leol?

 

Mewn ymateb i’r pryderon uchod, cyflwynwyd y wybodaeth isod gan ymgeisydd.

 

Y fynwent - asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau bydd y fynwent yn cael ei ddiogelu drwy osod ffens diogelwch math Harris yn ystod y gwaith adeiladu. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y ffens yn cael ei dynnu lawr a chynllun rheoli yn cael ei ddarparu ar gyfer torri’r gwair a gwaith cynnal a chadw cyffredinol fydd yn cynnwys glanhau’r cerrig coffa.

 

Manylion draenio - cyflwynwyd cynlluniau’n dangos lleoliad a rhediad y cwlfert.  Wrth ystyried rhediad a gosodiad y cwlfert mewn perthynas â’r adeiladwaith presennol, ni fydd y bwriad cyfredol yn amharu ar y cwlfert mewn unrhyw fodd. Tynnwyd sylw at sylwadau diweddaraf yr Uned Dwr ac Amgylchedd sy’n datgan nad oeddynt yn rhagweld unrhyw effaith tebygol ar y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd.

 

Yr angen am fflatiau yn Neiniolen - derbyniwyd gwybodaeth pellach gan gwmni gwerthwyr tai lleol cymwysedig yn datgan bod gwir angen am y math yma o unedau preswyl yn Neiniolen gyda 30 ymholiad ar gyfartaledd ar gyfer pob uned fforddiadwy i’w rhentu ac sydd wedi cael eu cymhwyso ar gyfer fforddiadwyaeth. Nodwyd bod ganddynt hefyd 62 o ymgeiswyr ar eu rhestr sydd yn edrych ar eiddo yn nalgylch Deiniolen sydd yn gymysg o brynwyr tai cyntaf a rhai sydd yn edrych am unedau llai. Ategwyd bod y cwmni gwerthwyr tai wedi ymgymryd ag asesiad o gyflwr cyfredol y farchnad dai lleol yn Neiniolen a’r cylch ac wedi cynnig ffigyrau sy’n parhau i gadarnhau (yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd) y byddai prisiau rhentu a phrisiau perchnogion preswyl/owner occupier yr unedau yn fforddiadwy yn ôl y fformiwla o fewn Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy.

 

Meddiannaeth y fflatiau ar gyfer bobl leol - y cwmni gwerthwyr tai yn cadarnhau y byddent yn hysbysebu’r fflatiau gan ddefnyddio llyfrynnau a hysbysebion dwyieithog ynghyd a gosod graddfa amser i bobl leol gael y cyfle cyntaf i rentu/prynu’r fflatiau cyn eu bod yn mynd ar y farchnad agored. Fodd bynnag, atgoffwyd yr Aelodau mai un o’r fflatiau sydd angen bod yn fforddiadwy a gellid sicrhau fod yr uned yn fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth i’r rhai hynny sy’n gallu profi’r angen am dŷ fforddiadwy drwy gynnwys amod priodol.

 

Nodwyd bod yr egwyddor o ddarparu unedau preswyl ar safle hen gapel ac ysgoldy yn Neiniolen wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 3, TAI 15, PS 17 ac ISA 2, yn parhau i fod yn dderbyniol. Yn dilyn asesu’r cais, ystyriwyd y byddai’r bwriad i ddarparu 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy yn ymateb yn bositif i’r anghenion ar gyfer unedau preswyl bychain yn Neiniolen ac ni ystyriwyd ei fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi hyn.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:         

·                  Bod y cais wedi ei ohirio ym mis Tachwedd am 4 rheswm gwrthod

·         Ei fod yn gobeithio y bydd y ffens a’r ymateb i’r pryderon draenio tir yn ddigonol

·         Nad oedd, mewn 10 mlynedd fel Aelod Lleol, wedi cael ymholiad am fflat

·         Mai pwysig yw profi’r angen yn ward Deiniolen yn unig – nid y dalgylch

·         Os daw’r fflatiau yn wag, pwy gaiff eu cartrefu ynddynt (o ystyried lleoliad Hostel Noddfa)?

·         A oes modd gosod amod ar gyfer unigolion / cyplau ifanc mewn gwaith yn unig?

·         Derbyn yr angen am rywbeth yn lle'r Capel

·         Nad oedd trafodaethau lleol wedi eu cynnal ers Awst 2021

·         Angen sicrwydd o leoliad y fynedfa newydd

·         Deiseb wedi ei harwyddo gan 100 o unigolion yn amlygu pryderon ynglŷn â’r datblygiad

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd mai ffigyrau dalgylch oedd wedi eu hystyried ar gyfer yr angen am dai ac nid ffigyrau ward Deiniolen;  bod y fynedfa newydd yn cael ei gosod yn ne - orllewin y safle ac wedi ei gytuno gyda’r Uned Drafnidiaeth; nad oedd modd gosod amod ar gyfer ‘y math’ o breswylwyr i’r fflatiau.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen sicrwydd am y nifer o bobl Deiniolen sydd angen tŷ yn Neiniolen – angen ffigyrau lleol ac nid dalgylch

·         Bod y cais yn un i’w groesawu – capel yn wag ac yn addas ar gyfer fflatiau prynwyr tai tro cyntaf

·         Bod y ffens ar gyfer y fynwent yn dderbyniol

·         Angen cadarnhad o’r gorffeniad gro chwipiad yn unol â sylwadau CADW

·         Byddai cyflwr yr adeilad yn gwaethygu os na fyddai’r cais y cael ei ganiatáu

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Amodau priffyrdd.

4.         Cyflwyno cynllun tirlunio/plannu coed.

5.         Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth a gwella bioamrywiaeth.

6.         Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

7.         Sicrhau cynllun/trefniant ar gyfer yr uned fforddiadwy.

8.         Angen arolwg ffotograffig o’r adeilad yn unol â gofynion Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.

9.         Deunyddiau yn unol â sylwadau CADW

 

Dogfennau ategol: