Agenda item

Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghŷd â mynediad gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:

  1. 5 mlynedd
  2. Unol â’r cynlluniau
  3. Llechi
  4. Cytuno gorffeniad allanol
  5. Ffenestr llawr cyntaf ar ochr ddwyreiniol Uned 1 i o fod o wydr afloyw ac o ddyluniad ‘top hung’ i rwystro gwelededd.
  6. Ni ddylai gosodiad y ffenestri to ar ddrychiad dwyreiniol yr unedau fod dim is na 1.7          medr o lefel llawr mewnol.
  7. Cyflwyno a chytuno cynllun tai fforddiadwy a threfniant i roli’r fforddiadwyedd i’r dyfodol. 
  8. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl mewn ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Ddatganiad Dull o’r gwaith a fwriedir ei ymgymryd ar gefnffordd yr A470.  
  9. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl a ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli Traffig.
  10. Rhaid cwblhau’r fynedfa i'r ffordd sirol a’r llecynnau parcio cyn preswylio yn yr unedau preswyl.
  11. Rhaid gosod bocsys adar y to yn unol ag argymhellion rhan 8 o asesiad Ecolegol Cychwynnol, Cambrian Ecology.
  12. System Ddraenio Cynaliadwy (SUDS).
  13. Rhaid rhoddi enwau Cymraeg ar yr unedau sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad.
  14. Codi wal derfyn 2.1m o uchder yn lle 1.8

 

                                          i.    Nodiadau:

                                        ii.    Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth Cynulliad

                                       iii.    Angen trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun rheol traffig ac arwyddion Cymraeg

                                       iv.    Nodiadau Ffyrdd

                                        v.    Nodyn Dŵr Cymru

                                       vi.    Nodyn Wâl Gyfunol

 

Cofnod:

Cais i ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/04/22  i weld natur a chyfyngiadau’r safle

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal siop (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ (1 ystafell wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag (sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb. Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS 15 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddwyd bod Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol a’r safle o fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o ymdoddi i’w gyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd cadarnhaol o safle adeilad helaeth sydd wedi sefyll yn segur am gyfnod hir. Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Amlygwyd y byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned, ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn â  materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau, ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y siop flaenorol megis y lorïau danfon a pharcio staff wedi cynhyrchu symudiadau traffig trwm. Gellid dadlau y byddai’r symudiadau traffig dau gar yn peri llawer llai o aflonyddwch na loriau danfon a symudiadau cwsmeriaid a staff y defnydd blaenorol.

 

Adroddwyd y  rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd sydd wedi eu datblygu o’r blaen, ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cyflawni hynny gan wella ansawdd gweledol safle amlwg ar y Stryd Fawr gyda dyluniad a graddfa’r datblygiad yn gydnaws a’r cyffiniau.

 

Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod y Cyngor Cymuned a chymdogion i’r safle yn amlygu pryder bod y bwriad yn orddatblygiad

·         Pryderon am ddiogelwch sylfeini adeiladau cyfagos

·         Allanfa dân adeilad cyfagos wedi ei osod ar yr adeilad sydd i’w ddymchwel

·         Na fydd y wal ar hyd y terfyn (rhwng y ddau adeilad a thy cymydog) yn ddigon uchel – yn effeithio ar breifatrwydd cymdogion

·         Pryder am oredrych dros gefn eiddo a gardd cymdogion – awgrym codi wal o 1.8m i 2.4m

 

b)    Cynigiwyd gwrthod y cais – ni chafwyd eilydd

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Byddai’r bwriad yn welliant i’r safle sydd ar y Stryd Fawr

·         Bod y bwriad yn un positif

·         Bod y safle wedi bod yn wag ers 14 mlynedd

·         Awgrym codi’r wal derfyn i 2.1m mewn ymateb i bryderon y cymdogion

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:

1.         5 mlynedd

2.         Unol â’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Cytuno gorffeniad allanol

5.         Ffenestr llawr cyntaf ar ochr ddwyreiniol Uned 1 i o fod o wydr afloyw ac o ddyluniad ‘top hung’ i rwystro gwelededd.

6.         Ni ddylai gosodiad y ffenestri to ar ddrychiad dwyreiniol yr unedau fod dim is na 1.7            medr o lefel llawr mewnol.

7.         Cyflwyno a chytuno cynllun tai fforddiadwy a threfniant i roli’r fforddiadwyedd i’r dyfodol. 

8.         Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl mewn ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Ddatganiad Dull o’r gwaith a fwriedir ei ymgymryd ar gefnffordd yr A470. 

9.         Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl a ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli Traffig.

10.       Rhaid cwblhau’r fynedfa i'r ffordd sirol a’r llecynnau parcio cyn preswylio yn yr unedau preswyl.

11.       Rhaid gosod bocsys adar y to yn unol ag argymhellion rhan 8 o asesiad Ecolegol Cychwynnol, Cambrian Ecology.

12.       System Ddraenio Cynaliadwy (SUDS).

13.       Rhaid rhoddi enwau Cymraeg ar yr unedau sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad.

14.       Codi wal derfyn 2.1m o uchder yn lle 1.8

 

i.          Nodiadau:

ii.         Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth Cynulliad

iii.        Angen trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun rheol traffig ac arwyddion Cymraeg

iv.        Nodiadau Ffyrdd

v.         Nodyn Dŵr Cymru

vi.        Nodyn Wâl Gyfunol

 

Dogfennau ategol: