skip to main content

Agenda item

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106

 

Amodau:

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, draenio tir, tirweddu,  deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg.

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

a)            Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 21-3-22 i gyfnod o gnoi cil.  Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r ymgeisydd i brofi ei fod mewn angen ac yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Amlygwyd bod yr ymgeiswyr wedi e‘u hail asesu ar sail gwybodaeth ariannol newydd cynhwysfawr a ddaeth i law, oedd yn cynnwys Prisiad Llyfr Coch, prisiad eu tŷ presennol a gwybodaeth am eu morgais ac ecwiti tebygol. Derbyniwyd copi o ymateb Tai Teg gan yr ymgeisydd yn cadarnhau eu bod wedi asesu’r cais yn erbyn eu meini prawf. Gwrthodwyd ei cais oherwydd ystyriwyd bod eu heiddo presennol yn addas ar gyfer maint y teulu, yn fforddiadwy ac nad oedd unrhyw anghenion penodol ganddynt. O ganlyniad, nid oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi cael ei brofi yn llawn a bod rheswm gwrthod yr ACLl, ‘Nid yw’r ymgeiswyr wedi profi angen am dŷ fforddiadwy, felly mae’r bwriad yn groes i faen prawf 1 a 7 o Bolisi TAI 6, Tai 15 a PS 17 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac i ofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy (2019)’, yn parhau i sefyll.

 

Gwerthfawrogwyd bod yr ymgeisydd yn profi problemau gwrthgymdeithasol yn eu heiddo presennol ac yn dymuno symud, fodd bynnag, yn unol ag asesiad Tai Teg, roedd tŷ presennol yr ymgeiswyr o faint a phris fforddiadwy ac yn addas i’w pwrpas. Ystyriwyd hyn yn ‘ddymuniad’ gan yr ymgeiswyr yn hytrach nac ‘angen’ ac nad oedd materion personol rhwng cymdogion yn faterion cynllunio perthnasol. Ni ddylai’r pwyllgor roi pwysau ar hyn wrth ystyried y cais.

 

Yng nghyd-destun fforddiadwyedd y tŷ arfaethedig nodwyd mai £315,00 oedd pris marchnad agored y tŷ. Adroddwyd nad oedd yr Uned Strategol Tai wedi ymateb i gadarnhau’r elfen fforddiadwyedd na chanran disgownt tebygol fyddai’n rhesymol ar gyfer eiddo newydd sengl canolradd, ond awgrymwyd disgownt o oddeutu 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy ar gyfer eiddo canolradd i £157,000. Cyfeiriwyd at gynnydd mewn prisiau tai a phryder y gall pris yr eiddo / tir gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol i lefel lle gellid dadlau na fyddai’r eiddo yn fforddiadwy beth bynnag fyddai’r lefel disgownt, a phosibilrwydd o dderbyn cais i godi’r cytundeb 106. Ategwyd bod y CDLl ond yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadwy am byth, ond gyda’r bwriad arfaethedig, mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all ddylanwadu ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r tŷ yn parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol.

 

Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, canllawiau lleol a chenedlaethol a pholisïau cynllunio cenedlaethol.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn un unigryw

·         Bod y teulu ar hyn o bryd yn byw yn Nefyn o dan amgylchiadau anodd iawn, yn derbyn ymosodiadau gwrthgymdeithasol

·         Bod eu tŷ presennol yn anaddas - nid yw bellach yn cwrdd â’u hanghenion - dim lle parcio, cegin rhy fach

·         Yr ymgeisydd wedi ymateb a chydymffurfio gyda gofynion y Swyddogion drwy gyflwyno adroddiadau a gwybodaeth ychwanegol

·         Y Pwyllgor wedi cefnogi’r cais ym mhwyllgorau Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022

·         Cyfeiriwyd at ebyst a dderbyniwyd gan Tai Teg lle nodir bod fforddiawyedd pob cais yn cael eu hystyried fesul achos

·         Cartref presennol yn gyn dŷ Cyngor gydag amod 157 - hyn yn cyfyngu pwy all fyw yno

·         Bod yr  Adran Tai wedi rhoi cynnig ar y tŷ a’r ymgeisydd wedi derbyn y cynnig - tŷ felly yn cael ei ryddhau i deulu arall lleol

·         Bod Strategaeth Tai Gwynedd yn nodi’r angen i drigolion Gwynedd gael mynediad i dai addas o safon fyddai yn gwella eu hansawdd bywyd – y cais yn cyfarch hyn

·         Nifer wedi ymdrafferthu i ysgrifennu i gefnogi’r cais – dim un gwrthwynebiad

·         Rhaid ymateb yn gadarnhaol i drigolion lleol - rhaid cefnogi pobl leol

 

b)         Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais gyda chytundeb 106

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelod:

·         Bod y cais yn un unigryw

·         Bydd tŷ yn Nefyn cael ei ryddhau i bobl leol

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106

 

Amodau:

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, draenio tir, tirweddu,  deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg.

 

Dogfennau ategol: