skip to main content

Agenda item

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad - y safle a'r ardal gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn ogystal â Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Eglurwyd, gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd testun y cais mai polisi TWR 5 y CDLl oedd y polisi perthnasol a oedd yn gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Nodwyd bod  maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.

 

Ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle sy’n eithaf gwastad o fewn y dirwedd, o fewn cae sydd wedi ei amgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd sefydledig gyda chyfres o adeiladau allanol ynghlwm a’r anheddiad fyddai’n rhannol guddio’r safle o’r gogledd. Er hynny, nodwyd bod y safle’n hollol agored tuag at y llwybr arfordir.

 

Cydnabuwyd fod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu at y gwrychoedd presennol yn ogystal â chreu clawdd gyda choed cynhenid ar ei hyd, ond amlygwyd bod y polisi yn gofyn i safleoedd fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd. Fel y mae, ystyriwyd nad oedd y safle wedi cael ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac na fyddai’r hawdd ei gydweddu mewn i’r dirwedd. Disgrifiwyd y safle fel un mewn lle agored wrth yr arfordir ac wrth ymweld â’r ardal leol mae’n amlwg mai ychydig o rywogaethau sy’n tyfu’n llwyddiannus yn yr ardal yma oherwydd gwynt y môr.

 

Ystyriwyd y byddai’r cloddiau presennol ac arfaethedig yn sgrinio rhannau isaf yr unedau, ond oherwydd uchder cerbydau a charafanau teithiol byddai’r safle yn weladwy yn y dirwedd ehangach - annhebygol fydd y tirweddu yn cuddio’r safle yn ei gyfanrwydd heb effaith sylweddol niweidiol i’r dirwedd. Oherwydd hyn, amlygwyd pryder sylweddol ynglŷn â llwyddiant y cynllun tirweddu ynghyd a’r amser sylweddol i’w sefydlu - o ganlyniad ystyriwyd y byddai effaith weledol y safle yn niweidiol i’r dirwedd yn y cyfnod tyfu a all fodoli am flynyddoedd.

 

Adroddwyd bod amryw o safleoedd teithiol eraill yn yr ardal i’w gweld o sawl man cyhoeddus dros y cloddiau a’r gwrychoedd presennol ac amlygwyd pryder y byddai’r   datblygiad yma yn cyfrannu at effaith cronnus datblygiadau carafanau teithiol sydd eisoes yn cael effaith negyddol ar y dirwedd. O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd gyda maen prawf 1 o bolisi TWR 5.

 

Nodwyd bod y safle o fewn yr AHNE gyda sylwadau’r Uned AHNE yn cydnabod y byddai’r  safle yn weladwy o sawl man cyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau mai prif amcan dynodiad AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd ac felly’n  hanfodol bod unrhyw gynlluniau a gosodiad unrhyw ddatblygiad yn ffafrio diogelu harddwch naturiol yr ardal.

 

Ategwyd bod yr elfennau megis mwynderau cyffredinol a phreswyl, trafnidiaeth a mynediad yn dderbyniol ac er derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd, bod y bwriad yn annerbyniol oherwydd y byddai’n achosi effaith andwyol a sylweddol ar y dirwedd a mwynderau gweledol y dirwedd.

 

b)            Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd perthynas i’r ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y teulu yn lleol sydd a’i gwreiddiau yn gadarn ym Mhenllyn - wedi eu magu, addysgu ac yn gweithio yn lleol.

·         Bod y bwriad yn gynllun teulu cyfan gyda gobaith o allu datblygu busnes cynhenid, llwyddiannus a hir dymor yn Nhudweiliog; Gyda buddion lluosog i’r economi leol i siopau, tafarndai, bwytai a chyrchfannau gwyliau a phentrefi ym Mhenllyn a thu hwnt.

·         Bod y cais yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion y CDLl ac eithrio un cymal o bolisi Cynllunio TWR 5 sydd yn gysylltiedig ag effaith y datblygiad ar y tirlun.

·         Bod yr ymgeisydd yn datgan rhyfeddod o ystyried bod y cais cynllunio wedi ei gyflwyno ers dros flwyddyn ac mai dyma’r cyfeiriad cyntaf at effaith y datblygiad ar y tirlun.

·         Er na dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Swyddog AHNE fel rhan o’r broses ymgynghori ymddengys bod y Swyddog wedi pennu na fyddai modd i gynllun tirlunio (sydd i gynnwys clawdd pridd  1.5 medr a chynllun plannu coed gwydn cynhenid cynhwysfawr) lwyddo oherwydd ei agosatrwydd at yr arfordir. Er hynny, nid oes barn ymgynghorydd arbenigol i ategu barn y Swyddog i lwyddiant y cynllun plannu.

·         Derbynnir pryder yr Awdurdod Cynllunio lleol am y gallu i dirlunio’r safle yn llwyddiannus. Pe byddai’r pryderon hyn wedi eu rhannu yn ystod y broses gynllunio, byddai cyfle i geisio lliniaru a datrys yr effaith ynghynt.

·         Awgrym i gynnig amod cynllunio tirlunio yn y gobaith y bydd yn cwrdd ac yn ategu effeithiau tirlun y datblygiad. Diben yr amod yw darparu adroddiad arbenigol er mwyn amlygu sut mae sefydlu tyfiant coed a pha rywogaethau cynhenid yw’r mwyaf gwydn mewn ardal arfordirol. Bydd yr adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth gywir i lunio cynllun plannu cynhwysfawr i dirlunio'r ffin weledol.

·         Cynigiwyd ychwanegu ail gymal i’r amod yn gysylltiedig â chyflwyno cynllun ôl-ofal i adolygu’r tyfiant dros gyfnod o 10 mlynedd, lle byddai unrhyw goeden farw yn cael ei hailblannu o’r newydd.

·         Gofynnwyd yn daer os yw’r cynnig yn un rhesymol ac yn datrys pryderon y Swyddog neu’r Adran Gynllunio am amlygrwydd y safle o fewn y tirlun?

·         Bod y sefyllfa sydd yn wynebu cymunedau cefn gwlad yng Ngwynedd - arfordir Penllyn yn arbennig yn un ddirdynnol ac argyfyngus gyda stoc tai lleol o bob maint a dyluniad yn brysur cael ei brynu gan gyflenwyr sydd yn gofyn am dai gwyliau – Air BnB. Mae’r gallu i bobl weithio o adref hefyd yn annog mewnlifiad ac mae cymunedau yn troi yn gynyddol Saesnig ei hiaith a’i natur.

·         Effeithiau bychan ar y tirlun yn y tymor byr a geir yma. Ystyriwyd bod cyfleuster carafanio bychan yn cynnig opsiwn llawer gwell i ymwelwyr allu ymweld â’n hardaloedd a mwynhau’r tirlun gwych gan ddychwelyd yn ôl i’w cymunedau ar ddiwedd eu gwyliau.

·         Gyda diffyg yn y ddarpariaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd llawer mwy o’r stoc dai leol yn cael ei brynu. Drwy roddi darpariaeth i’r galw cynyddol am unedau gwyliau o safon, y gobaith yw y bydd y ddibyniaeth ar unedau AirB&B a chyffelyb yn lleihau.

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod rhaid ystyried dulliau o arall gyfeirio yn mynd amaeth y dyddiau yma

·         Bod chwech allan o saith maen prawf yn cydymffurfio gydaTWR5 ac mai’r effaith weladwy oedd angen ei ystyried

·         Tri tŷ yn unig sydd o fewn yr ardal wledig yma – ni fyddai’r bwriad yn cael effaith weladwy arnynt – brawd yr ymgeisydd sy’n byw yn un o’r tai cyfagos

·         Bod modd cael hadau gwrychoedd cynhenid i’r ardal arfordirol

·         Bod bwriad gwneud gwaith tirlunio cyn agor y maes carafanau – croesawu agwedd gyfrifol yr ymgeisydd o wneud hyn

·         Y fenter yn paratoi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – rhaid rhoi cyfle i bobl lleol

·         Yr ardal yn wledig iawn – pwysig ei gwarchod a’i hamddiffyn i’r dyfodol – y fenter yn cynnig hyn drwy gynnig darpariaeth ar gyfer ymwelwyr sydd yn dod i fwynhau’r natur wyllt

 

d)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad.

 

Rhesymau:

·         bod y bwriad yn cynnig buddion economaidd a chymdeithasol

·         bod y cynlluniau tirlunio/plannu yn dderbyniol ac yn goresgyn yr effaith weledol

 

Mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod oherwydd effaith ar y golygfeydd – y bwriad mewn safle agored gweledol o fannau cyhoeddus, yn gais i ddatblgyu tir gwrydd o fewn yr AHNE ac yn groes i bolisïau. Sut gellid cyfianwhau bod y bwriad yn cwrdd â gofynion statudol?

 

Awgrymodd, ynteu ohirio’r penderfyniad a chynnal ymweliad safle neu, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais.

 

e)            Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle

 

f)             Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pe byddai’r ymgeisydd yn estron, byddai neb o blaid y cais

·         Annog ymwelwyr i aros mewn carafanau fydd wedyn yn prynu tai yn lleol

·         Byddai ymweld ar safle yn cynnig datrysiad

 

PENDERFYNWYD Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

Dogfennau ategol: