skip to main content

Agenda item

Codi estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Lliw gwyrdd tywyll i edrychiad allanol yr uned
  4. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig
  5. Amod gwarchod y cyhoedd yn ymwneud a chyfyngu ar lefelau sŵn o’r ffaniau rheoli tymheredd ynghyd a crynodiad gronynnau.
  6. Cwblhau cynllun tirlunio yn unol â’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais a’r cyfnod ar gyfer cyflawni hyn.

 

Cofnod:

Codi estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer codi estyniad i uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes a gwaith cysylltiedig ar Fferm Plas Tirion, Llanrug. Disgrifiwyd Plas Tirion fel daliad amaethyddol sy’n cynnwys 521 acer o dir gyda chyfanswm o 200 o wartheg bîff, a dofednod  - byddai’r uned arfaethedig yn cyflwyno 16,000 o ieir ychwanegol i’r fenter gan greu cyfanswm o 48,000 o ieir.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan y CDLl ac felly yn safle cefn gwlad agored. Adroddwyd nad oes polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud a datblygiadau amaethyddol, felly’r brif ystyriaeth oedd Polisi Cynllunio Cymru (PCC) a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

 

Amlygwyd y byddai’r sied arfaethedig ynghlwm i’r sied ieir presennol, gyda’r estyniad yn llai o faint a graddfa ond o’r un dyluniad a'r sied bresennol. Ystyriwyd fod y sied yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diben amaethyddiaeth i ehangu’r busnes ac nad oedd amheuaeth bod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol o fewn iard y fferm sefydledig. Nodwyd fod y  bwriad yn cyd-fynd a polisi PCYFF 1 ac egwyddorion PCC a TAN 6 cyn belled nad oedd unrhyw effeithiau annerbyniol yn sgil y bwriad.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd nad oedd bwriad y datblygiad yn anarferol yng nghefn gwlad ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi CYF 6, PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r CDLl.  

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, er bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad nepell o ddaliad amaethyddol gweithredol, nodwyd bod anheddau preswyl wedi eu lleoli yn nalgylch y safle ei hun. Lleolir yr anheddau a adnabyddir fel Plas Tirion a Phlas Tirion Lodge oddeutu 240m i’r gogledd o safle’r cais gydag anheddau/tyddynnod eraill wedi eu lleoli dros 400m o safle’r cais. Bydd y bwriad yn golygu defnyddio 6 ffan echdynnu (ar ben y 10 ffan echdynnu bresennol) ar do’r adeilad er mwyn rheoli tymheredd oddi fewn i’r uned ei hun. Gan ystyried lefelau sŵn y ffaniau ynghyd a chanlyniadau’r Asesiad Sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais roedd Uned Gwarchod y Cyhoedd yn argymell cynnwys amod yn sicrhau fod yr unedau ffan yn cynnwys lefelau sŵn trydydd wythfed. 

 

Ategwyd y byddai’r uned weithredu system aml-reng sydd yn galluogi i’r tail i ddisgyn i lawr i’r cludfelt yn gweithredu unwaith bob 5-7 diwrnod er mwyn gwaredu’r tail. Bydd hyn  yn golygu mai ychydig iawn o dail fydd yn cael ei storio o fewn yr uned ac felly yn lleihau gweithgaredd pla.  Ynghyd â’r cynnydd bwriededig yn y nifer o ieir ar y safle, er mwyn cydymffurfio gyda gofynion newydd Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru) 2021 lle nodi’r angen i ddaliadau amaethyddol gynnwys adeiladau neu ardaloedd ychwanegol i storio tail dan do yn ystod tymor y Gaeaf, nodwyd bod  cais C21/0773/23/LL i godi sied storio tail ychwanegol yn gyfochrog a’r sied ieir presennol wedi ei ganiatáu ar ddechrau 2022.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd mai’r bwriad yw defnyddio’r fynedfa bresennol i wasanaethu’r uned. Bydd y bwriad yn arwain at gynnydd bach mewn traffig gyda lorïau yn gwasanaethu’r uned drwy drosglwyddo bwyd i’r ieir ddwywaith y mis a lori 7.5 tunnell yn casglu’r wyau dwywaith yr wythnos. Cyfeiriwyd at ymateb a dderbyniwyd  gan yr Uned Trafnidiaeth yn datgan nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad gan y tybiwyd na fyddai’r  bwriad ei hun yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig - y bwriad felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA 4 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, amlygwyd bod cais wedi ei wneud i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol am Gynlluniau Rheoli Tail, Cynllun Pori yr Adar a Datganiad Dull Atal Llygredd. Yn dilyn cyfnod o ail-ymgynghori ar sail y wybodaeth ychwanegol, nid oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru na’r Uned Bioamrywiaeth bryderon ynglŷn â’r cais, ond yn nodi y dylid cynnwys amod yn datgan bydd angen cydymffurfio a chynnwys y cynlluniau a’r ddogfennaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais  - y bwriad felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG5 o’r CDLl.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau ac yn gefnogol i’r cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod trigolion lleol wedi pryderu am y cais gwreiddiol ac o ganlyniad, y Cyngor Cymuned wedi cynnal cyfarfod arbennig i drafod y cais – un fyddai yn creu bywoliaeth i deulu a swyddi i eraill. Y fenter bellach wedi bod mewn bodolaeth ers tair blynedd – dim problemau sŵn wedi eu cofnodi ac nid yw’r siediau yn weladwy – anodd gweld bod y fenter yn bodoli.

·         Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r fenter

·         Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion

·         Costau amaeth yn cynyddu ac felly angen ymateb i hynny

·         Balch o gael cefnogi menter sydd yn galluogi bywoliaeth a dyfodol i’r fferm

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelod:

·         Bod y fferm o faint sylweddol

·         Bod 48,000 o ieir i weld yn ormod ar y safle

·         Tyddynod yn cadw ieir a chynnal bywoliaeth hefyd – menter o’r maint yma yn lladd busnesau bach

·         Dim cyfiawnhad economaidd yma

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Lliw gwyrdd tywyll i edrychiad allanol yr uned

4.         Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig

5.         Amod gwarchod y cyhoedd yn ymwneud a chyfyngu ar lefelau sŵn o’r ffaniau rheoli tymheredd ynghyd a crynodiad gronynnau.

6.         Cwblhau cynllun tirlunio yn unol â’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais a’r cyfnod ar gyfer cyflawni hyn.

 

 

Dogfennau ategol: