Agenda item

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, compownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig.

 

Eglurwyd bod y safle’n gorchuddio arwynebedd o tua 0.7ha ac yn golygu datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi a’i warchod o fewn y CDLl  fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir Rhanbarthol. Nodwyd bod defnydd y bwriad yn disgyn o dan dosbarth defnydd unigryw, ac o ystyried fod nifer o blotiau gwag ar y safle, mai darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth busnes fydd y bwriad ac na fydd y cyfleuster ar agor i'r cyhoedd,  bod yr egwyddor o leoli’r orsaf ym Mharc Bryn Cegin yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol y bwriad gerbron yn golygu darparu cyfarpar ar gyfer galluogi loriau HGV i godi tanwydd nwy o bympiau tanwydd cyffredinol  - ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 ynghyd ac PS20 ac AT1 o’r CDLl o ran effaith weledol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl eglurwyd bod y safle yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl  - 1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi,

·         Bydd y pympiau yn cael eu goleuo yn ystod oriau tywyll, ond dim ond yn ystod cyfnodau o waith bydd goleuadau’r compownd yn cael eu defnyddio.

·         Bydd effaith y golau yn lleiafrifol oherwydd eu bod wedi eu canoli ar ardaloedd penodol (o dan y pympiau yn bennaf). Bod triniaeth ffin bwriedig (ffens a thir-weddu) ynghyd a graddfa a lleoli’r goleuadau yn golygu na fydd y gorlif golau yn mynd heibio ffiniau’r safle - bydd y gorlif hynny yn llai na golau lleuad.

·         Bod asesiad sŵn wedi ei wneud i ofynion BS4142/BS8233/Meini Prawf WHO ac yn ystyried  sŵn gweithgareddau o ganlyniad i loriau ar y blaengwrt ynghyd a’r holl gyfarpar ar y safle

·         Bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos na ddisgwylir i effeithiau sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, (er yn dibynnu ar y cyd-destun).

 

Nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn pwysleisio’r angen i weithredu mesurau lliniaru sŵn ac os gellid gweithredu mesurau lliniaru pellach i ostwng y lefel gradd ymhellach, fe'i cynghorwyd i wneud hynny fel nad yw’r safle yn cynyddu'r lefel sŵn cefndir presennol ac felly yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 2 a 3 o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod y safle yn elwa o bwynt mynediad annibynnol trwy ffordd fynediad i'r gorllewin o'r plot. Er mwyn hwyluso datblygiad y safle a sicrhau ei fod yn addas i’r HGVs gael eu gwasanaethu, mae bwriad cael gwared ar y fynedfa hon a darparu dau fynediad pwrpasol. Cyflwynwyd datganiad trafnidiaeth fel rhan o’r cais ynghyd a Chynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu. Nid yw’r Uned Drafnidiaeth wedi darparu ymateb ffurfiol ar gyfer y cais, ond derbyniwyd ymateb i’r ymholiad cyn-cyflwyno cais oedd yn codi nifer o bwyntiau ynglŷn â’r mynedfeydd newydd a defnydd o’r safle ar gyfer parcio dros nos. I’r perwyl hyn, mae cadarnhad wedi ei dderbyn na fydd y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio lorïau dros nos.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth adroddwyd bod asesiad ecolegol cychwynnol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi fod potensial i wrych sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer nythu adar ac ystlumod gael ei effeithio o ganlyniad i’r bwriad. Cyflwynwyd felly feurau lliniaru oedd yn cynnig:

·         Rhaid i unrhyw waith clirio safle ddigwydd y tu allan i’r tymor nythu ac yn dilyn chwiliad llaw am ymlusgiaid.

·         Rhaid darparu cynllun golau sydd wedi ei gytuno gydag ecolegydd

·         Cynllun tirweddu i guddio golau cymaint â phosib

·         Darparu bocsys nythu ar gyfer adar ac ystlumod.

 

Adroddwyd bod cynlluniau tirweddu a goleuo wedi eu darparu fel rhan o’r cais sy’n dderbyniol o ran diogelu mwynderau’r ardal a thrigolion cyfagos, ond nid yw’n glir os yw’n addas o ran materion Bioamrywiaeth. Nid oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr Uned Bioamrywiaeth pan gyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor, ond ar sail y wybodaeth sydd i law, ystyriwyd y gallai’r bwriad fod yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau i sicrhau fod y mesurau lliniaru yn cael eu cwblhau ar y safle ac i gytuno cynlluniau tirweddu a goleuo o flaen llaw.

 

Wedi asesu’r bwriad yn llawn ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau a chanllawiau perthnasol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Mai CG Fuels yw’r datblygwr mwyaf  blaenllaw mewn gweithredu Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig).

·         Y cwmni yn bwriadu darparu rhwydwaith eang o gyfleusterau dibynadwy a chyfleus ledled y DU i wasanaethu eu cwsmeriaid ac i fodloni’r gofynion cynyddol gan fflydoedd i ddatgarboneiddio gweithrediadau trafnidiaeth.

·         Bio- CNG wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth y DU.

·         Bod y galw yn cynyddu wrth i gwmnïau cludo a dosbarthu ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon.

·         Eu cwsmeriaid yn cynnwys archfarchnadoedd mawr a chwmnïau logisitig a dosbarthu

·         Bod effaith CNG yn sylweddol - gall leihau 90% ar gyfwerthedd Co2; lleihau gostyngiad o 50% mewn sŵn - sy'n hynod bwysig o ystyried fod y sector HGV yn anodd ei ddatgarboneiddio.

·         Byddai'r orsaf ail-lenwi â thanwydd yn cynnig cyfleuster CNG newydd i wasanaethu fflydoedd sydd yn defnyddio rhwydweithiau lleol.

·         Bod y safle o fewn ardal o alw sylweddol gan eu cwsmeriaid – yn gyfle i ddarparu defnydd gweithredol newydd o fewn yr ystâd.

·         Buddsoddiad ariannol sicr.

·         Byddai'n caniatáu i fflydoedd fanteisio ar fuddion amgylcheddol

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r gwrthwynebiadau lleol

·         Derbyn bod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer cyflogaeth ond nid yw’r fenter yma yn cynnig cyflogaeth

·         Derbyn y byddai prysurdeb cyffredinol ar y safle o ystyried y bwriad blaenorol o greu safle parcio ceir i rannu lifft, ond y bwriad yma yn creu effaith negyddol ar fwynderau trigolion lleol

·         Croesawu tanwydd gwyrdd

·         Llywodraeth Cymru wedi creu gweledigaeth o barc busnes, technegol a glan - nid yw’r bwriad yma yn gydnaws ar weledigaeth honno

·         Y safle yn un sylweddol ar bwriad yma wedi ei osod ar y llain agosaf at y tai – pam na ellid defnyddio lleiniau sydd yn llai agos at y tai?

·         Awgrym cynnal ymweliad safle

 

d)    Cynigiwyd caniatáu y cais - ni chafwyd eilydd

 

e)    Cynigwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle i ymgyfarwyddo â lleoliad yr orsaf arfaethedig

 

f)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·                Croesawu datblygiad tanwydd nwy naturiol a thechnoleg newydd

·                Croesawu pob ymgais i ddiogelu’r amgylchedd

·                O blaid yr egwyddor, ond pryder am agosatrwydd lleoliad yr orsaf i’r tai cyfagos

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: