skip to main content

Agenda item

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Caniatáu – amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau

4.         Dim lorïau yn parcio dros nos

5.         Cynllun tirweddu

6.         Cydymffurfio a chynllun goleuo

7.         Dwr Cymru

8.        Cwblhau yn unol a gofynion asesiad sŵn ac asesiad golau

 

Nodiadau

  • Priffyrdd
  • SUDS

Cofnod:

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10/06/22 

 

a)            Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod penderfyniad ar y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 11 Ebrill, 2022 er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Eglurwyd bod y cynnig yn ymwneud â datblygu cyfleuster tanwydd cerbydau Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig) yn cynnwys ynysoedd pwmp tanwydd, compownd peiriannau, creu mynedfa newydd a datblygiad cysylltiedig o fewn Stad Ddiwydiannol Bryn Cegin. Nodwyd byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig. Nodwyd bod y bwriad yn golygu datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi a’i warchod o fewn y CDLl  fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir Rhanbarthol.

 

Yng nghyd-destun ystyriaethau cynlluniau, prif bryderon yr Aelod Lleol a’r trigolion cyfagos oedd effaith posib y bwriad ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd golau. Amlygwyd bod y safle yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl  - 1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais a bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos na ddisgwylir i effeithiau'r sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, yn dibynnu ar y cyd-destun.

 

Nodwyd bod yr Uned Gwarchod y Cyhoedd bellach wedi derbyn yr hyn yr oedd ymgynghorydd sŵn wedi ei nodi a’r angen i asesu pob safle yn unigol ynghyd a’r lefelau sŵn. Ategwyd bod y safle wedi ei nodi fel stad ddiwydianol ar wybodaeth ychwanegol wedi mynegi na fydd y lefelau sŵn o’r safle yn cael effaith negyddol ar dai y preswylwyr. Er y bydd lefel sgor 4db yn uwch na’r lefel sŵn cefndir presennol ar y sefyllfa waethaf posibl, byddai’r lefelau’n dal i gydymffurfio a’r lefelau a amlinellwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd pe bai’r holl fesurau lliniaru sŵn yn cael eu gweithredu.

 

O ganlyniad i sylwadau Gwasanaeth y Cyhoedd, argymhellwyd cynnwys amod yn cyfeirio at gydymffurfio gyda chynnwys yr asesiad sŵn ac yr asesiad golau. Wedi asesu’r bwriad yn llawn ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau a chanllawiau perthnasol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·                  Mai CG Fuels yw’r datblygwr mwyaf  blaenllaw mewn gweithredu Bio-CNG (nwy naturiol bio cywasgedig).

·                  Y cwmni yn bwriadu darparu rhwydwaith eang o gyfleusterau dibynadwy a chyfleus ledled y DU i wasanaethu eu cwsmeriaid ac i fodloni’r gofynion cynyddol gan fflydoedd i ddatgarboneiddio gweithrediadau trafnidiaeth.

·                  Bio- CNG wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth y DU.

·                  Bod y galw yn cynyddu wrth i gwmnïau cludo a dosbarthu ymrwymo i leihau eu hôl troed carbon.

·                  Eu cwsmeriaid yn cynnwys archfarchnadoedd mawr a chwmnïau logisitig a dosbarthu

·                  Bod effaith CNG yn sylweddol - gall leihau 90% ar gyfwerthedd Co2; lleihau gostyngiad o 50% mewn sŵn - sy'n hynod bwysig o ystyried fod y sector HGV yn anodd ei ddatgarboneiddio.

·                  Byddai'r orsaf ail-lenwi â thanwydd yn cynnig cyfleuster CNG newydd i wasanaethu fflydoedd sydd yn defnyddio rhwydweithiau lleol.

·                  Bod y safle o fewn ardal o alw sylweddol gan eu cwsmeriaid – yn gyfle i ddarparu defnydd gweithredol newydd o fewn yr ystâd.

·                  Buddsoddiad ariannol sicr

·                  Byddai'n caniatáu i fflydoedd fanteisio ar fuddion amgylcheddol

 

    c)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·                  Ei fod yn derbyn bod y safle wedi ei gydnabod fel safle diwydiannol

·                  Bod pryderon sŵn, goleuo ac arogleuo wedi eu hamlygu

·                  Ei fod yn derbyn eglurhad yr ymgeisydd dros ddefnydd y llain benodol yma ar gyfer y bwriad

 

       ch)   Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatau y cais

 

d)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·                Bod camau lliniaru wedi eu gosod ar gyfer materion sŵn a golau

·                Bod y safle wedi ei glustnodi fel safle diwydiannol

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau

4.         Dim lorïau yn parcio dros nos

5.         Cynllun tirweddu

6.         Cydymffurfio a chynllun goleuo

7.         Dwr Cymru

8.        Cwblhau yn unol â gofynion asesiad sŵn ac asesiad golau

 

Nodiadau

 

           Priffyrdd

           SUDS

 

 

Dogfennau ategol: