Agenda item

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu manylion tirweddu ychwanegol.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10/06/22. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi parcio car a charafan yn y cae i geisio amlygu’r effaith.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod gohiriad i benderfyniad ar y cais wedi ei wneud ym mhwyllgor Ebrill 2022 er mwyn cynnal ymweliad safle gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod y  safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad gyda’r daliad presennol yn cynnwys tŷ annedd, iard fferm ac adeiladau cysylltiol a ffordd gyhoeddus dosbarth 3 yn rhedeg heibio’r safle gan wahanu'r iard a safle mynediad y safle carafanau arfaethedig oddi wrth yr annedd dŷ gerllaw. Ategwyd bod y safle a'r ardal gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn ogystal â Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Nodwyd,  gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd yn destun y cais yma, bod rhaid ei ystyried o dan bolisi TWR 5 y CDLl sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Ategywd bod maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.

 

Er yn derbyn bod cynllun plannu a thirweddu wedi ei gyflwyno gan yr ymgieysdd, roedd y swyddogion yn parhau i argymell gwrthod y cais am nad oedd y safle wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac nad yw’r safle mewn lleoliad lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd. Oherwydd hyn, ystyriwyd byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol arwyddocaol a niweidiol ar fwynderau gweledol yr ardal leol ac ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn gwarchod a gwella Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Ystyriwyd fod y bwriad yn groes i faen prawf 1 o bolisi TWR 5, a pholisïau PS19 a AMG 1 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 mabwysiadwyd 31 Gorffennaf 2017.

 

b)    Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd perthynas i’r ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y teulu yn lleol sydd a’i gwreiddiau yn gadarn ym Mhenllyn - wedi eu magu, addysgu ac yn gweithio yn lleol.

·         Bod y bwriad yn gynllun teulu cyfan gyda gobaith o allu datblygu busnes cynhenid, llwyddiannus a hir dymor yn Nhudweiliog; Gyda buddion lluosog i’r economi leol i siopau, tafarndai, bwytai a chyrchfannau gwyliau a phentrefi ym Mhenllyn a thu hwnt.

·         Bod y cais yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion y CDLl ac eithrio un cymal o bolisi Cynllunio TWR 5 sydd yn gysylltiedig ag effaith y datblygiad ar y tirlun.

·         Bod yr ymgeisydd yn datgan rhyfeddod o ystyried bod y cais cynllunio wedi ei gyflwyno ers dros flwyddyn ac mai dyma’r cyfeiriad cyntaf at effaith y datblygiad ar y tirlun.

·         Er na dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Swyddog AHNE fel rhan o’r broses ymgynghori ymddengys bod y Swyddog wedi pennu na fyddai modd i gynllun tirlunio (sydd i gynnwys clawdd pridd  1.5 medr a chynllun plannu coed gwydn cynhenid cynhwysfawr) lwyddo oherwydd ei agosatrwydd at yr arfordir. Er hynny, nid oes barn ymgynghorydd arbenigol i ategu barn y Swyddog i lwyddiant y cynllun plannu.

·         Derbynnir pryder yr Awdurdod Cynllunio lleol am y gallu i dirlunio’r safle yn llwyddiannus. Pe byddai’r pryderon hyn wedi eu rhannu yn ystod y broses gynllunio, byddai cyfle i geisio lliniaru a datrys yr effaith ynghynt.

·         Awgrym i gynnig amod cynllunio tirlunio yn y gobaith y bydd yn cwrdd ac yn ategu effeithiau tirlun y datblygiad. Diben yr amod yw darparu adroddiad arbenigol er mwyn amlygu sut mae sefydlu tyfiant coed a pha rywogaethau cynhenid yw’r mwyaf gwydn mewn ardal arfordirol. Bydd yr adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth gywir i lunio cynllun plannu cynhwysfawr i dirlunio'r ffin weledol.

·         Cynigiwyd ychwanegu ail gymal i’r amod yn gysylltiedig â chyflwyno cynllun ôl-ofal i adolygu’r tyfiant dros gyfnod o 10 mlynedd, lle byddai unrhyw goeden farw yn cael ei hailblannu o’r newydd.

·         Gofynnwyd yn daer os yw’r cynnig yn un rhesymol ac yn datrys pryderon y Swyddog neu’r Adran Gynllunio am amlygrwydd y safle o fewn y tirlun?

·         Bod y sefyllfa sydd yn wynebu cymunedau cefn gwlad yng Ngwynedd - arfordir Penllyn yn arbennig yn un ddirdynnol ac argyfyngus gyda stoc tai lleol o bob maint a dyluniad yn prysur gael ei brynu gan gyflenwyr sydd yn gofyn am dai gwyliau - AirBnB. Mae’r gallu i bobl weithio o adref hefyd yn annog mewnlifiad ac mae cymunedau yn troi yn gynyddol Saesnig ei hiaith a’i natur.

·         Effeithiau bychan ar y tirlun yn y tymor byr a geir yma. Ystyriwyd bod cyfleuster carafanio bychan yn cynnig opsiwn llawer gwell i ymwelwyr allu ymweld â’n hardaloedd a mwynhau’r tirlun gwych gan ddychwelyd yn ôl i’w cymunedau ar ddiwedd eu gwyliau.

·         Gyda diffyg yn y ddarpariaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd llawer mwy o’r stoc dai lleol yn cael ei brynu. Drwy roddi darpariaeth i’r galw cynyddol am unedau gwyliau o safon, y gobaith yw y bydd y ddibyniaeth ar unedau Air BAB a chyffelyb yn lleihau.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod ymgynghoriad eang wedi ei gynnal.

·         Dim gwrthwynebiad wedi ei gyflwyno gan CNC, Cyngor Cymuned, Uned Trafnidaieth na AHNE

·         Bod angen ystyried yn ofalus y balans rhwng effaith ar y dirwedd a hybu  economi leol – cynllun sgrinio wedi ei gyflwyno i liniaru effaith a bod yr ymgeisydd wedi ymrwymo i’r cynllun sgrinio

·         Dim un llythyr / gohebiaeth wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais

·         Deiseb wedi ei lofnodi gan dros 300 yn gefnogol i’r cais

·         Rhaid cefnogi teulu lleol i aros yn eu cymuned a’u hannog yn eu bwriad i sefydlu busnes. Arall gyfeirio yw’r unig opsiwn yn wyneb cynnydd mewn costau amaethu

·         Un corff yn gwrthwynebu gydag un rheswm dros wrthod – y byddai’r bwriad yn creu effaith sywleddol arwyddocaol a niweidiol ar y dirwedd

·         Bod modd dadleu y byddai’r cynllun sgrinio yn gwella’r dirwedd - y safle, y fferm yn daclus a’r dirwedd yn cael ei gwarchod

·         Bydd cloddiau, coed a gwrychoedd yn cael eu plannu i wrthsefyll tywydd garw a hynny wedi i’r ymgeisydd ganfod barn arbenigwr rhyngwladol yn y maes

·         Bydd unrhyw blanhigyn sydd yn gwrthod gwreiddio yn cael ei ail blannu

·         Bod cais am safle carafanau teithiol mwy amlwg wedi ei ganiatáu

·         Bydd deiliaid Tyddyn Isaf yn sgrinio’r safle gan sicrhau bydd y carafanu yn cael eu cuddio yn dda

·         Yn gefnogol i ganiatáu’r cais

 

ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol a’r argymhelliad

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Mater o farn fyddai gwrthod – CNC ac AHNE yn gefnogol

·           Sylwadau’r arbenigwr coed yn synhwyrol – rhaid cydnabod ei arbenigedd

·           Angen cefnogi trigolion lleol a’u cadw yn lleol

·           Bod y safle yn daclus iawn

·           Safleoedd tebyg yn yr un ardal – pam gwahaniaethu?

·           Bod y cynllun tirweddu a phlannu yn un da

·           Bod y cais yn cwrdd gyda 6 o’r 7 maen prawf priodol a bod tystiolaeth wedi ei gyflwyno fel ymateb i’r elfen effaith ar y dirwedd

·           Byddai’r cynllun plannu yn gwella bioamrywiaeth yr ardal

·           Y teulu yn cynnig busnes cynaliadwy a chymunedol fel sydd ei angen

 

·           Bod nifer o feysydd carafanau yn yr ardal - byddai’r cais yma yn cyfrannu at effaith gronnol datblygiadau carafanau teithiol

·           Bod Dwyfor yn boddi dan garafanau – bod dros 10,000 o rai sefydlog heb son am rai teithiol!

 

dd)  Pleidleisiwyd ar y cynnig.

 

 Disgynnodd y cynnig

 

e)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad yn ddarostyngedig ar ofynion y cynllun tirlunio ac amodau sylfaenol

 

Mewn ymateb i’r cynnig amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol y byddai rhaid cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil. Yr AHNE, fel Parc Cenedlaethol gyda statws sydd angen ei warchod. Prif amcan dynodi AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd. Byddai rhai blynyddoedd yn mynd heibio cyn i’r cynllun plannu arfaethedig afael ac felly’r cais yn groes i’r amcan o warchod y dirwedd.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais, yn groes i’r argymhelliad, yn ddarostyngedig ar ofynion y cynllun tirlunio ac  amodau sylfaenol

 

Cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil

 

 

Dogfennau ategol: