Agenda item

Codi pump tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un tŷ fforddiadwy:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio/SUDS

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Materion Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

11.       Triniaethau ffin

Cofnod:

Codi pum tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais wedi ei gyflwyno i’r pwyllgor Cynllunio yn wreiddiol ar 21/06/21 pryd y penderfynwyd ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth dau dŷ fforddiadwy a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dŷ yn rhai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Ategwyd bod  trafodaethau helaeth wedi eu cynnal rhwng swyddogion a’r ymgeisydd ers penderfyniad y pwyllgor ac o ganlyniad i gyflwyno tystiolaeth ariannol manwl, daethpwyd i’r amlwg y byddai’n anhyfyw cynnwys dau dŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.

 

Yn unol â phenderfyniad y pwyllgor i ganiatáu yn ddarostyngedig i drafod a chytuno ar ddisgownt priodol ar gyfer yr unedau fforddiadwy, derbyniwyd prisiad marchnad agored ar gyfer y tai fforddiadwy. Ar sail y wybodaeth ynghyd a chyngor gan yr Uned Strategol Tai, penderfynwyd bod angen disgownt o 40% er mwyn sicrhau fod y tai mewn cyrraedd pobol sydd mewn angen o dŷ fforddiadwy canolradd. Yn dilyn hyn, derbyniwyd gwrthwynebiad i’r disgownt gan yr ymgeisydd gan fyddai disgownt mor uchel yn effeithio hyfywedd y cynllun yn ei gyfanrwydd.

 

Eglurwyd bod gofynion perthnasol y polisi a’r CCA hefyd yn nodi os na ddarperir y gyfran angenrheidiol o unedau fforddiadwy o fewn y safle, yna rhaid ystyried taliad pro-rata yn hytrach na dim darpariaeth fforddiadwy. Yn yr achos yma, ac wedi asesu costau’r datblygiad/adeiladu fel a gyflwynwyd o fewn y prisiad llyfr coch diweddaraf, mae’n glir ar sail cynnwys un uned fforddiadwy gyda disgownt o 40%, na fyddai’n hyfyw darparu uned fforddiadwy arall na gofyn am daliad pro-rata yn lle’r ail uned fforddiadwy. Fel sydd yn cael ei nodi felly yn y polisïau a’r cyngor perthnasol, mae’r elfen fforddiadwy yn yr achos yma yn adlewyrchu nifer yr unedau fforddiadwy yng nghyd destun casgliadau'r asesiad. O ganlyniad, gwnaed penderfyniad i dderbyn un tŷ fforddiadwy ar llain 4 gyda disgownt o 40% i’w ategu trwy gytundeb cyfreithiol fel ei fod yn parhau yn fforddiadwy ar gyfer angen lleol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd llawer o newid i’r cais gwreiddiol a’i bod yn barod i gefnogi’r cynllun

·         Er pryderon carthffosiaeth gan drigolion, cafwyd ymateb derbyniol

·         Bod argyfwng tai ym Mhwllheli ac angen am dai fforddiadwy

·         Bod angen y tai cywir yn y lle cywir

·         Angen ystyried safbwynt y datblygwr – cwmni adeiladu lleol sydd yn datblygu yma – Cymro lleol yn cyflogi yn lleol ac felly yn gefnogol i hyn

·         Nid yw'r cynllun yn hyfyw - y system yn methu - angen adolygiad o’r broses

·         Pryder nad oes datganiad iaith wedi ei gynnwys oherwydd bod y safle o fewn y ffin datblygu ac ystyriaeth eisoes wedi ei roi i’r safle wrth sefydlu’r Cynllun. Angen adroddiad mwy diweddar – y sefyllfa a ffactorau yn newid yn aml

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a ffigwr dangosol ar gyfer clwstwr Pwllheli ac os yw'r ddarpariaeth tai dangosol i Bwllheli dros gyfnod y Cynllun wedi ei gyflawni, amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad yma yn mynd y tu hwnt i lefel cyflenwad dangosol y dref ond bod 3 tŷ ar y safle eisoes wedi eu cymeradwyo, ac felly y cynnydd o 2 uned byw ychwanegol yn dderbyniol yn yr achos yma. Mewn ymateb i gwestiwn ategol os yw ardal tu allan i Bwllheli yn cael ei ystyried, nodwyd nad oedd cyfiawnhad dros ystyried yr ardal ehangach.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a chwblhau cytundeb 106 i sicrhau darpariaeth o un tŷ fforddiadwy:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio/SUDS

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Materion Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

11.       Triniaethau ffin

Dogfennau ategol: