Agenda item

Adeiladu un annedd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd-Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod:-

 

  • Y safle yng nghefn gwlad agored ac nid yw’r bwriad yn un am dŷ menter wledig ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

  • Nid yw’r ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, mae maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy fel y diffinnir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellir sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.  Ni ystyrir felly y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd ond yn caniatáu cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy.  Mae hefyd yn groes i gynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy.

 

Cofnod:

Adeiladu un annedd

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ annedd (3 ystafell wely) o ddyluniad deulawr yn bennaf ond fyddai’n cynnwys storfa gardd o dan ran o’r tŷ arfaethedig (fyddai’n gwneud y rhan hynny yn dri llawr) ar dir ger Môr Awelon, Ffordd Brynhyfryd, Tywyn.  

 

Cyflwynwyd fel rhan o’r cais Ddatganiad Iaith Gymraeg, Datganiad Dyluniad a Mynediad, Datganiad Cynllunio, Asesiad Ecolegol Cychwynnol  a llythyr o gyfiawnhad pellach am dŷ ar y safle sydd yn gorwedd yng nghefn gwlad ond yn union gerllaw ffin ddatblygu Tywyn.  Ategwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Dysynni gyda gwrychoedd o eithin yn bennaf ac ambell i goeden ar y ffin gyda’r ffordd ddosbarth 1 A493 ac Ysbyty Tywyn sydd yn adeilad rhestredig Gradd II ar yr ochr arall.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais y cyn aelod lleol Cyng. Mike Stevens

 

Eglurwyd bod mapiau ar gyfer Tywyn yn amlygu bod y safle yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu'r ganolfan gwasanaeth lleol ac felly ystyriwyd bod y bwriad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad.  Nodwyd bod Polisi Strategol PS 17 - Strategaeth Aneddleoedd yn ymwneud gyda dosbarthiad tai, o safbwynt safle yng nghefn gwlad agored yn nodi mai dim ond datblygiadau tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a NCT 6 fydd yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.  Yn unol gyda NCT 6 un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd yng nghefn gwlad yw pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato.  Ystyriwyd nad oedd y cais presennol yn un am dŷ menter wledig ac felly y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a NCT 6.

 

Yng nghyd -destun cyfiawnhau yr angen am dŷ fforddiadwy ar y safle, amlygwyd nad oedd yr ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, a bod  maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy. Yn ychwanegol, ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellid sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.  Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 sydd ond yn gallu caniatáu fel eithriad gynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu ac sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle ac i gynnwys y Canllaw Cynllunio Ataoldo Tai Fforddiadwy.

 

Yn dilyn derbyn cynllun lleoliad a cynllun safle diwygiedig ynghyd a gwybodaeth ychwanegol am y lleiniau gwelededd, nodwyd bod rheswm gwrthod yn ymwneud a chreu mynediad newydd yn cael ei ddileu.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr eiddo yn un a fydd wedi ei hunan adeiladu

·         Yr ymgeiswyr yn lleol i Tywyn ac yn rhedeg buses llwyddiannus yn yr ardal ers dros 30 mlynedd

·         Eu safle busnes yn cynnig eiddo preswyl ar y safle, ond yr ymgeiswyr bellach eisiau ymddeol ac angen sefydlu cartref

·         Er bod yn berchen tŷ arall yn y dref, bod teulu eisoes yn byw ynddo

·         Bod prinder tai ar werth yn yr ardal a chyfleoedd hunan adeiladu

·         Bod cefnogaeth leol i hunan adeiladu sydd yn ymateb i’r angen

·         Bod y safle yn addas gyda chysylltiadau da

·         Y dyluniad yn addas a bod bwriad defnyddio deunyddiau lleol

·         Bod addasiadau i’r fynedfa ac i ail leoli mynedfa i’r llwybr cyhoeddus bellach yn dderbyniol

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·       Er yn Aelod Lleol, y cais wedi ei alw i mewn gan Aelod arall

·       Y safle tu allan i’r ffin datblygu ac felly dim yn cwrdd a’r polisi

·       Y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 16

·       Bod y safle i’w ystyried fel un i’w gynnwys wrth adolygu’r Polisi   Cynllunio - y cais yn gynamserol

·       Pryderon wedi eu hamlygu yn y dref a nifer yn gwrthwynebu’r cais

·       Pryderon cychwynnol gyda’r mynediad, ond derbyn yr addasiadau

·       Er yr nodi ‘angen’ am dŷ – bod byngalo ar gael ar eu heiddo presennol

·       Yn cytuno gyda’r argymhelliad i wrthod y cais

 

d)            Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod:-

 

·                Y safle yng nghefn gwlad agored ac nid yw’r bwriad yn un am dŷ menter wledig ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i Bolisi Strategol PS 17 a Pholisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

·                Nid yw’r ymgeiswyr wedi cael ei hasesu i fod mewn angen tŷ fforddiadwy, mae maint yr eiddo yn sylweddol fwy na maint tŷ fforddiadwy fel y diffinnir yn y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy ac yn niffyg prisiad o werth marchnad agored yr eiddo ni ellir sicrhau y byddai’r eiddo o bris fforddiadwy nag yn parhau yn fforddiadwy i’r dyfodol.  Ni ystyrir felly y byddai’r bwriad dan sylw yn darparu tŷ fforddiadwy ar y safle a bod y bwriad felly yn groes i ofynion polisi TAI 16 Cynllun Datblygu ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd ond yn caniatáu cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy.  Mae hefyd yn groes i gynnwys y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy.

 

 

Dogfennau ategol: