Agenda item

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Dymchwel rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i greu maes parcio, allosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr gan nodi bod Cyngor Cymuned yn cadarnhau bod ymgynghori hir wedi bod cyn cyflwyno’r cais ac nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i dynnu'r adeilad i lawr gan nad ydi'r cwmni yn cynnig dewis arall, ond bod cryn anfodlonrwydd ymhlith aelodau mai maes parcio sydd i'w greu wedyn ynghyd a safle bychan i ddigwyddiadau

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel adeiladwaith Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru (ar wahân i’r is-orsaf drydan) er mwyn darparu maes parcio newydd, gosod goleuadau, gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau ynghyd a thirlunio cysylltiedig ar safle sydd wedi ei leoli rhwng y pentref a Llyn Padarn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys: -

·         Dymchwel 2,932m2 o arwynebedd llawr yr adeilad presennol ar wahân i 22m2 o arwynebedd yr is-orsaf drydan.

·         Darparu maes parcio ar gyfer y cyhoedd a fyddai’n ychwanegu 110 llecyn parcio ychwanegol i’r maes parcio gyfochrog presennol gan gynnwys 5 llecyn i’r anabl.

·         Darparu 12 gwefr bwyntiau AC cyflym ar gyfer cerbydau ynghyd ag un wefr bwynt DC cyflym ar gyfer cerbydau.

·         Mynedfa i’r maes parcio estynedig drwy ddefnyddio’r fynedfa bresennol oddi ar y ffordd sirol dosbarth I gerllaw (A.4086).

·         Gosod 9 colofn golau 6m o uchder er mwyn goleuo’r maes parcio o ddyluniad a fyddai’n lleihau unrhyw lygredd golau ar y tir o amgylch safle’r cais.

·         Cynllun tirlunio meddal i gynnwys plannu coed, llwyni a blodau gwyllt y ddol.

 

Awgrymwyd mai prif ystyriaeth y cais oedd,  a fyddai’r bwriad yn arwain at golli adnodd gymunedol. Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn datgan bydd y Cyngor yn gwrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy gydymffurfio gydag o leiaf un o feini prawf y polisi, yn benodol yma, mewn perthynas â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol (fel yn yr achos arbennig hwn). Rhaid bod tystiolaeth:

 

·         Nad yw’r defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol – yr ymgeisydd wedi datgan bod y ganolfan ymwelwyr yn cael ei danddefnyddio ac yn rhy fawr i’r cyfleusterau oedd yn bodoli y tu fewn iddo a bod cyflwr yr adeiladwaith eisoes yn creu dolur llygaid o fewn yr ardal leol.

·         Na ellir disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw’n ariannol - gan ystyried y wybodaeth sydd wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd parthed hyfywedd y ganolfan ymwelwyr, ni ddisgwylir yn rhesymol byddai’r defnydd(iau) a wnaed o’r cyfleuster yn flaenorol yn dod yn hyfyw’n ariannol yn y dyfodol agos neu yn yr hir dymor ac na fyddai’n gwneud synnwyr economaidd i barhau defnyddio’r adeilad fel adnodd cymunedol a chanolfan ymwelwyr.

·         Na ellir sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall - gan ystyried y ffaith bod yr adeiladwaith, yn ei gyflwr cyfredol, yn anghynaladwy ynghyd a maint arwynebedd llawr/gofod o fewn yr adeiladwaith ei hun, ni ystyrir byddai’n bosib defnyddio’r adeilad at fudd cymunedol mewn modd sy’n hyfyw’n ariannol

·         Bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster sydd wedi bod yn aflwyddiannus - nid bwriad yr ymgeisydd yw cael gwared â’r safle drwy ei werthu ond yn hytrach i’w ddiogelu a’i ddatblygu ar gyfer defnydd a fyddai’n addas ar ei gyfer yn bresennol ac i’r dyfodol. Mae’r ymgeisydd o’r farn mai’r defnydd mwyaf addas iddo yn y tymor byr/canolig yw fel maes parcio, sydd ynddo’i hun, yn gyfleuster cymunedol amgen. O fewn y cyd-destun yma, mae’r bwriad arfaethedig yn golygu colli un math o adnodd cymunedol a’i ddisodli gan adnodd cymunedol amgen arall.

 

Ategwyd bod posibilrwydd i’r ymgeisydd gyflwyno rhybudd i’r Cyngor, yn unol a gofynion Rhan 31 o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganaiteir) i ddymchwel yr adeilad. Gyda’r ymgeisydd wedi dewid cyflwyno cais cynllunio i newid defnydd y safle, golygai hyn y byddai  gwell rheolaeth dros y bwriad gan y Cyngor.

 

Nodwyd bod ystyriaethau eraill megis materion gweledol, preswyl, bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd yn dderbyniol.  Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso ystyriaethau’r polisïau. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr adeilad wedi ei adeiladu yn yr 80au cynnar ac wedi ei ddylunio a’i gynnig fel Neuadd Chwaraen i’r gymuned. Cafwyd gwrthwynebiad i hyn gan drigolion lleol ac felly crëwyd amgueddfa a chanolfan groeso

·         Nid yw’r adeilad yn addas fel Canolfan – trethi busnes a chostau rhedeg uchel

·         O ganlyniad i’r Clwy Traed a Genau yn 2003 dechreuodd y busnes golli arian ac ers hynny anodd oedd adfer colledion

·         Ystyriwyd creu canolfan newydd ond gyda dyfodiad pandemig covid 2020, ni luniwyd cynllun.

·         Erbyn hyn mae prif falfiau yn y chwarel angen eu hadneywddu ac oherwydd y gwaith adnewyddu ni fydd modd cynnal ymweliadau i’r chwarel sydd felly yn golygu dim defnydd i’r Ganolfan Ymwelwyr

·         Yn hytrach na gweld yr adeilad yn dirywio, y bwriad yw dymchwel a chreu maes parcio mewn ymateb i’r galw am lefydd parcio yn y pentref.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn gwrthwynebu’r cais

·         Siomedig bod yr adeilad yn wag a’r ymdrech tila sydd wedi ei wneud i geisio defnydd amgen o’r adeilad

·         Nad yw creu maes parcio yn ymateb i’r angen lleol - byddai creu lle i 110 o geir yn creu argraff negyddol heb fuddiant nac elw i’r gymuned. Byddai hefyd yn cystadlu yn uniongyrchol gyda maes parcio cyfagos sydd yn fenter gymunedol

·         Trafodaethau ar y gweill a syniadau newydd wedi eu cyflwyno – angen mwy o amser i drafod gyda chwmni digwyddiadau ‘Always Aim High’ a Tim Archub Mynydd

·         Rhodd i’r gymuned oedd y bwriad gwreiddiol. Rhesymau ariannol sydd o fudd i'r cwmni sydd yn cael eu cyflwyno erbyn hyn

·         Nid yw’r rhy hwyr i achub yr adeilad

·         Cais i ohirio’r penderfyniad er mwyn cael cynnal trafodaethau pellach

 

d)    Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r penderfyniad yn unol a chais yr Aelod Lleol

 

Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod angen rheswm gwrthod ar sail materion cynllunio ac os am ohirio i ail gynnal trafodaethau bod rhaid gosod amserlen. Ategwyd hefyd y bydd rhaid ystyried apêl  posib gan yr ymgeisydd am ddiffyg penderfyniad ac nad oedd dim yn atal yr ymgeisydd rhag rhoi rhybudd a dymchwel yr adeilad

 

dd) Cynigiwyd ac eiliwyd gohiro’r penderfyniad hyd Medi 2022 er mwyn caniatáu cyfle pellach i’r gymuned i drafod defnyddiau amgen o’r adeilad gyda’r ymgeisydd.

 

e)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y rhesymau dros ddymchwel yr adeilad yn wan – nid yw cyflwr yr adeilad yn wael

·         Rhodd i’r gymuned oedd bwriad yr adeilad yn y lle cyntaf – rhaid cadw at hyn a galluogi adnodd cymunedol

·         Nid oes angen lle parcio newydd – yn enwedig os oes un gerllaw yn cael ei redeg gan y gymuned

·         Nifer o syniadau wedi eu cynnig gan y gymuned

·         Cais i’r cwmni First Hydro / Engie gymryd sylw o’r angen am adnodd gymunedol

·         A ddylid gwrthod y cais o ystyried nad oes angen maes parcio?

 

       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r angen am ganiatâd cynllunio i ddymchwel yr adeilad, nododd y Pemaeth Cynorthwyol nad oes angen caniatâd i ddymchwel ond os am addasu i faes parcio bod rhaid cael canaitad cynllunio.

 

PENDERFYNWYD: Gohirio hyd Medi 2022 er mwyn caniatáu cyfle pellach i drafod defnyddiau amgen o’r adeilad

 

 

Dogfennau ategol: