Agenda item

Datblygiad preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr a un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith cysylltiedig a creu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Manylion y paneli solar.
  4. Cynllun tirlunio.
  5. Llechi naturiol.
  6. Datblygiad i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru bioamrywiaeth.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos; 08:00 – 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.
  8. Cyfyngu ar lefelau sŵn.
  9. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu.
  10. Amod Dwr Cymru i gyflwyno Datganiad Dull ag Asesiad Risg parthed y brif garthffos sy’n croesi’r safle.
  11. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.
  12. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir o’r tai fforddiadwy.
  13. Sicrhau enw Cymraeg i'r tai a’r stad.

 

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo cytundeb o dan Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl yn cynnwys 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy, gwaith cysylltiedig a chreu mannau parcio ychwanegol (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 6 tŷ deulawr ac un tŷ un llawr fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiedig ar ddiwedd cul-de-sac o fewn Stad Bro Infryn ar gyrion dwyreiniol pentref Glasinfryn ar lecyn o dir gwyrdd gwastad. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys:

·         Darparu unedau fforddiadwy ar ffurf: 1 tŷ deulawr 2 lofft (3 person), 4 tŷ deulawr 2 lofft (4 person), 2 tŷ deulawr 3 llofft (5 person) ynghyd a thŷ un llawr 2 lofft (3 person).

·         Byddai’r tai 2 lofft ar gyfer rhent canolradd gyda gweddill y tai ar gyfer rhent cymdeithasol.

·         Darparu isadeiledd i gynnwys llecynnau parcio, llwybrau troed, man troi, ailgyfeirio cebl BT ac ailgyfeirio’r garthffos gyhoeddus.

·          Codi ffensys amrywiol o amgylch ffiniau’r safle a rhwng y tai.

·         Lleoli storfeydd biniau a storio o fewn gerddi’r tai.

·         Gwaith tirweddu.

 

Eglurwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng yr ymgeisydd, y cynghorydd lleol blaenorol, y Cyng Menna Baines, ynghyd a nifer o drigolion y stad. O ganlyniad, diwygiwyd y cais i ddarparu llecynnau parcio ychwanegol ar ffurf encil fannau ar ymylon gogleddol a deheuol y llecyn lawnt sydd wedi ei leoli yng nghanol y stad.

 

Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol ar sail cyflenwad tai dangosol, cymysgedd tai a’r angen i gwrdd â chyfarch yr angen am y math yma o dai yn yr ardal leol. Nodwyd bod ystyriaethau cynllunio megis mwynderau preswyl gweledol,  diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth a materion ieithyddol yn dderbyniol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater arall cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. I’r perwyl yma, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Adra (Cymdeithas Dai leol) ar gyfer codi 6 tŷ deulawr a 1 bynglo - yr holl unedau yn dai fforddiadwy ac yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolradd a thai rhent cymdeithasol.

·         Bod trafodaethau pre-ap wedi eu cynnal gyda’r adran gynllunio i drafod egwyddor y bwriad ac i dderbyn adborth ar faterion cynllunio perthasol.

·         Yn dilyn cyflwyno’r cais ac yn ystod cyfnod penderfynu’r cais , bu trafodaethau ychwanegol gyda’r cynghorydd lleol a rhywfaint o’r trigolion lleol i drafod rhwyfaint o bryderon oedd ganddynt ar ol gweld manylion y cais.

·         Un o’r pryderon a godwyd oedd parcio a’r pwysau oedd yn yr ardal am lefydd parcio. O ganlyniad i’r trafodaethau yma, cyflwynwyd diwygiadau i’r cynlluniau er mwyn darparu llefydd parcio ychwanegol ar ffin llecyn gwyrdd presennol gerllaw, fel a gytunwyd gyda’r Aelod lleol a’r trigolion.

·         Bod y trigolion eisiau sicrhau bod llwybr troed ar gael er mwyn darparu mynedfa i gefn tai 1 - 4 Bron Infryn - llwybr bellach wedi ei ddarparu fel rhan o’r cynlluniau arfaethedig.

·         Gwnaed newidiadau i ddyluniad y bynglo er mwyn sicrhau ei fod yn addas ac yn cyfarch angen teulu penodol a fyddai yn ei feddiannu. Trafodaethau wedi bod rhwng Adra a’r Therapydd Galwadigaethol yn Derwen er mwyn sicrhau bod y dyluniad yn addas.

·         Bod yr angen ar gyfer tai fforddiadwy yn lleol wedi ei gadarnhau yn Adroddiad Arolwg Anghenion Tai gan yr Hwylusydd Tai Gwledig. Uned Strategol Tai y Cyngor yn cytuno bod y cais yn cyfarch angen am dai yn yr ardal ac bod y cynllun wedi ei gynnwys mewn rhaglen i dderbyn grant tai cymdeithasol gan Llywodraeth Cymru.

·         Bod adroddiad y swyddog yn cadarnhau bod egwyddor y bwriad yn dderbynniol a bod yr holl faterion cynllunio perthnasol eraill yn dderbyniol ynghyd a’r amodau a gynigir i’r ymgeisydd.

·         Bod y bwriad yn darparu tai fforddiadwy sydd eu hangen i gyfarch angen lleol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·     Mai’r Cynghorydd Menna Baines oedd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ynglyn a gwelliannau’r cais cyn i’r ffiniau newydd ddod i rym Mai 2022

·           Er bod dwy farn yn lleol am y bwriad, bod y cynllun yn estyniad taclus i’r stad bresennol

·           Bod yr unedau yn fforddiadwy ac yn ymateb i’r angen lleol

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag  agosatrwydd y stad, sydd yn un Gymraeg ei hiaith, at glwstwr tai dangosol Bangor, ar effaith y gall hyn gael ar y stad, cyfeiriodd y Pennaeth Cynorthwyol at sylwadau’r Uned Iaith. Nodwyd, er nad oedd angen Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais gan fod digon o gyflenwad ar ôl ym mhentrefi clystyrau Gwynedd ar gyfer tai ychwanegol, bod datganiad ieithyddol wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r canlyniad y byddai’r bwriad, o’i ganiatáu, yn cael elfen o effaith bositif ar yr iaith Gymraeg o ystyried y farchnad dai lleol.  Byddai’r bwriad yn darparu 7 tŷ fforddiadwy ar gyfer cyfarch ag angen lleol yn bresennol ac i’r dyfodol ac ystyriwyd y byddai’r rhan helaeth o’r darpar ddeiliaid yn lleol ac, i’r perwyl hyn, byddai’r bwriad yn cael effaith niwtral ar y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nglasinfryn.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau.

3.         Manylion y paneli solar.

4.         Cynllun tirlunio.

5.         Llechi naturiol.

6.         Datblygiad i’w gario allan yn unol â mesurau lliniaru bioamrywiaeth.

7.         Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos; 08:00 – 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

8.         Cyfyngu ar lefelau sŵn.

9.         Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu.

10.       Amod Dwr Cymru i gyflwyno Datganiad Dull ag Asesiad Risg parthed y brif garthffos sy’n croesi’r safle.

11.       Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.

12.       Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir o’r tai fforddiadwy.

13.       Sicrhau enw Cymraeg i'r tai a’r stad.

 

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

 

NODYN: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i arwyddo cytundeb o dan Adran 38 o’r Ddeddf Briffyrdd.

 

 

 

Dogfennau ategol: